YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 50

50
PEN. L.
Clôd Simon fab Onias 22 cyngor i foliannu Duw.
1Simon mab Onias yr arch-offeiriad, #2.Mac.3.4.yw yr hwn yn ei fywyd a gyfododd y tŷ, ac yn ei ddyddiau a siccrhaodd y bobl.
2Efe a barodd sylfaenu yr vchder dauddyblyg, ar fagwyr vchel o amgylch y deml.
3Yn ei ddyddiau ef yr oedd yn rhy fychan y noeau dwfr, [ac yr oedd] efyddyn yn cynnwys tri chymmaint i’r gerwyn.
4Yr hwn wrth ofalu tros y bobl rhag eu difetha,
5Ac wrth gadarnhau y ddinas ai hamgylchu a gefaist ogoniāt trwy ymwreddiad y bobl wrth ddyfod allan or tŷ tān orchudd.
6Fel y sêren ddydd ym mysc y cwmylau, ac fel y lleuad yn ei llawn-lloned.
7Ac fel enfys ddisclaer yn y cwmylau teg.
8Fel yr haul yn tywynnu ar deml y Goruchaf, fel blodau rhos pan fyddant newydd, fel lili wrth aberoedd dyfroedd, a llysiau Libanus yn amser haf.
9Fel tân a thus mewn thusser,
10Fel llester o aur wedi ei wneuthur o’r vn darn, ai harddu â phob maen gwerthfawr.
11Fel olewydden dêg ffrwythlawn, ac fel cupresswydden wedi tyfu i’r awyr pan gymere efe y wisc ogoneddus, a phan wisce efe yr hyfry­dwch perffaith,
12Wrth fyned i fynu at yr allor sanctaidd, efe a wnai y wisc sanctaidd yn anrhydeddus.
13Pan gymere efe yr aelodau o law yr offeiriaid, yna y safe efe wrth aelwyd yr allor.
14Ai frodyr yn goron oi amgylch ef, fel llwyn cedrwydd yn Libanus ai hamgylchent ef fel canghennau palm-wydd: felly [y bydde] meibion Aaron oll yn eu gwychter.
15Ac offrwm yr Arglwydd yn eu dwylo o flaen holl gynulleidfa Israel) ac efe a wasaneuthid wrth yr allor yn berffaith gan wnethur offrwm yr Holl-alluoc goruchaf yn hardd,
16Efe a estynne ei ddwylo at y ddiod offrwm, ac a gymysce beth o’r gŵin.
17Ac ai tywallte ar waelod yr allor yn arogl peraidd i’r hwn sydd oruchaf Frenin ar bawb.
18Yna meibion Aaron a waeddent, ac a seinient mewn vdcyrn tawdd, ac a wnaent swn mawr eglur yn goffadwriaeth o flaen y Goruchaf.
19Yna yr holl bobl a gydsyrthient i lawr ar eu hwynebau ar frys: addoli eu Harglwydd y goruchaf Dduw holl-alluoc.
20Y cantorion hefyd a glôdforent ai lleisiau, ac a wnaent gynghanedd felus a swn lawer.
21A phobl yr Arglwydd goruchaf a ymbilient trwi weddines cyflawni anrhydedd yr Arglwydd, a gorphen ei wasanaeth ef.
22Yna efe a ddiscynne ac a dderchafe ei dwylo ar holl gynulleidfa meibion Israel i draethu bendith yr Arglwydd ai wefusau, ac i ym­orfoleddu yn eienw ef.
23Ac hwy a addolent eilwaith i dderbyn y fendith gan y Goruchaf.
24Yn awr gan hynny bendigwch Dduw yr hwn yn vnic sydd yn gwneuthur â nyni yn ôl ei drugaredd.
25[Gweddiwch] ar fôd heddwch yn ein dy­ddiau ni bob amser, a chadarnhau o honaw ef ffyddlondeb ei drugaredd i ni, a’n gwaredu ni tros ein hamser.
26Dwy genhedlaeth sydd flin gan fy enaid, a’r drydedd nid yw genhedlaeth.
27Y rhai a eisteddant ym mynydd Samaria, a’r rhai a breswylant Palestina, a’r bobl ynfyd y rhai a drigant yn Sichem.
28Iesus mab Sirach o Ierusalem a scrifennodd yn y llyfr hwn athrawiaeth synwyr a gwybodaeth, yr hwn a lawiodd ddoethineb oi galon.
29Gwyn ei fŷd yr hwn a ymgynnefino a’r rhai hyn, a’r hwn ai gosodo hwynt yn ei feddwl a fydd doeth.
30O blegit os gwna efe y pethau hyn efe a fydd nerthol i bob peth: canys goleuni yr Arglwydd a fydd yn gyfarwyddyd iddo ef, ac i’r rhai duwiol y rhoddes efe ddoethineb. Bendigedic fyddo yr Arglwydd byth: felly y byddo, felly y byddo.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 50: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in