YouVersion Logo
Search Icon

Bel a’r ddraig 1

1
1A Daniel oedd yng-hyfeddach y brenin, ac yn wr urddassol ym mhlith ei holl gefeillion ef. 2Ac yr ydoedd eulun i’r Babiloniaid a elwid Bel ar yr hwnn yr oeddid yn treulio beunydd ddeuddeng mhesur o beillied, a deugein o ddefeid, a chwe chelyrned o win, 3A’r brenhin ai anrhydedde ef, beunydd yr aei i’w addoli: eithr Daniel a addole ei Dduw ei hun, a’r brenin a ddywedodd wrtho: pa ham nad wyt ti ’n addoli Bel? 4Ac efe a attebodd ac a ddywedodd am nad anrhydeddaf i eulynnod gwneuthuredig â dwylaw onid y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a’r ddaiar, ac sydd iddo feddiant ar bob cnawd. 5A’r brenin a ddywedodd wrtho, onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwytta ac yn ei yfed beunydd? 6A Daniel a ddywedodd dan chwerthin: na thwyller di ô frenin, hwn oddi mewn sydd glai, ac oddi allan yn brês, ni fwytaodd, ac nid yfodd er ioed. 7Yna ’r brenin yn ddigllawn a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt: oni ddywedwch i mi pwy sydd yn mwynhau ’r draul hon, meirw fyddwch. 8Os gellwch chwi ddangos imi fod Bel yn bwytta y petheu hyn, marw a gaiff Daniel am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd wrth y brenin: fel y dywedaist bydded. 9(Offeiriaid Bel oeddynt ddêc a thrugein heb law eu gwragedd ai plant: ) a’r brenin a aeth gyd â Daniel i deml Bel. 10A’r offeiriaid hefyd a ddywedasant: wele ni a awn allan: dod ti i’r brenin y bwydydd [yn eu lle] a gosot y gwin wedi i ti ei gymmyscu, a chae ’r drws, a selia a’th fodrwy: 11Ar boreu pan ddelech, oni bydd Bel wedi bwytta ’r cwbl, llader ni: os amgen byddet Daniel yn gelwyddog yn ein herbyn ni. 12Canys diar swyd oeddynt, o herwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd guddiedig, i’r hon yr aent i mewn bôb amser, ac y cyrchent ymmaith y petheu hynny. 13Yna wedi iddynt fyned allan, ac i’r brenin osod y bwydydd (ger bron) Bel, y gorchymynodd Daniel i’w weision ddwyn lludw, yr hwn a danasant dros gwbl o’r deml yng-ŵydd y brenin ei hun, ac wrth fyned allan hwynt a gaeasant y porth, ac ai seliasant â modrwy y brenin, ac a aethant ymmaith. 14A’r offeiriaid a aethant i mewn gefn y nos, yn ôl eu harfer ai gwragedd, ai plant, ac a fwyttasant, ac a yfasant y cwbl. 15A’r boreu y brenin a gododd yn foreu iawn, a Daniel gyd ag ef. 16A’r brenin a ofynnodd, a ydyw y selau yn gyfan Daniel? ac yntef a attebodd, y maent yn gyfan ô frenin. 17A chyn gyflymmed ag yr agorassid y drws y brenin a edrychodd tua ’r bwrdd, ac a lefodd yn uchel: mawr wyt ti ô Bel, ac nid oes dim twyll ynot. 18Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac a ddywedodd gwêl y llawr, ac edrych ôl pwy [yw ’r] rhain. 19A’r brenin a ddywedodd, mi a welaf ôl traed gwŷr a gwragedd, a phlant. 20A llidio a wnaeth y brenin, a dala ’r offeiriaid ai gwragedd ai plant y rhai o ddangosassant iddo y drysseu cuddiedig i’r rhai yr oeddynt yn myned i mewn i fwytta ’r petheau oeddynt ar y bwrdd. 21A’r brenin ai lladdodd hwynt, ac a roes Bel yn rhoddi i Ddaniel, yr hwn ai dinistriodd ef â Deml. 22Yr oedd hefyd ddraig fawr yno, a’r Babiloniaid ai anrhydeddent hi. 23A’r brenin a ddywedodd wrth Ddaniel: a ddywedi di mai efydd yw honn? Wele hi yn fyw, ac yn bwytta, ac yn yfed, ni elli di ddywedyd nad yw honn Dduw byw, am hynny addola hi. 24Wrth yr hwn y dywedodd Daniel, myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw ’r Duw byw. 25Os ty di ô frenin a rydd y mi [gennad] mi a laddaf y ddraig hon heb na chleddyf na ffonn, a’r brenin a ddywedodd, mi a roddaf i ti gennad. 26Yna y cymmerth Daniel byg, a gwêr a blew, ac ai berwodd yng-hyd, ac a wnaeth dammeidiau o honynt, ac ai rhoes yn safn y ddraig, a’r ddraig a rwygodd yn ddrylliau, ac efe a ddywedodd: wele ’r petheu yr ydych yn eu hanrhydeddu. 27Ac fe a ddigwyddodd i’r Babiloniaid pan glywsant hynny ddirfawr lidio a throi yn erbyn y brenin gan ddywedyd, y brenin a aeth yn Iddew: Bel a ddestruwiodd efe, a’r ddraig a laddodd, ac a roes yr offeiriaid iw marwolaeth. 28Ac wedi eu dyfot at y brenin y dywedasant: dod ini Ddaniel: onis rhoi, ni a’th laddwn di a’th holl dylwyth. 29Pan welodd y brenin eu bôd hwynt yn rhy daer yn ei gymmell ef: yna y gorfu iddo oi anfodd roi Daniel iddynt. 30A hwyntau ai bwriassant ef i ffau y llewod lle y bu efe chwe diwrnod. 31Yn yr ffau y oedd saith o lewod, i’r rhai y rhoid beunydd ddau gorph a dwy ddafad y rhai y pryd hynny ni roesid, fel y gallent lyngcu Daniel. 32Ac Abbacuc y prophwyd oedd yn Iudea, yr hwn a ferwasse sew ac a friwasse fara mewn cawg, ac oedd yn myned iw ddwyn i’r maes i fedelwyr. 33Ac angel yr Arglwydd a ddywedodd wrth Abbacuc, dwg y cinio sydd gennit hyd yn Babilon i Ddaniel [yr hwn sydd yn ffau] y llewod. 34Ac Abbacuc a ddywedodd, Arglwydd ni welais i er ioed Babilon, ac ni wn i pa le y mae yr ffau. 35Yna Angel yr Arglwydd ai cymmerth ef erbyn ei goryn, ac wedi iddo ei ddwrn erbyn gwallt ei benn, y dodes ef yn Babilon ar y ffau drwy nerth ei yspryd ef. 36Ac Abbacuc a lefodd gan ddywedyd: Daniel, Daniel, cymmer y cinio a anfonodd Duw i ti. 37Yna y dywedodd Daniel, ti a feddyliaist am danaf ô Dduw, ac ni adewi [mewn gwall] y rhai a ymgais â thi, ac a’th gâr. 38Felly Daniel a gyfododd i fynu, ac a fwyttaodd, ac angel yr Arglwydd a ddodes Abbacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun. 39A’r brenin aeth ar y seithfed dydd i alaru, a phan ddaeth at y ffau, efe a edrychodd i mewn a wele [yr oedd] Daniel yn eistedd. 40Yna a llefodd y brenin â llef uchel, ac a ddywedodd mawr wyt ti ô Arglwydd Dduw Daniel, ac nid oes Dduw arall ond ty di. 41Ac efe ai tynnodd ef allan o’r ffau, ac ai bwriodd hwyntwy y rhai oedd achos oi ddifetha ef i’r ffau, ac hwy alyngcwyd yn gyflym ger ei fron ef.
Terfyn hystoria Bel a’r Draig.

Currently Selected:

Bel a’r ddraig 1: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in