YouVersion Logo
Search Icon

Doethineb 16

16
PEN. XVI.
Cosp addol-wyr gau dduwiau. 20 A daioni Duw i’r ffyddloniaid.
1AM hynny y cospwyd hwynt a’r cyffelyb, fel yr haeddent, #Pen.11.13.|WIS 11:13. Num.26.6.ac y dialeddwyd hwynt â lluosogrwydd o anifeiliaid.
2Yn lle yr hwn ddialedd y gwnaethost ti ddaioni i’th bobl dy hun, i ba rai o herwydd chwant eu blŷs hwynt y paratoaist ti sofl-ieir yn ym­borth o flâs dieithr.
3Fel y cafodd y rhai hynny pan oeddynt yn blysio eu troi oddi wrth y bwyd, o herwydd y chwant a ddangosasant hwy i’r pethau a anfonasit er eu bôd yn anghenrheidiol, a’r rhai hyn weddi eu bôd tros ychydig ennyd mewn eisieu a wnaed yn gyfrannogion o archwaeth mewydd.
4O blegit yr oedd yn rhaid i angen yr hwn ni ellid ei ochel ddyfod ar y rhai hynny a arferasent drahusdeb: eithr i’r rhai hyn digon oedd yn vnic ddangos pa fodd y rhoed dialedd ar eu gelynnion hwynt.
5Canys #Num.21.6.|NUM 21:6. 1.cor.10.9.5.pan ddaeth creulon lîd bwyst-filod arnynt ai llygru hwynt â brathiadau seirph do­lennoc,
6Nid hyd y diwedd yr arhôdd dy ddigofaint di: iw rhybuddio y blinwyd hwynt ychydig o ennyd, gan gael gwystl am yr iechydwriaeth i feddwl am orchymyn dy gyfraith di.
7O blegit yr hwn a droed [at yr arwydd hwnnw,] nid gan yr hyn o welid yr iecheid efe, eithr gennit ti iachawdur pob peth.
8A thrwy hyn y gwnaethost ti i’n gelynnion ni gredu mai tydi yw yr hwn sydd yn achub o bôb drwg.
9Y rhai a laddodd #Exod.8.24|EXO 8:24 & 10.4.|EXO 10:4. gwel.9.7.brath locwstiaid a chacwn, ac ni chaed meddiginiaeth iddynt hwy: o blegit hwy a haeddent eu cospi a’r cyfryw.
10Ond ni wnai dannedd dreigiau gwenŵynic niwed i’th blant di: o blegit dy drugaredd di a ddeue yn erbyn hynny, ac ai hiachae hwynt.
11Canys i feddwl am dy ymadroddion di y brathwyd hwynt, ac hwy yn ebrwydd a iachauwyd, rhag iddynt trwy syrthio mewn dyfn angof, fyned fel na ellid eu syfur er dy ddaioni di.
12O blegit nid llysieun nac eli ai iachaodd hwynt, eithr dy air di (oh Arglwydd) yr hwn sydd yn iachau pôb dim.
13O herwydd y mae i ti feddiant ar enioes ac angeu, #Deut.32.39.|DEU 32:39. 1.sam.2.6.|1SA 2:6. tobias.13.2.ac yr ydwyt ti yn dwyn i wared hyd byrth vffern, ac yn dwyn i fynu trachefn.
14A dŷn yn ei ddrygioni a ladd [vn,] a phan elo yr yspryd allan ni ddychwel efe, ac ni ddettyd efe yr enaid a gymmerit ymmaith.
15Eithr amhossibl yw diang rhag dy law di.
16O blegit #Exod.9.23.yr annuwolion y rhai ydynt yn gwadu eu bôd yn dy adnabod di a ffrewyllwyd o nerth dy fraich di, gan gael eu herlid â rhyfedd law â chenllysc, ac â chafodau heb allu eu gochelyd, ac hwy a ddifethwyd a thân.
17A’r hyn sydd ryfeddaf y tân oedd yn gweithio fwy-fwy o achos y dwfr yr hwn sydd yn diffoddi pob peth: canys y byd sydd yn ymladd tros y rhai cyfiawn.
18Canys weithie fe a fydde llai y fflam, fel na losce hi yr anifeiliaid a anfonid yn erbyn y rhai annuwiol, eithr trwy weled hwy a allent ŵybod mai trwy farn Duw y cystuddid hwynt.
19Ac weithie efe a losce ym mysc y dwfr yn fwy nag y galle tân, i ddifetha ffrwyth tir yr anghyfiawn.
20Yn lle hynny #Exod.16.14.|EXO 16:14. num.11.7.|NUM 11:7. psal.78.25.|PSA 78:25. ioan.6.31.â bwyd angelion y porthaist ti dy bobl dy hun, a thi a anfonaist iddynt hwy fara parod o’r nefoedd yn ddiboen, yr hwn a wasanaethe i bôb hyfrydwch, ac i bôb cymmwys archwaeth,
21Eithr dy sylwedd di sydd yn dangos fe­lysed gennit dy blant, yr hon sydd yn gwasaenaethu yr hwn a gyfarfyddo â hi, ac yn ymdymheru at yr hyn a ewyllysio vn.
22Yr #Exod.9.23.eira hefyd ar iâ a oeddynt yn dioddef y tân ac heb doddi, fel y gallent hwy ŵy­bod mai ’r tân yr hwn oedd yn ffaglu yn y cenllysc ac yn llewyrchu yn y glaw oedd yn difetha ffrwyth y gelynnion.
23Hwn hefyd (fel y cae y rhai cyfiawn eu cynnal) a ollyngodd ei allu dros gof.
24O blegit y creadur yr hwn sydd yn dy wasanaethu di (yr hwn a wnaethost bôb peth a annelir i beri dialedd ar yr anghyfiawn, ac a ddadannelir i wneuthur daioni i’r rhai a ym­ddyriedant ynot ti.
25Am hynny efe yna yn ymrithio i bôb beth a wasanaethe dy râs di (yr hwn fydd yn maethu pôb peth) wrth ewyllys y rhai anghenus.
26Fel y dysco dy blant di, y rhai fydd hoff gennit ti (ô Arglwydd) #Deut.8.3. matth.4.4.nad cynnyrch ffrwyth sydd yn porthi dŷn, eithr mai dy air di sydd yn cadw y rhai a gredant ynot.
27O blegit y peth ni lygrodd y tân wedi ei dwymno ychydig gan belydr yr haul a feiriolodd yn ebrwydd.
28Fel y bydde hyspys y dylid achub blaen yr haul i rodddi diolch i ti, a gweddio attat ti cyn codi haul.
29O blegit gobaith yr aniolchgar a dawdd fel iâ y gaiaf, ac a ddifera fel dwfr difudd.

Currently Selected:

Doethineb 16: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in