YouVersion Logo
Search Icon

1 Corinthiaid 15

15
Atgyfodiad Crist
1Yr wyf am eich atgoffa, gyfeillion, am yr Efengyl a bregethais i chwi ac a dderbyniasoch chwithau, yr Efengyl sydd yn sylfaen eich bywyd 2ac yn foddion eich iachawdwriaeth. A ydych yn dal i lynu wrth yr hyn a bregethais? Onid e, yn ofer y credasoch. 3Oherwydd, yn y lle cyntaf, traddodais i chwi yr hyn a dderbyniais: i Grist farw dros ein pechodau ni, yn ôl yr Ysgrythurau; 4iddo gael ei gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Ysgrythurau; 5ac iddo ymddangos i Ceffas, ac yna i'r Deuddeg. 6Yna, ymddangosodd i fwy na phum cant o'i ddilynwyr ar unwaith—ac y mae'r mwyafrif ohonynt yn fyw hyd heddiw, er bod rhai wedi huno. 7Yna, ymddangosodd i Iago, yna i'r holl apostolion. 8Yn ddiwethaf oll, fe ymddangosodd i minnau hefyd, fel i ryw erthyl o apostol. 9Oherwydd y lleiaf o'r apostolion wyf fi, un nad wyf deilwng i'm galw yn apostol, gan imi erlid eglwys Dduw. 10Ond trwy ras Duw yr wyf yr hyn ydwyf, ac ni bu ei ras ef tuag ataf yn ofer. Yn wir, mi lafuriais yn helaethach na hwy i gyd—eto nid myfi, ond gras Duw, a oedd gyda mi. 11Ond p'run bynnag ai myfi ai hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwithau.
Atgyfodiad y Meirw
12Yn awr, os pregethir Crist, ei fod wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, sut y mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw? 13Os nad oes atgyfodiad y meirw, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. 14Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, gwagedd yw'r hyn a bregethir gennym ni, a gwagedd hefyd yw eich ffydd chwi, 15a ninnau hefyd wedi ein cael yn dystion twyllodrus i Dduw, am ein bod wedi tystiolaethu iddo gyfodi Crist—ac yntau heb wneud hynny, os yw'n wir nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi. 16Oherwydd os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi, nid yw Crist wedi ei gyfodi chwaith. 17Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich pechodau yr ydych o hyd. 18Y mae'n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist wedi darfod amdanynt. 19Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio yng Nghrist,#15:19 Neu, bywyd hwn, yr unig beth sydd gennym yng Nghrist yw gobaith. nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb.
20Ond y gwir yw fod Crist wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, yn flaenffrwyth y rhai sydd wedi huno. 21Gan mai trwy ddyn y daeth marwolaeth, trwy ddyn hefyd y daeth atgyfodiad y meirw. 22Oherwydd fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y gwneir pawb yn fyw yng Nghrist. 23Ond pob un yn ei briod drefn: Crist y blaenffrwyth, ac yna, ar ei ddyfodiad ef, y rhai sy'n eiddo Crist. 24Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu. 25Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed. 26Y gelyn olaf a ddilëir yw angau. 27Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur, “darostyngodd bob peth dan ei draed ef.” Ond pan yw'n dweud bod pob peth wedi ei ddarostwng, y mae'n amlwg nad yw hyn yn cynnwys Duw, yr un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef. 28Ond pan fydd pob peth wedi ei ddarostwng i'r Mab, yna fe ddarostyngir y Mab yntau i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, ac felly Duw fydd oll yn oll.
29Os nad oes atgyfodiad, beth a wna'r rhai hynny a fedyddir dros y meirw? Os nad yw'r meirw'n cael eu cyfodi o gwbl, i ba bwrpas y bedyddir hwy drostynt? 30Ac i ba ddiben yr ydym ninnau hefyd mewn perygl bob awr? 31Yr wyf yn marw beunydd! Y mae hyn cyn wired â bod gennyf ymffrost ynoch, gyfeillion, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 32Os fel dyn cyffredin yr ymleddais â bwystfilod yn Effesus,#15:32 Neu, Os, yn ôl ymadrodd dynion, “ymleddais â bwystfilod” yn Effesus. pa elw fyddai hyn imi? Os na chyfodir y meirw,
“Gadewch inni fwyta ac yfed,
canys yfory byddwn farw.”
33Peidiwch â chymryd eich camarwain:
“Y mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.”
34Deffrowch i'ch iawn bwyll, a chefnwch ar bechod. Oherwydd y mae rhai na wyddant ddim am Dduw. I godi cywilydd arnoch yr wyf yn dweud hyn.
Corff yr Atgyfodiad
35Ond bydd rhywun yn dweud: “Pa fodd y mae'r meirw'n cael eu cyfodi? Â pha fath gorff y byddant yn dod?” 36Y ffŵl! Beth am yr had yr wyt ti yn ei hau? Ni roddir bywyd iddo heb iddo farw yn gyntaf. 37A'r hyn yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd ydyw, ond gronyn noeth, o wenith efallai, neu o ryw rawn arall. 38Ond Duw, yn ôl ei ewyllys ei hun, sydd yn rhoi corff iddo, i bob un o'r hadau ei gorff ei hun. 39Oherwydd nid yr un cnawd yw pob cnawd, ond un peth yw cnawd dynion, peth arall yw cnawd anifeiliaid, peth arall yw cnawd adar, a pheth arall yw cnawd pysgod. 40Y mae hefyd gyrff nefol a chyrff daearol, ond un peth yw gogoniant y rhai nefol, a pheth gwahanol yw gogoniant y rhai daearol. 41Un peth yw gogoniant yr haul, a pheth arall yw gogoniant y lloer, a pheth arall yw gogoniant y sêr. Yn wir, y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42Felly hefyd y bydd gyda golwg ar atgyfodiad y meirw. Heuir mewn llygredigaeth, cyfodir mewn anllygredigaeth. 43Heuir mewn gwaradwydd, cyfodir mewn gogoniant. Heuir mewn gwendid, cyfodir mewn nerth. Yn gorff anianol yr heuir ef, yn gorff ysbrydol y cyfodir ef. 44Os oes corff anianol, y mae hefyd gorff ysbrydol. 45Felly, yn wir, y mae'n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf, Adda, yn fod byw.” Ond daeth yr Adda diwethaf yn ysbryd sydd yn rhoi bywyd. 46Eithr nid yr ysbrydol sy'n dod gyntaf, ond yr anianol, ac yna'r ysbrydol. 47Y dyn cyntaf, o'r ddaear y mae, a llwch ydyw; ond yr ail ddyn, o'r nef y mae. 48Y mae'r rhai sydd o'r llwch yn debyg i'r dyn o'r llwch, ac y mae'r rhai sydd o'r nef yn debyg i'r dyn o'r nef. 49Ac fel y bu delw'r dyn o'r llwch arnom, felly hefyd y bydd delw'r dyn o'r nef arnom.
50Hyn yr wyf yn ei olygu, gyfeillion: ni all cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw, ac ni all llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth. 51Clywch! Yr wyf yn mynegi dirgelwch ichwi: nid ydym i gyd i huno, ond yr ydym i gyd i gael ein newid, mewn eiliad, ar drawiad amrant, ar ganiad yr utgorn diwethaf. 52Oherwydd bydd yr utgorn yn seinio, y meirw'n cael eu cyfodi yn anllygredig, a ninnau'n cael ein newid. 53Oherwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisgo anfarwoldeb. 54A phan fydd y llygradwy hwn wedi gwisgo anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisgo anfarwoldeb, yna bydd y geiriau hyn sydd yn ysgrifenedig yn dod yn wir:
“Llyncwyd angau mewn buddugoliaeth.
55O angau, ble mae dy fuddugoliaeth?
O angau, ble mae dy golyn?”
56Colyn angau yw pechod, a grym pechod yw'r Gyfraith. 57Ond i Dduw y bo'r diolch, yr hwn sy'n rhoi'r fuddugoliaeth i ni trwy ein Harglwydd Iesu Grist. 58Felly, fy nghyfeillion annwyl, byddwch yn gadarn a diysgog, yn helaeth bob amser yng ngwaith yr Arglwydd, gan eich bod yn gwybod nad yw eich llafur yn yr Arglwydd yn ofer.

Currently Selected:

1 Corinthiaid 15: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy