YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 34

34
PEN. XXXIIII.
Oferedd dewiniaeth, coelion a breuddwydion. 6 Ar Dduw yn vnic y mae i ni roddi hyder. 20 Pa aberthau nid yw Duw fodlon iddynt.
1Ofer a chelwyddog obaith fydd gan ŵr ansynhwyrol, a breuddwydion a falchiant y rhai angall.
2Megis vn yn dala cyscod, ac yn ymlid gwynt yw yr hwn a goelio i freuddwydion.
3Hyn yn vnic yw gweledigaeth breuddwydion, cyffelybrwydd wyneb ar gyfer wyneb.
4Pa lendid a geir o’r aflan, a pha wirioned o’r celwydog:
5Ofer yw dewiniaeth, coelion, a breuddwydion.
6Llenwir dy feddwl di ag ofer ddychymy­giō fel gwraig yn escor: o ddieithr i’r Goruchaf anfon gweledigaeth, na ddod dy feddwl arni hi.
7Breuddwydion a dwyllasant lawer, a’r rhai a obeithiasant ynddynt hwy a fethasant.
8Heb gelwydd y perffeithir y gyfraith, a pherffeithrwydd genau ffyddlon yw doethineb.
9Y gŵr a gerddodd lawer a ŵyr lawer.
10A’r hwn a gafodd brawf o lawer o bethau a ddengys synnwŷr.
11Echydig a ŵyr yr hwn ni phrofwyd: a’r hwn a dwyllwyd sydd aml ei ddichell.
12Mi a welais lawer yn fy amryfusedd, a’m synnwyr i yw yr hyn a lunir yn fy ymadroddion.
13Mi a fum yn fynych mewn perigl marawolaeth, ac mi a achubwyd trwy râs Duw.
14Yspryt y rhai a ofnant yr Arglwydd a gaiff fyw.
15O blegit y mae eu gobaith hwynt ar eu Hachubwr.
16Yr hwn sydd yn ofni yr Arglwydd nid ofna ddim, ac ni ddychrynna, o blegit efe yw ei obaith ef.
17Gwyn ei fyd enaid y neb a ofno yr Arglwydd.
18I bwy y mae efe yn coelio? a phwy yw ei gadernid ef:
19Y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai ai carant ef yn amddeffynfa nerthol, #Psal.33.18. Psal.91.1.ac yn gader­nid siccr, yn gyscot rhag gwrês, ac yn gyscot rhag brydaniaeth hanner dydd, ac yn geidwad rhag tramgwyddo, ac yn help rhag syrthio.
20Yr hwn sydd yn dderchafu yr enaid, ac yn llewyrchu y llygaid, ac yn rhoddi iechid, a bywyd, a bendith.
21Dirmygus yw offrwm yr hwn a abertho dda anghyfiawn, #Dihar.21.27.ni byddir bodlon i roddion y rhai anwir.
22Nid yw y Goruchaf fodlon i offrymmau yr annuwiol, ac nid am lawer o aberthau y maddeu efe bechod.
23Megis vn yn lladd y mab o flaen y tad yw’r yr hwn a offrymmo aberth o dda y tylo­dion.
24Bywyd y tlodion yw bara yr anghe­nus, a dŷn gwaedlyd yw yr hwn trwy dwyll ai dygo ef.
25Lladd ei gymmydog y mae yr hwn a ddygo ei luniaeth ef.
26 # Deut.24.14. Pen.7.20. A thywallt gwaed y mae yr hwn a dwyllo y gwâs cyflog am ei gyflog.
27Pan fyddo vn yn adailadu, ac arall yn tynnu i lawr, pa fudd a gânt hwy ond poen:
28Pan fyddo vn yn gweddio ag arall yn melldithio, lleferydd pa vn a wrendu yr Arglwydd:
29Y neb a ymolcho wedi cyffwrdd ar marw, ac a gyffyrddo, ac ef eil-waith: #Num.19 11.pa fudd a gaiff efe oi ymolchiad:
30Felly y dŷn a ymprydio o blegit ei bechodau, ac a aiff trachefn, ac ai gwna hwynt, #2.Pet.2.20.pwy a wrendu ar ei weddi ef: a pha fudd fydd iddo ef am ymddarostwng?

Currently Selected:

Ecclesiasticus 34: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in