YouVersion Logo
Search Icon

Eseciel 7

7
Daeth y Diwedd
1Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, 2“Tithau, fab dyn, dywed#7:2 Felly Fersiynau. Hebraeg heb dywed., ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth dir Israel: Diwedd! Daeth y diwedd ar bedwar cwr y wlad. 3Daeth y diwedd yn awr arnat ti, ac anfonaf fy nig arnat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalaf iti am dy holl ffieidd-dra. 4Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
5“ ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Trychineb ar ben#7:5 Felly Syrieg. Hebraeg, un. trychineb! Y mae'n dod! 6Daeth diwedd! Daeth y diwedd! Y mae wedi cychwyn yn dy erbyn! Fe ddaeth! 7Fe ddaeth y farn arnat ti sy'n byw yn y wlad; daeth yr amser, agos yw'r dydd; y mae terfysg, ac nid llawenydd, ar y mynyddoedd#7:7 Tebygol. Hebraeg yn aneglur.. 8Yn awr, ar fyrder, tywalltaf fy llid arnat a chyflawni fy nig tuag atat; barnaf di yn ôl dy ffyrdd, a thalu iti am dy holl ffieidd-dra. 9Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, nac yn trugarhau; talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n taro.
10“ ‘Dyma'r dydd! Fe ddaeth! Aeth y farn allan. Blagurodd anghyfiawnder, blodeuodd traha, 11tyfodd trais yn anghyfiawnder dybryd; ni adewir neb ohonynt, neb o'r dyrfa, na dim o'u cyfoeth na dim o werth. 12Daeth yr amser, cyrhaeddodd y dydd. Na fydded i'r prynwr lawenhau nac i'r gwerthwr ofidio, oherwydd daeth dicter ar y dyrfa i gyd. 13Ni ddychwel y gwerthwr at yr hyn a werthodd, cyhyd ag y byddant ill dau'n fyw; oherwydd ni throir yn ôl y weledigaeth ynglŷn â'r dyrfa. O achos drygioni ni fydd yr un ohonynt yn dal gafael yn ei einioes. 14Er iddynt ganu utgorn a gwneud popeth yn barod, nid â yr un allan i ryfel, oherwydd y mae fy nicter ar y dyrfa i gyd.
15“ ‘Oddi allan y mae cleddyf, ac oddi mewn haint a newyn; bydd y rhai sydd allan yn y maes yn marw trwy'r cleddyf, a'r rhai sydd yn y ddinas yn cael eu hysu gan newyn a haint. 16Bydd yr holl rai a ddihangodd i'r mynyddoedd, fel colomennod y dyffryn, pob un ohonynt yn griddfan am ei ddrygioni. 17Bydd pob llaw yn llipa a phob glin fel glastwr; 18byddant yn gwisgo sachliain, ac wedi eu gorchuddio â braw; bydd cywilydd ar bob wyneb a moelni ar bob pen. 19Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp. 20Yr oeddent yn llawenhau â balchder yn eu tlysau hardd, ac yn eu gwneud yn ddelwau ffiaidd ac atgas; am hynny yr wyf yn eu hystyried yn aflan. 21Fe'u rhoddaf yn ysbail yn nwylo estroniaid, ac yn anrhaith i rai drygionus y ddaear, a halogir hwy. 22Trof fy wyneb oddi wrthynt, a halogir fy nhrysor; daw ysbeilwyr i mewn yno a'i halogi a gwneud anrhaith.#7:22 Cymh. Groeg. Hebraeg, Gwna'r gadwyn yn yr adn. ddilynol yn lle gwneud anrhaith.
23“ ‘Am fod y wlad yn llawn o dywallt gwaed#7:23 Felly Groeg. Hebraeg, o farn gwaed., a'r ddinas yn llawn o drais, 24dof â'r rhai gwaethaf o'r cenhedloedd yno, a byddant yn meddiannu eu tai; rhoddaf derfyn ar falchder y rhai cedyrn, ac fe halogir eu cysegrleoedd. 25Y mae dychryn ar ddyfod, a byddant yn ceisio heddwch, ond heb ei gael. 26Daw trallod ar ben trallod, a sibrydion ar ben sibrydion; ceisiant weledigaeth gan y proffwyd, a bydd y gyfraith yn pallu gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid. 27Bydd y brenin mewn galar, a'r tywysog wedi ei wisgo ag arswyd, a bydd dwylo pobl y wlad yn crynu. Gwnaf â hwy yn ôl eu ffyrdd, a barnaf hwy yn ôl eu safonau eu hunain; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”

Currently Selected:

Eseciel 7: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in