YouVersion Logo
Search Icon

1 Corinthiaid 14

14
Dawn Tafodau a Dawn Proffwydo
1Dilynwch gariad yn daer, a rhowch eich bryd ar y doniau ysbrydol, yn enwedig dawn proffwydo. 2Oherwydd y mae'r sawl sydd yn llefaru â thafodau yn llefaru, nid wrth bobl, ond wrth Dduw. Nid oes unrhyw un yn ei ddeall; llefaru pethau dirgel y mae, yn yr Ysbryd. 3Ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn llefaru wrth bobl bethau sy'n eu hadeiladu a'u calonogi a'u cysuro. 4Y mae'r sawl sy'n llefaru â thafodau yn ei adeiladu ei hun, ond y mae'r sawl sy'n proffwydo yn adeiladu'r eglwys. 5Mi hoffwn ichwi i gyd lefaru â thafodau, ond yn fwy byth ichwi broffwydo. Y mae'r sawl sy'n proffwydo yn well na'r sawl sy'n llefaru â thafodau, os na all ddehongli'r hyn y mae'n ei ddweud, er mwyn i'r eglwys gael adeiladaeth.
6Yn awr, gyfeillion, os dof atoch gan lefaru â thafodau, pa les a wnaf i chwi, os na ddywedaf rywbeth wrthych sy'n ddatguddiad, neu'n wybodaeth, neu'n broffwydoliaeth, neu'n hyfforddiant? 7Ystyriwch offerynnau difywyd sy'n cynhyrchu sŵn, fel ffliwt neu delyn; os na seiniant eu nodau eglur eu hunain, sut y mae gwybod beth sy'n cael ei ganu arnynt? 8Ac os yw'r utgorn yn rhoi nodyn aneglur, pwy sy'n mynd i'w arfogi ei hun i frwydr? 9Felly chwithau: wrth lefaru â thafodau, os na thraethwch air y gellir ei ddeall, pa fodd y gall neb wybod beth a ddywedir? Malu awyr y byddwch. 10Mor niferus yw'r mathau o ieithoedd sydd yn y byd! Ac nid oes unman heb iaith. 11Ond os nad wyf yn deall ystyr y siaradwr, byddaf yn farbariad aflafar iddo, ac yntau i minnau. 12Gan eich bod chwi, felly, a'ch bryd ar ddoniau'r Ysbryd, ceisiwch gyflawnder o'r rhai sy'n adeiladu'r eglwys. 13Felly, bydded i'r sawl sy'n llefaru â thafodau weddïo am y gallu i ddehongli. 14Oherwydd os byddaf yn gweddïo â thafodau, y mae fy ysbryd yn gweddïo, ond y mae fy meddwl yn ddiffrwyth. 15Beth a wnaf, felly? Mi weddïaf â'm hysbryd, ond mi weddïaf â'm deall hefyd. Mi ganaf â'r ysbryd, ond mi ganaf â'r deall hefyd. 16Onid e, os byddi'n moliannu â'r ysbryd, pa fodd y gall rhywun sydd heb ei hyfforddi ddweud yr “Amen” i'r diolch yr wyt yn ei roi, os nad yw'n deall beth yr wyt yn ei ddweud? 17Yr wyt ti'n wir yn rhoi'r diolch yn ddigon da, ond nid yw'r llall yn cael ei adeiladu. 18Diolch i Dduw, yr wyf fi'n llefaru â thafodau yn fwy na chwi i gyd. 19Ond yn yr eglwys, y mae'n well gennyf lefaru pum gair â'm deall, er mwyn hyfforddi eraill, na deng mil o eiriau â thafodau.
20Fy nghyfeillion, peidiwch â bod yn blantos o ran deall; byddwch yn fabanod o ran drygioni, ond yn aeddfed o ran deall. 21Y mae'n ysgrifenedig yn y Gyfraith:
“ ‘Trwy rai o dafodau dieithr,
ac â gwefusau estroniaid,
y llefaraf wrth y bobl hyn,
ac eto ni wrandawant arnaf,’
medd yr Arglwydd.”
22Arwyddion yw tafodau, felly, nid i gredinwyr, ond i anghredinwyr; ond proffwydoliaeth, nid i anghredinwyr y mae, ond i gredinwyr. 23Felly, pan ddaw holl aelodau'r eglwys ynghyd i'r un lle, os bydd pawb yn llefaru â thafodau, a phobl heb eu hyfforddi, neu anghredinwyr, yn dod i mewn, oni ddywedant eich bod yn wallgof? 24Ond os bydd pawb yn proffwydo, ac anghredadun neu rywun heb ei hyfforddi yn dod i mewn, fe'i hargyhoeddir gan bawb, a'i ddwyn i farn gan bawb; 25daw pethau cuddiedig ei galon i'r amlwg, ac felly bydd yn syrthio ar ei wyneb ac yn addoli Duw a dweud, “Y mae Duw yn wir yn eich plith.”
Popeth i'w Wneud mewn Trefn
26Beth amdani, ynteu, gyfeillion? Pan fyddwch yn ymgynnull, bydd gan bob un ei salm, ei air o hyfforddiant, ei ddatguddiad, ei lefaru â thafodau, ei ddehongliad. Gadewch i bob peth fod er adeiladaeth. 27Os oes rhywun yn llefaru â thafodau, bydded i ddau yn unig, neu dri ar y mwyaf, lefaru, a phob un yn ei dro; a bydded i rywun ddehongli. 28Os nad oes dehonglydd yn bresennol, bydded y llefarydd yn ddistaw yn y gynulleidfa, a llefaru wrtho'i hun ac wrth Dduw. 29Dim ond dau neu dri o'r proffwydi sydd i lefaru, a'r lleill i bwyso'r neges. 30Os daw datguddiad i rywun arall sy'n eistedd gerllaw, bydded i'r proffwyd sy'n llefaru dewi. 31Oherwydd gall pawb ohonoch broffwydo, bob yn un, er mwyn i bawb gael addysg a chysur. 32Ac y mae ysbryd pob proffwyd yn ddarostyngedig i'r proffwyd. 33Nid Duw anhrefn yw Duw, ond Duw heddwch.
Yn ôl y drefn ym mhob un o eglwysi'r saint, 34dylai'r gwragedd fod yn ddistaw yn yr eglwysi, oherwydd ni chaniateir iddynt lefaru. Dylent fod yn ddarostyngedig, fel y mae'r Gyfraith hefyd yn dweud. 35Os ydynt am gael gwybod rhywbeth, dylent ofyn i'w gwŷr eu hunain gartref, oherwydd peth anweddus yw i wraig lefaru yn y gynulleidfa. 36Ai oddi wrthych chwi y cychwynnodd gair Duw? Neu ai atoch chwi yn unig y cyrhaeddodd?
37Os oes rhywun ohonoch yn tybio ei fod yn broffwyd, neu'n rhywun ysbrydol, dylai gydnabod mai gorchymyn yr Arglwydd yw'r hyn yr wyf yn ei ysgrifennu atoch. 38Os oes rhai nad ydynt yn cydnabod hynny, ni chânt hwythau eu cydnabod.#14:38 Yn ôl darlleniad arall, hynny, gadewch iddo beidio â'i gydnabod. 39Felly, fy nghyfeillion, rhowch eich bryd ar broffwydo, a pheidiwch â gwahardd llefaru â thafodau. 40Dylid gwneud popeth yn weddus ac mewn trefn.

Currently Selected:

1 Corinthiaid 14: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy