YouVersion Logo
Search Icon

Actau 20

20
Taith Paul i Facedonia a Gwlad Groeg
1Pan beidiodd y cynnwrf, anfonodd Paul am y disgyblion, ac wedi eu hannog, ffarweliodd â hwy ac aeth ymaith ar ei ffordd i Facedonia. 2Wedi teithio trwy'r parthau hynny ac annog llawer ar y disgyblion yno, daeth i wlad Groeg. 3Treuliodd dri mis yno, a phan oedd ar hwylio i Syria, gwnaeth yr Iddewon gynllwyn yn ei erbyn, a phenderfynodd ddychwelyd trwy Facedonia. 4Ei gyd-deithwyr oedd Sopater o Berea, mab Pyrrhus, y Thesaloniaid Aristarchus a Secwndus, Gaius o Derbe#20:4 Yn ôl darlleniad arall, o Doberius., a Timotheus, a'r Asiaid Tychicus a Troffimus. 5Yr oedd y rhain wedi mynd o'n blaen, ac yn aros amdanom yn Troas. 6Hwyliasom ninnau, wedi dyddiau'r Bara Croyw, o Philipi, a chyrraedd atynt yn Troas ymhen pum diwrnod; ac yno y buom am saith diwrnod.
Ymweliad Olaf Paul â Troas
7Ar ddydd cyntaf yr wythnos, daethom ynghyd i dorri bara. Dechreuodd Paul, a oedd i fynd ymaith drannoeth, eu hannerch, a daliodd i draethu hyd hanner nos. 8Yr oedd llawer o lampau yn yr oruwchystafell lle'r oeddem wedi ymgynnull, 9ac yr oedd dyn ifanc o'r enw Eutychus yn eistedd wrth y ffenestr. Yr oedd hwn yn mynd yn fwy a mwy cysglyd, wrth i Paul ddal i ymhelaethu. Pan drechwyd ef yn llwyr gan gwsg, syrthiodd o'r trydydd llawr, a chodwyd ef yn gorff marw. 10Ond aeth Paul i lawr; syrthiodd arno a'i gofleidio, a dywedodd, “Peidiwch â chynhyrfu; y mae bywyd ynddo.” 11Yna aeth i fyny, a thorri'r bara a bwyta. Yna, wedi ymddiddan am amser hir hyd doriad dydd, aeth ymaith. 12Ond aethant â'r llanc adref yn fyw, ac fe'u calonogwyd yn anghyffredin.
Y Fordaith o Troas i Miletus
13Aethom ninnau o flaen Paul i'r llong, a hwylio i gyfeiriad Asos, gan fwriadu ei gymryd i'r llong yno; oblegid dyma'r cyfarwyddyd a roesai ef, gan fwriadu mynd ei hun dros y tir. 14Pan gyfarfu â ni yn Asos, cymerasom ef i'r llong a mynd ymlaen i Mitylene. 15Wedi hwylio oddi yno drannoeth, cyraeddasom gyferbyn â Chios, a'r ail ddiwrnod croesi i Samos, a'r dydd#20:15 Yn ôl darlleniad arall, ac ar ôl aros yn Trogylium, y dydd. wedyn dod i Miletus. 16Oherwydd yr oedd Paul wedi penderfynu hwylio heibio i Effesus, rhag iddo orfod colli amser yn Asia, gan ei fod yn brysio er mwyn bod yn Jerwsalem, pe bai modd, erbyn dydd y Pentecost.
Araith Paul i Henuriaid Effesus
17Anfonodd o Miletus i Effesus a galw ato henuriaid yr eglwys. 18Pan gyraeddasant ato, dywedodd wrthynt, “Fe wyddoch fel y bûm i gyda chwi yr holl amser, er y diwrnod cyntaf y rhois fy nhroed yn Asia, 19yn gwasanaethu'r Arglwydd â phob gostyngeiddrwydd, ac â dagrau a threialon a ddaeth i'm rhan trwy gynllwynion yr Iddewon. 20Gwyddoch nad ymateliais rhag cyhoeddi i chwi ddim o'r hyn sydd fuddiol, na rhag eich dysgu chwi yn gyhoeddus ac yn eich cartrefi, 21gan dystiolaethu i Iddewon a Groegiaid am edifeirwch tuag at Dduw a ffydd yn ein Harglwydd Iesu. 22Ac yn awr dyma fi, dan orfodaeth yr Ysbryd, ar fy ffordd i Jerwsalem, heb wybod beth a ddigwydd imi yno, 23ond bod yr Ysbryd Glân o dref i dref yn tystiolaethu imi fod rhwymau a gorthrymderau yn fy aros. 24Ond yr wyf yn cyfrif nad yw fy mywyd o unrhyw werth imi, dim ond imi allu cwblhau fy ngyrfa, a'r weinidogaeth a gefais gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu i Efengyl gras Duw.
25“Ac yn awr, rwy'n gwybod na chewch weld fy wyneb mwyach, chwi oll y bûm i'n teithio yn eich plith gan gyhoeddi'r Deyrnas. 26Gan hynny, yr wyf yn tystio i chwi y dydd hwn fy mod yn ddieuog o waed unrhyw un; 27oblegid nid ymateliais rhag cyhoeddi holl arfaeth Duw i chwi. 28Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw#20:28 Yn ôl darlleniad arall, eglwys yr Arglwydd., yr hon a enillodd ef â gwaed ei briod un#20:28 Neu, â'i waed ei hun.. 29Mi wn i y daw i'ch plith, wedi fy ymadawiad i, fleiddiaid mileinig nad arbedant y praidd, 30ac y cyfyd o'ch plith chwi eich hunain rai yn llefaru pethau llygredig, i ddenu'r disgyblion ymaith ar eu hôl. 31Gan hynny, byddwch yn wyliadwrus, gan gofio na pheidiais i, na nos na dydd dros dair blynedd, â rhybuddio pob un ohonoch â dagrau. 32Ac yn awr yr wyf yn eich cyflwyno i Dduw ac i air ei ras, sydd â'r gallu ganddo i'ch adeiladu, ac i roi i chwi eich etifeddiaeth ymhlith yr holl rai a sancteiddiwyd. 33Ni chwenychais arian nac aur na gwisgoedd neb. 34Fe wyddoch eich hunain mai'r dwylo hyn a fu'n gweini i'm hanghenion i ac eiddo'r rhai oedd gyda mi. 35Ym mhopeth, dangosais i chwi mai wrth lafurio felly y mae'n rhaid cynorthwyo'r rhai gwan, a dwyn ar gof y geiriau a lefarodd yr Arglwydd Iesu ei hun: ‘Dedwyddach yw rhoi na derbyn.’ ”
36Wedi dweud hyn, fe benliniodd gyda hwy oll a gweddïo. 37Torrodd pawb i wylo'n hidl, a syrthio ar wddf Paul a'i gusanu, 38gan ofidio yn bennaf am iddo ddweud nad oeddent mwyach i weld ei wyneb. Yna aethant i'w hebrwng ef i'r llong.

Currently Selected:

Actau 20: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in