YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 9

9
Ymweliad Brenhines Sheba
1 Bren. 10:1–13
1Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i Jerwsalem i'w brofi â chwestiynau caled. Cyrhaeddodd gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl, 2ac atebodd yntau bob un o'i chwestiynau; nid oedd dim yn rhy dywyll i Solomon ei esbonio iddi. 3A phan welodd brenhines Sheba ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, 4ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'i esgynfa i fyny i dŷ'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd. 5Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ti a'th ddoethineb. 6Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd wrthyf mo'r hanner am dy ddoethineb enfawr; yr wyt yn tra rhagori ar yr hyn a glywais. 7Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb. 8Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar ei orseddfainc yn frenin iddo. Am i'th Dduw garu Israel a'i sefydlu am byth, y mae wedi dy wneud di'n frenin arnynt, i weinyddu barn a chyfiawnder.” 9Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni fu erioed y fath beraroglau â'r rhai a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon.
10Byddai gweision Hiram a gweision Solomon yn dod ag aur o Offir; byddent hefyd yn cludo llawer iawn o goed almug a gemau. 11Gwnaeth y brenin risiau#9:11 Felly Groeg. Hebraeg yn aneglur. ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun allan o'r coed almug, a hefyd gwnaeth i'r cantorion delynau a nablau na welwyd eu bath o'r blaen yng ngwlad Jwda.
12Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwenychodd, mwy nag a ddug hi iddo ef. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.
Cyfoeth y Brenin Solomon
1 Bren. 10:14–29
13Yr oedd pwysau'r aur a ddôi i Solomon mewn blwyddyn yn chwe chant chwe deg a chwech o dalentau, 14heblaw yr hyn a gâi gan y marchnadwyr a'r masnachwyr; hefyd fe ddôi holl frenhinoedd Arabia a rheolwyr y taleithiau ag aur ac arian iddo. 15Gwnaeth y Brenin Solomon ddau gan tarian o aur gyr, a rhoi chwe chan sicl o aur gyr ym mhob tarian. 16Gwnaeth hefyd dri chan bwcled o aur gyr, gyda thri mina o aur ym mhob un; 17a rhoddodd y brenin hwy yn Nhŷ Coedwig Lebanon. Gwnaeth y brenin orseddfainc fawr o ifori, a'i goreuro ag aur coeth. 18Yr oedd i'r orseddfainc chwe gris a throedle aur; yr oedd dwy fraich o boptu i'r sedd a dau lew yn sefyll wrth y breichiau. 19Yr oedd hefyd ddeuddeg llew yn sefyll, un bob pen i bob un o'r chwe gris. Ni wnaed ei thebyg mewn unrhyw deyrnas. 20Yr oedd holl lestri gwledda'r Brenin Solomon o aur, a holl offer Tŷ Coedwig Lebanon yn aur pur. Nid oedd yr un ohonynt o arian, am nad oedd bri arno yn nyddiau Solomon. 21Yr oedd gweision Hiram yn mynd â llongau'r brenin i Tarsis, ac unwaith bob tair blynedd fe ddôi llongau Tarsis â'u llwyth o aur, arian ac ifori, ac epaod a pheunod.
22Rhagorodd y Brenin Solomon ar holl frenhinoedd y ddaear mewn cyfoeth a doethineb. 23Ac yr oedd holl frenhinoedd y ddaear yn ymweld â Solomon i glywed y ddoethineb a roes Duw yn ei galon. 24Bob blwyddyn dôi rhai â'u rhoddion—llestri aur ac arian, gwisgoedd, myrr, perlysiau, meirch a mulod. 25Yr oedd gan Solomon bedair mil o gorau ar gyfer meirch a cherbydau, a deuddeng mil o feirch, a gedwid yn y dinasoedd cerbyd a chydag ef yn Jerwsalem. 26Ac yr oedd yn teyrnasu ar yr holl frenhinoedd o'r Ewffrates hyd at wlad y Philistiaid ar derfyn yr Aifft. 27Parodd y brenin i arian fod mor aml yn Jerwsalem â cherrig, a chedrwydd mor gyffredin â sycamorwydd y Seffela. 28A dôi ceffylau i Solomon o'r Aifft ac o'r holl wledydd.
Crynodeb o Deyrnasiad Solomon
1 Bren. 11:41–43
29Am weddill hanes Solomon, o'r dechrau i'r diwedd, onid yw ar gael yn llyfr Nathan y proffwyd, ac ym mhroffwydoliaeth Aheia o Seilo, ac yng ngweledigaethau Ido y gweledydd yn erbyn Jeroboam fab Nebat? 30Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am ddeugain mlynedd. 31Pan fu farw, a'i gladdu yn ninas ei dad Dafydd, daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Currently Selected:

2 Cronicl 9: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in