YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 51

51
PEN. LI.
Gweddi Iefus fab Sirach.
1Clôdforaf di ô Arglwydd Frenin, a moliannaf di fy Nuw a’m iachawdwr.
2Dy enw di a glôdforaf, o blegit ti ydwyt yn amddeffynnudd ac yn help i mi, ac a waredaist fyng-horph i rhag ddinistr.
3Ac rhag rhwyd enlib tafod, rhag gwefusau y rhai a weithredant gelwydd, ie yn erbyn y rhai a ydynt yn cyfodi i’m herbyn yr ydwyt ti yn help.
4Gwaredaist fi yn ôl amldra trugaredd dy enw rhag y rhai rhuadwy a oeddynt barod im bwyta:
5Ac o law y rhai a oeddynt yn ceisio fy enaid i, ac o lawer o flinderau, y rhai a gefais i.
6Rhag i’r tân fy mygu o amgylch, [ac] o ganol y tân rhag fy llosci.
7Felly [i’m gwaredaist] o waelod y dyfnder, ac rhag tafod aflan, ac rhag chwedl celwyddoc, ac rhag anair gyd â’r brenin trwy dafod anghyfiwn.
8Fy enaid a aethe yn agos i farw.
9Am heinioes a oedd agos i vffern isaf.
10Hwy a’m hamgylchynasant i o amgylch, ac nid oedd a helpie: mi a edrychais am help dyn ac nid oedd [dim.]
11Am hynny mi a gofiais dy drugaredd di oh Arglwydd, ai grym hi er ioed.
12Dy fod ti yn achub y rhai dioddefgar, ac yn eu hachub hwynt o law y gelynnion.
13Ac mi a dderchefais fyng-weddi rhag digter, ac a ddeisyfiais [gael] ymwared yn lle marwolaeth.
14Ac mi a ddeisyfiais ar yr Arglwydd tâd fy Arglwydd, na adawe efe fyfi yn amser trallod, y prŷd ni cheid help gan y beilchion.
15Mi a foliannaf dy enw di yn wastadol, ac a’th glôdforaf di yn fyng-hyffes, am wrando fyng-weddi.
16O blegit ti a’n cedwaist ni rhag dinistr, ac a’n gwaredaist ni o’r amser drwg:
17Am hynny y clôdforaf, ac y molianaf di ô Arglwydd ac y canmolaf dy enw.
18Am fi etto yn ieuangach cyn fy nhwyllo mi a ofynnais ddoethineb yn eglur yn fyng­weddi.
19O flaen y Deml y gweddiais i am dani hi, ac hyd y diwedd y ceisiaf hi.
20Mor llawen a oedd fyng-halon o honi hi, ac o rawnwin yn addfedu o’r blodau, fy nrhoed a rodiodd yn iniawn, mi ai holrheiniais hi o’m hieuengtid.
21Mi a ostyngais ychydig ar fyng-hlust, ac ai derbyniais [hi.]
22Ac mi a gefais im fy hun lawer o athrawiaeth: mi a euthym rhagof ynddi hi.
23I’r hwn a roddes i mi ddoethineb, y rhoddaf fi y gallu.
24O blegit mi a feddyliais am ei gwneuthur hi, a dilyn daioni, ac ni’m gwradwyddir.
25Fy enaid a ymderchodd am dani hi, ac mi a fum ddiwyd yn peri chwant [iddi hi.]
26Mi a estynnais fy nwylo i fynu, pan ddehallais i beth a oedd bod heb ei hadnabod hi.
27Mi a gyfarwyddais fy enaid atti hi, ac ai cefais hi mewn puredd.
28O’r dechreuad yr ydwyf yn berchen calon wedi ei chyssylltu â hon, am hynny ni’m gwrthodir.
29Fyng-halon a gafodd helbul yn ei cheisio hi: felly mi a gefais gyfoeth da.
30Yr Arglwydd a roddes dafod yn wobr i mi ac mi ai moliannaf ef â hwnnw.
31Nessewch attafi (ô annyscedic,) ac arhoswch yn nhŷ athrawiaeth.
32Pan ham yr ydych chwi yn oedi: neu beth a ddywedwch chwi am hyn, gan fod ar eich eneidiau chwi syched mor ddirfawr:
33Mi a egorais fy safn, ac a leferais: prynwch [hi] i chwi heb arian.
34Gostyngwch eich gyddfau tann yr iau, a derbynied eich enaid athrawiaeth, hawdd yw ei chael hi.
35Gwelwch âch llygaid gymeryd o hono­fi boen: a chael o honofi i’m fy hun esmwythdra mawr.
36Mynnwch gyfran o athrawiaeth, am nifer mawr o arian meddiennwch aur lawer trwyddi hi.
37Llawenyched eich calon am ei drugaredd ef, ac na fydded yn gywilydd gennych ei foliannu ef.
38Gwnewch eich gwaith cyn yr amser, ac efe a rydd eich gwobr yn ei amser.
Terfyn llyfr Iesus fab Sirach yr hwn a elwir yn Lladin Ecclesiasticus.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 51: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in