YouVersion Logo
Search Icon

Doethineb 17

17
PEN. XVII.
Dialedd Duw ar y rhai anwir.
1DY farnedigaethau di ydynt faŵr, ac anhawdd eu treuthu: am hynny yr aeth y rhai anyscedic ar gyfeilorn.
2O blegit y rhai anwir yn amcanu cael llywodraeth ar y genedl sanctaidd, wedi eu rhwymo mewn tywyllwch, ai llyffetheirio ai gwarche tros hîr-nos a orweddasant i ffoi rhag [dy] ragluniaeth dragywyddol di.
3Canys pan amcanasant hwy lechu mewn cuddiedic bechodau can dywyll orchudd angof, hwy a wascarwyd wedi eu dechrynnu yn aruthrol, ai trallodi gan weledigaethau.
4Er hynny ni alle y gîlfach yr hon ai dalie hwynt eu cadw hwynt yn ddiofn: eithr yr oedd cwrwf yn swnio o amgylch, yr hwn oedd yn eu blino hwynt, a gweledigaethau ŵyneb sarric yn ymddangos.
5Nid oedd dim gallu gan y tân i lewyrchu, ac ni alle ddisclaer lewyrch y sêr oleuo y nôs athrist honno.
6Canys tân yn vnic yn cynneu o honaw ef hun yn llawn ofn, a ymddangsodd iddynt hwy, ac wedi eu dychrynny hwynt a’r weledigaeth honno (yr hon ni welid,) hwy a dybiasant fôd y pethau a welid yn waeth.
7Felly y #Exod.7.11. & 8.7.gosodwyd i lawr oferedd celfyddyd hudoliaeth, a’r gwradwyddus gerydd a gafodd y rhai a wnaent ffrost oi synnwyr.
8O blegit y rhai a addawsant yrru allan ofn a blinder o’r enaid llesc, a aethant yn llesc eu hun rhag ofn yr hwn y gellid chwerthin oi blegit.
9O herwydd oni ddychrynne dim blîn hwynt, er hynny wrth fynediad bwyst-filod heibio a chan chwibanniad seirph y byddent hwy feirw o ofn, gan ommedd edrych ar yr a­wyr yr hwn nid oes achos iw ochelyd.
10Canys peth ofnus yw drygioni wedi rhoddi barn iw erbyn wrth ei destiolaeth ei hun, a chydwybod pan wescid arni a faedde erioed bethau creulon.
11Canys nid yw ofn ddim, ond anobaith o’r help a gaffer gan reswm.
12O herwydd pa leiaf fyddo y gobaith oddi fewn, mwyaf y tebyg efe fôd anwybodaeth o’r achos yr hwn fydd yn peri blinder.
13Eithr y rhai [a ddioddefasant] y nôs ar­uthrol, a gyscasāt yr vn hûn o gilfechudd vffern aruthrol,
14Weithie a flinid â gweledigaethau rhyfedd, ac weithieu a lywygent gan anobaith meddwl: canys ofn disymmwth, ac heb edrych am dano a ddeue arnynt hwy.
15Wedi hynny fel hyn, pwy vn bynnac a syrthie yno efe a gedwid, ac a gaeid mewn carchar heb haiarn.
16Os llafur-wr fydde vn, neu fugail neu vn yn gwneuthur y gwaith yr hwn fydd yn y diffaethwch, pan gymmeryd ef ymmaith, efe a deioddefe yr anghen ni’s gellid ei ochelyd.
17O blegit ag vn gadwyn tywyllwch y rhwymid hwynt oll,
18Naill ai gwynt chwiban, ai hyfrydaidd sain adar ym mysc y canghennau tewon, ai cyssain dwfr yn cerdded yn chwyrn, neu erchyll sŵn creigiau a fwrid i lawr, neu redfa anifeiliaid yn molestotta heb eu gweled, neu lais creulon bwyst-filod rhuadwy, neu yr adsain a ddadseinie o gilfach y mynyddoedd ai dechrynnent hwynt fel y llewygent.
19Canys yr holl fyd a oleuid yn oleu ddisclaer, a [phawb] a barhae wrth ei waith heb rwystr.
20Yn vnic arnynt hwy y ddaethe nôs drom sef cyffelybrwydd i’r tywyllwch yr hwn a ddeue arnynt hwy, ac iddynt hwy yr oedd efe yn drymmach nâ thywyllwch.

Currently Selected:

Doethineb 17: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in