YouVersion Logo
Search Icon

Ecclesiasticus 33

33
PEN. XXXIII.
Ffrwyth a daioni ofn Duw. 8 Mai Duw sydd yn rhoddi i bob peth ei ragoriaeth. 18 Fe a ddyle dyn gadw ei rogoriaeth tra fydde byw. 23 Y modd y mae arfer gweision a gwenidogion.
1NI ddigwydd niwed i’r hwn a ofno yr Arglwydd, eithr mewn profedigaeth [Duw] ai gwared ef eil-waith.
2Nid câs gan y doeth y gyfraith, ond yr hwn a ragrithio [sydd] ynddi hi megis mewn rhyferthwy mawr.
3Dŷn synhwyrol a ymddyried i’r gyfraith, a’r gyfraith a fydd ffyddlon iddo yntef.
4Er eglured fyddo yr hyn a ofynner, darpar dy ymadrodd, ac felly i’th wrandewir: bydd sicr o’r peth, yna atteb.
5Calon y #Pen.21.16.ffol sydd fel olwyn men: ai feddyliau ydynt fel echel dro.
6Megis y gweryra ystalwyn can bawb a eisteddo arno ef, felly y gwna cyfaill gwatwarus.
7Pa ham y mae diwrnod yn rhagori diwrnod, gan fôd goleuni pob diwrnod yn y flwyddyn yn dyfod o’r haul:
8Trwy ŵybodaeth yr Arglwydd y gwaha­nwyd hwynt,
9Efe a gyfnewidiodd yr amserau a’r gwiliau.
10[Rhai] o honynt hwy a dderchafodd efe, ac a sancteiddiodd efe, ac efe a osododd [rai] o honynt hwy yn rhifedi y dyddiau.
11Dynion #Gene.1.27. & 2.7.a wnaed oll o’r ddaiar, ac o bridd y crewyd Adda.
12Yr Arglwydd trwy fawr wybodaeth ai nailltuodd hwynt, ac a wnaeth eu ffyrdd hwynt yn amryw.
13Rhai o honynt hwy a fendithiodd, ac a dderchafodd efe, a [rhai] o honynt hwy a sanc­teiddiodd, ac a nessaodd efe atto ei hun: [rhai] o honynt hwy a felldithiodd, ac a ddarostyngodd efe, ac ai trôdd hwynt allan oi lle.
14 # Esa.45.9. rhuf.9.20. Megis [y mae] y clai yn llaw y cro­chenudd, ai holl ddigwydd wrth ei ewyllys ef: felly y mae dŷn yn llaw yr hwn ai gwnaeth ef, i roddi iddo efe fel y gwelo efe yn dda.
15Y mae daioni yn erbyn drygioni, ac einioes yn erbyn angeu: felly y mae y duwiol yn erbyn y pechadur, a’r pechadur yn erbyn y gŵr duwiol.
16Felly edrych ar holl weithredoedd y Goruchaf, bob yn ddau y maent hwy y naill yn erbyn y llall.
17Minne a ddeffroais yn ddiweddaf fel vn yn lloffa ar ôl cynhaiafwŷr y grawn-wîn: trwy fendith yr Arglwydd y cynnyddais: ac y llenwais fyng-winwryf fel cynhaiafwr grawn­wîn.
18Dehallwch nad i mi fy hunan y cymerais i boen, #Pen.24.39.ond i bawb a geisiant athrawiaeth.
19O bendefigion [a’r bobl oll] clywch: ô lywodraethwŷr y gynnulleidfa gwrandewch.
20Na ddod awdurdod arnat ty hun i fab nac i wraig, i frawd nac i gydymmaith tra fyddech di byw: ac na ddod dy dda i arall rhag bod yn edifar i ti, a gorfod it ymbil â hwynt.
21Tra fyddech di fyw a bod anadl ynot: na newidia dy gyflwr er vn dŷn.
22Canys gwell yw bod ar dy blant dy eisi­eu di, nac i ti edrych yn nwylo dy blant.
23Cymmer dy ragor yn dy holl weithredoedd: ac na anafa dy barch.
24Yn y dydd y gorphennech di ddyddiau dy enioes, ac yn yr amser diweddaf dod dy etifeddiaeth.
25[Rhodder] gwellt a gwialen a phwn i’r assen: [felly] bara, a chospedigaeth a gwaith i’r gwenidog.
26Gwna iddo ef weithred trwy gospedigaeth, ac efe a gais orphywysdra, llaesa [dy] law iddo ef, ac efe a gais rydd-did.
27Iau ac irai a ostwng warr [yr ŷch] ac ar wenidog drwg y mae yn rhaid rhoi cospedigaeth a blinder.
28Gyrr ef iw waith fel na byddo efe segur o blegit llawer o ddrygioni a ddyscodd segurud.
29Gosot ef ar ei waith canys felly y gwedde iddo ef.
30Oni bydd vfydd dod heirn trymion arno ef: ond na ddod ormod ar vn cnawd, ac na wna ddim heb pwyll.
31Os bydd gennit #Pen.24.39.wenidog bydded ef i ti fel dy enaid dy hun: o blegit mewn gwaed y cefaist ti ef, os bydd gennit wenidog gwna o honaw ef fel o frawd: canys fe a fydd mor rhaid i ti wrtho ef ac wrthit dy hun.
32Os cospi di ef ar gam a chodi o honaw yntef a ffoi ymmaith, pa ffordd y ceisi di ef:

Currently Selected:

Ecclesiasticus 33: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in