YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 40

40
PEN. XL.
Amryw drueni dyn. 11 Syccrwydd ffydd 14 Braint y rhai duwiol, a rhagoriaeth ofn yr Arglwydd.
1Blinder mawr a grewyd i bob dŷn, ac iau drom sydd ar feibion dynion, o’r dydd y delont hwy o groth eu mam, hyd y dydd y dych­welant hwy i fam pob peth.
2[Sef] eu meddyliau, ai braw calon, eu dychymygion am y pethau y maent hwy yn eu disgwil, ai dydd diwedd.
3O’r hwn sydd yn eistedd ar deyrn-gader gogoniant, hyd yr iselradd yr hwn sydd yn y pridd a’r lludw.
4O’r hwn sydd yn dwyn porphor a choron hyd yr hwn a wisc liain cri,
5Y mae dig a chenfigen, blinder a helbul, ac ofn marwolaeth, a llid, ac ymryson: ac yn amser cymmeryd esmwythdra yn ei wely, ei gwsc liw nos a newidia ei wybodaeth ef.
6Megis yn nydd amser gwilio felly yn ei gwsc ychydig neu ddim yw ei esmwythdra ef.
7Efe a gythryblir yn ei galon megis vn yn ffoi o flaen rhyfel, ac yn amser ei iechid efe a ddeffru, ac a ryfedda nad oedd yr ofn ddim.
8[Felly y mae] i bob cnawd yn ddyn ac yn anifail, ac i bechaduriaid y mae saith mwy na hyn.
9[Heb law hyn y mae] marwolaeth, gwaed, ymryson, y cleddyf, gorthrymder, newyn, dinistr, a ffrewyll, yn erbyn yr annuwiol y gwnaed hyn oll, #Gen.7.11.ac er eu mwyn hwy y bu y diluw.
10Pob peth #Gen.3.19.a ddelo o’r ddaiar a ddych­wel i’r ddaiar, ac o’r #Pen.41.10.|SIR 41:10. Preg.1.7.dyfroedd y troir i’r môr.
11Pob gwobr ac ang-hyfiawnder a ddeleuir,
12A ffydd a beru hyd byth bythoed.
13Golud y rhai ang-hyfiawn a aiff yn ddispudd fel afon: ac a wna dwrwf fel taran fawr ar law.
14[Y cyfiawn] a fydd llawen, pan agoro efe ei law: felly y derfydd am y troseddwŷr pan ddarfyddo eu golud hwynt.
15Hiliogaeth yr annuwiol ni byddant ganghennog: a’r gwraidd aflan ydynt ar ddibin y graig.
16Y gwellt glâs wrth bob dwfr ac yng­lan yr afon a dynnir o flaen pob gwellt.
17Caredigrwydd sydd fel gardd baradwysaidd o fendithion: a thrugaredd a beru byth.
18Melus yw buchedd yr hwn a weithio ac #Phil.4.18.|PHP 4:18. 1.Tim.6.6.a fyddo bodlon iw gyflwr, gwell na’r ddau yw yr hwn a gaffo y tryssor.
19Plāta ac adailadu ddinas a siccrha enw:
20Gwin a cherdd a lawenycha y galon, felly y gwna hoffi doethineb yn fwy na’r ddau.
21Pibell a psaltring a wnant gynghanedd felus: a thafod mwyn sydd well na’r ddau.
22Prŷd a thegwch a chwennych llygad: er hynny gwell yw egin glâs na’r ddau.
23Cyfaill a chydymmaith a gyfarfyddant mewn pryd, gwraig gyd â ei gŵr sydd well na’r ddau.
24Brodyr a chymmorth ydynt dda yn amser adfyd, eithr elusen a wareda yn fwy na’r ddau.
25Aur ac arian a sefydlant y troed, a chyngor sydd gymmeradwyach na’r ddau.
26Golud a chryfder a dderchafant y galon, ac ofn yr Arglwydd yn fwy na’r ddau:
27Nid oes eisieu yn ofn yr Arglwydd, ac nid rhaid iddo ef geisio help.
28Paradwysaidd ardd y fendith yw ofn yr Arglwydd, ac efe ai gorchguddiodd hi tu hwnt i bob gogoniant.
29Fy mab na fydd fyw yn westai, gwell yw marw nâ gwesta.
30Nid yw bywyd yr hwn a edrych ar fwrdd gŵr arall iw chyfrif yn fywyd, efe a ddifwyna ei enaid am fwyd eraill.
31Eithr y gŵr call a ddyscwyd yn dda a y­mochel.
32Melus yw cardotta yng-enau y digywi­lydd, ond yn ei fol ef y llysc tân.

Currently Selected:

Ecclesiasticus 40: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in