YouVersion Logo
Search Icon

Susanna 1

1
Y ddau lywodraeth-wr yn chwennychu Susanna. 19 Hwynt yn ei dal hi yn vnic yn yr ardd, 20 ac yn ceisio ei hudo hi i gyd-orwedd â hwynt. 23 Hithe yn ddewisach genddi beidio â phechu yn erbyn Duw, er bod hynny yn enbydrwydd am ei henioes. 45 Daniel yn ei gwaredu hi. 62 Rhoddi y llywodraeth-wyr i farwolaeth.
1Yr oedd gŵr yn presswylio yn Babilon ai enw Ioacim. 2Ac efe a briododd wraig ai henw Susanna, merch Helcias, yr hon oedd lân iawn, ac yn ofni’r Arglwydd. 3Ei thad hi ai mam oeddynt bobl ffyddlon gyfiawn ac a ddyscasent eu merch yn ôl cyfraith Moses. 4A Ioacim oedd gyfoethog iawn; ac iddo ef yr oedd gardd dêg yn gyfagos i’w dŷ. At yr hwn yr ymgynhulle yr Iddewon, am ei fod efe yn anrhydeddusach nâ neb. 5A’r flwyddyn hōno y rhoddwyd dau henuriad o’r bobl yn farnwŷr, am y rhai y dywedodd yr Arglwydd mai o Babilon y daeth yr anwiredd, oddi wrth y barnwŷr hynaf, y rhai a gymmerent arnynt lywodraethu’r bobl. 6Y rhai hyn oedd yn aros yn nhŷ Ioacim: ac attynt y tramwye pawb oll a’r a ymgyfreithient. 7A (phan fydde ’r bobl yn myned ymmaith ganol y dydd) y bydde i Susanna fyned i rodio i ardd ei gŵr. 8A’r ddau henuriad ai gwelent hi beunydd yn myned i mewn, ac yn rhodio: fel yr oeddynt mewn chwant iddi hi: 9A hwy a lygrasent eu meddwl, fel na ddychwelent eu llygaid i edrych tu a’r nefoedd, ac nad argofient am gyfiawn farnau. 10Ac er eu bod ill deuoedd yn gwŷnfydu o ei hachos hi: atto ni ddangose ’r naill y gofid oedd arno i’r llall, 11O herwydd bod yn wradwydd ganddynt ddangos eu bod mewn chwant iw chorff hi. 12A beunydd y disgwilient yn ddyfal am ei gweled hi. 13A’r naill a ddywedodd wrth y llall: awn i’r tŷ, am ei bôd hi yn bryd ciniaw. 14Yna’r aethant y naill oddi wrth y llall: ac [er hynny] troi a wnaethant eilchwel a dyfod i’r un man, ac wedi chwilio ’r achos rhyngddynt, cyffessu a wnaethant bôb un iw gilydd eu chwant, ac yn unfryd llunio amser y gallent ei chael hi ei hunan. 15Ac fel yr oeddynt yn disgwil amser cyfaddas, Susanna a aeth i mewn (fel yr arfere beunydd) a dwy forwyn gyd â hi yn unic, ar fedr ymolchi yn yr ardd, canys brŵd oedd [yr hîn.] 16Nid oedd neb yno onid y ddau henuriad, y rhai a ymguddiasent yno iw disgwil hi. 17A hi a ddywedod wrth ei morwyniō, dygwch i mi olew a sebon, o cheiwch ddryssau ’r ardd, fel y gallwyf i ymolchi. 18A’r morwynion a wnaethant fel yr archase hi, ac wedi iddynt gaeu drysseu ’r ardd hwy a aethant allan i ddrws dirgel, i gyrchu ’r petheu a archasid iddynt: eithr ni welsant mo’r henuriaid, o achos eu bod guddiedig. 19Ac fe ddarfu wedi i’r morwynion fyned allan, i’r ddau henuriad godi a rhedeg atti hi, a dywedyd: 20Wele ddrysseu ’r ardd yn gaead, fel na all neb ein gweled: yr ydym ni ein deuoedd mewn chwant i ti: cyd-orwedd â ni, a bydd gyd â ni. 21Os tydi ni wnei hynny, nyni a destiolaethwn yn dy erbyn fod gŵr ieuangc gyd â thi, ac anfon o honot y morwynion ymmaith oddi wrthit am hynny. 22Yna’r ochneidiodd Susanna gan ddywedyd: yr ydwŷf fi mewn cyfyngdra o’r ddeutu: os y peth hwn a wnafi, marwolaeth yw i mi, os minnau ni’s gwnaf, ni allaf fi ddiangc o’ch dwylo chwi. 23Etto mae yn ddewisach gennifi syrthio yn eich dwylo chwi yn ddieuog, na phechu gerbron yr Arglwydd: yna Susanna a ddolefawdd â llef uchel. 24Felly y llefodd y ddau henuriad yn ei herbyn hi. 25A’r naill a redodd, ac a agorodd ddryssau ’r ardd. 26Pan glybu tylwyth y tŷ y llefain yn yr ardd, myned a wnaethant i mewn i’r drws dirgel, i edrych beth a ddarfuase iddi hi. 27Eithr wedi i’r henuriaid ddywedyd eu chwedl, cywilyddio yn ddir fawr a wnaeth y gweision, o herwydd ni buase ’r fath air i Susanna o’r blaen. 28A thrannoeth, pan ddaeth y bobl i dŷ Ioacim ei gŵr hi: y ddau henuriad hefyd a ddaethant yno, yn llawn drwg feddwl i Susanna, ar ei rhoi hi i’w marwolaeth. 29A dywedasant yng-ŵydd y bobl, cyrchwch ymma Susanna ferch Helcias, gwraig Ioacim, a hwy a cyrchasant hi. 30Hithe a ddaeth ai rhieni, ai phlant ai holl geenedl. 31Susanna oedd dyner a phrydferth ei gwêdd. 32A’r rhai anwir hyn a barasant dynnu ymaith ei moled hi (canys yr oedd hi mewn moled) fel y gallent hwy borthi eu chwant âi thegwch hi. 33Yna ’r ŵylodd cynnifer un a’r a oedd yn ei chylch hi, a’r rhai oll ai hadwaenent hi. 34A’r ddau henuriad a safasant i fyny ym mhlith y bobl, ac a roddasant eu dwylo ar ei phen hi. 35A hithe yn ŵylo a edrychodd i fyny i’r nefoedd am fod ei chalon hi ai goglyd ar yr Arglwydd. 36A’r henuriaid a ddywedasant: pan oeddem ni yn rhodio ein hunain yn yr ardd, y daeth hi a dwy lawforwyn i mewn, ac wedi iddi hi eu hanfon hwynt ymmaith a chaeu ’r dryssau, 37Fe a ddaeth gŵr ieuangc atti yr hwn oedd yno yn guddiedig, ac a orweddodd gyd â hi. 38A phan welsom ninnau yng-hongl yr ardd y cyfryw anwiredd, ni a redasom attynt, ac a welsom fel yr oeddynt ynghyd. 39Ac ni allassom moi ddala ef am ei fod yn gryfach nâ ni, eithr efe a agorodd y drws, ac a ddiangodd. 40Wedi i ni ddala hon ni ai holassom hi, pwy oedd y gŵr ieuangc hwnnw, ac ni ddangose hi i ni: a hyn yr ydym ni yn ei destiolaethu. 41A’r gynulleidfa ai credodd hwynt megis henuriaid a barnwŷr y bobl: ac felly hwynt ai barnassant hi iw marwolaeth. 42Yna Susanna a lefodd â llef uchel, gan ddywedyd, O Dduw tragwyddol, i’r hwn y mae pob dirgelwch yn agored, ac a ŵyddost bob peth cyn ei ddigwydd, 43Ti a wyddost gam destiolaethu o honynt yn fy erbyn, ac yn awr y mae yn rhaid i mi farw, er na wneuthym i’m hoes y pethau y mae’r gwŷr hyn wedi eu drwg ddychymyg i’m herbyn. 44A’r Arglwydd a wrādawodd ar ei llef hi: 45Ac a a gyffrôdd ysbryd sanctaidd bachgennyn ieuangc ai enw Danielwrth, yr hwn (a hi yn myned iw marwolaeth) a lefodd yn uchel: 46Gwirion wyf fi oddi wrth waed y wraig hon. 47A’r holl bobl a droesant atto ef, ac a ddywedasant, beth yw’r ymadrodd hwn a ddywedaist ti? 48Ac efe a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd: ô Israeliaid a ydych chwi mor ansynhwyrol a gadel yn euog ferch ô Israel, heb lwyr chwilio a gwybod y gwirionedd? 49Troiwch eilchwel i’r frawdle: canys testiolaethu a wnaethant gelwydd yn ei herbyn hi. 50A’r holl bobl a droesant ar ffrwst: a’r hynafgwŷr a ddywedassant wrtho, tyret eistedd yn ein plith a dangos i ni, gan i Dduw dy roddi ti fraint henuriad. 51A Daniel a ddywedodd wrthynt, nailltuwch hwynt oddi wrth ei gilydd ymhell, a mi ai holaf hwynt. 52Phan ddarfu nailltuo ’r naill oddi wrth y llall, efe a alwodd un ohonynt, ac a ddywedodd wrtho: ô hên ddiffeithwr yr awran y daeth dy bechodau yn dy erbyn y rhai a wnaethost o’r blaen. 53A’th gam farnau a fernaist, yn gadel yn euog y gwirion, ac yn rhyddhau ’r anwir: lle y dywedodd yr Arglwydd, na ladd y gwirion a’r cyfiawn. 54Felly yn awr os hon a welaist ti, dangos dan ba ryw bren y gwelaist ti hwynt yng-hyd? yna’r attebodd yntef, dann lentysc-bren. 55A Daniel a ddywedodd, gwych y dywedaist gelwydd yn erbyn dy ben dy hun, canys angel yr Arglwydd wrth farn Duw a’th wahana di yn ddau. 56Yna wedi troi hwnnw heibio, efe a barodd ddyfod â’r llall, ac a ddywedodd wrtho: ô hiliogaeth Canaan, ac nid hil Iuda, tegwch a’th dwyllodd di, a chwant a lygrodd dy galon. 57Fel hyn y gwnaethoch chwi â merched Israel, y rhai rhag ofn a gytunasant â chwi: eithr merch Iwda 58Ni chynhwysodd ddim o’ch anwiredd, felly dywet i mi dan ba ryw bren y deliaist di hwynt yng-hyd? Ac efe a attebodd, tann brinwŷdden. 59A Daniel a ddywedodd wrtho: gwych y dywedaist ditheu hefyd gelwydd yn erbyn dy ben dy hun: canys y mae angel yr Arglwydd yn aros â’r cleddyf ganddo i’th dorri di yn dy hanner, ac i’ch difetha chwi eich deuoedd. 60Yna y llefodd yr holl gynulleidfa â llef uchel gan foli’r Arglwydd yr hwn a wared y sawl a ymddiriedo ynddo ef. 61A hwynt a godasant yn erbyn y ddau henuriad, (canys Daniel ai gosodase hwynt ar eu geiriau eu hunain o gam-destiolaeth) 62A hwy a wnaethant iddynt y modd yr amcanasent hwy wneuthur ar gam âi cymydog, ac ai rhoddasant iw marwolaeth, yn ôl cyfraith Moses: felly y gwaredwyd y gwaed gwirion y dydd hwnnw. 63Yna Helcias ai wraig a glodfawrasant Dduw dros ei merch Susanna gyd ag Ioacim ei gŵr hi, ai holl genedl, am na chawsid ynddi ddim gwradwyddus. 64Ac o’r dydd hwnnw allan y daeth Daniel mewn parch mawr ym mhlith y bobl. 65A’r brenin Astiages a roddwyd at ei henafiaid, a Cyrus y Persiad a gymmerodd ei frenhiniaeth ef.
Terfyn Hystoria Susanna.

Currently Selected:

Susanna 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in