YouVersion Logo
Search Icon

2 Cronicl 10

10
Gwrthryfel Llwythau'r Gogledd
1 Bren. 12:1–20
1Aeth Rehoboam i Sichem, gan mai i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo'n frenin. 2Pan glywodd Jeroboam fab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle'r oedd wedi ffoi rhag y Brenin Solomon, dychwelodd oddi yno. 3Galwyd arno, ac fe ddaeth yntau a holl Israel a dweud wrth Rehoboam, 4“Trymhaodd dy dad ein hiau; os gwnei di'n awr ysgafnhau peth ar gaethiwed caled dy dad, a'r iau drom a osododd arnom, yna fe'th wasanaethwn.” 5Dywedodd yntau wrthynt, “Ewch i ffwrdd am dridiau, ac yna dewch yn ôl ataf.” Aeth y bobl. 6Ymgynghorodd Rehoboam â'r henuriaid oedd yn llys ei dad Solomon pan oedd yn fyw, a gofynnodd, “Sut y byddech chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn?” 7Eu hateb oedd, “Os byddi'n glên wrthynt, a'u bodloni a'u hateb â geiriau teg, byddant yn weision iti am byth.” 8Ond gwrthododd y cyngor a roes yr henuriaid, a cheisiodd gyngor y llanciau oedd yn gyfoedion iddo ac yn aelodau o'i lys. 9Gofynnodd iddynt hwy, “Beth ydych chwi'n fy nghynghori i ateb y bobl hyn sy'n dweud wrthyf, ‘Ysgafnha rywfaint ar yr iau a osododd dy dad arnom’?” 10Atebodd y llanciau oedd yn gyfoed ag ef, “Fel hyn y dywedi wrth y bobl hyn sy'n dweud wrthyt, ‘Gwnaeth dy dad ein hiau yn drwm; ysgafnha dithau arnom’. Ie, dyma a ddywedi wrthynt: ‘Y mae fy mys bach i yn braffach na llwynau fy nhad! 11Y mae'n wir i'm tad osod iau drom arnoch, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach. Cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!’ ”
12Pan ddaeth Jeroboam a'r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd dydd, yn ôl gorchymyn y brenin, “Dewch yn ôl ataf ymhen tridiau”, 13atebodd y brenin hwy'n chwyrn. Diystyrodd Rehoboam gyngor yr henuriaid, a derbyn cyngor y llanciau. 14Dywedodd wrthynt, “Trymhaodd fy nhad eich iau, ond fe'i gwnaf fi hi'n drymach; cystwyodd fy nhad chwi â chwip, ond fe'ch cystwyaf fi chwi â ffrewyll!” 15Felly ni wrandawodd y brenin ar y bobl, oherwydd fel hyn y tynghedwyd gan Dduw, er mwyn i'r ARGLWYDD gyflawni'r gair a lefarwyd drwy Aheia o Seilo wrth Jeroboam fab Nebat.
16A phan welodd holl Israel nad oedd y brenin am wrando arnynt, daeth ateb oddi wrth y bobl at y brenin:
“Pa ran sydd i ni yn Nafydd?
Nid oes gyfran inni ym mab Jesse.
Adref i'th bebyll, Israel!
Edrych at dy dŷ dy hun, Ddafydd!”
17Yna aeth Israel adref. Ond yr oedd rhai Israeliaid yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam yn frenin arnynt. 18Pan anfonodd y brenin atynt Adoram, goruchwyliwr y llafur gorfod, llabyddiodd yr Israeliaid ef a'i ladd; ond llwyddodd y Brenin Rehoboam i gyrraedd ei gerbyd a ffoi i Jerwsalem. 19Ac y mae Israel mewn gwrthryfel yn erbyn llinach Dafydd hyd heddiw.

Currently Selected:

2 Cronicl 10: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in