1
Eseciel 7:19
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004
Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp.
Compare
Explore Eseciel 7:19
2
Eseciel 7:27
Bydd y brenin mewn galar, a'r tywysog wedi ei wisgo ag arswyd, a bydd dwylo pobl y wlad yn crynu. Gwnaf â hwy yn ôl eu ffyrdd, a barnaf hwy yn ôl eu safonau eu hunain; a chânt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ”
Explore Eseciel 7:27
3
Eseciel 7:4
Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, ac ni fyddaf yn trugarhau, ond talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.
Explore Eseciel 7:4
4
Eseciel 7:9
Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, nac yn trugarhau; talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n taro.
Explore Eseciel 7:9
Home
Bible
Plans
Videos