Ecclesiasticus 32
32
PEN. XXXII.
Y modd y mae llywodraethu, ac vfyddhau. 15 Am ofn a gobaith.
1Os gwnaethant di yn llywodraethwr na fallchia, bydd iddynt megis vn o honynt hwy,
2Gofala a bydd ystyriol am danynt hwy.
3Yna bydd di gymmwynascar, ac wedi it fyned yn gymmeradwy gorphywys fel y byddech lawen oi plegit hwynt, ac y derbyniech goron i’th harddu.
4Dywet wrth henuriad, canys hyn sydd weddus i ti.
5Wrth [draethu] gofalus wybodaeth rhwystra gerdd.
6Na thywallt ymadrodd pan fyddo amser i wrando, ac #Preg.3.7. xt pen.20.7.na ddangos dy ddoethineb allan a amser.
7Megis sêl o garbwncl mewn gwisc o aur yw cyssain music wrth gwmpeniaeth gwîn.
8Megis sêl o Smaragdus mewn boglyn o aur yw melusdra music gyd âr gwîn melus.
9Ti ŵr ieuangc llefara pan fyddo rhaid, a hynny yn brin pan i’th ofynner ddwy-waith.
10Gwna ddibē ar dy ymadrodd: [cynnwys] lawer yn ychydig eiriau.
11Bydd megis vn a gŵybodaeth ganddo, ac yn ddistaw hefyd.
12Nac #Iob.32.6.ymgystadla ym mysc gwŷr mawr, ac na siarad lawer lle y byddo henaf-gwŷr.
13O flaen taran yn y man y daw mellten, ac o flaen y llednais yr aiff ffafor.
14Cyfot mewn prŷd, ac na fydd olaf: rhêd i’th dŷ, ac na segura.
15Yno chware, a gwna dy feddwl, ond nid mewn pechod na geiriau trahaus.
16A bendithia am hyn [oll] yr hwn a’th wnaeth, ac a’th lanwodd âi ddaioni.
17Y neb a ofna yr Arglwydd a dderbyn ei athrawiaeth ef: a’r hwn a foreu godo [atti hi] a gaiff ewyllys da.
18Yr hwn a geisio y ddeddf a lenwir â hi: a’r rhagrithiwr a dramgwydda wrthi hi.
19Y rhai a ofnant yr Arglwydd a gânt farn [dda,] a chyfiawnder a gynneu fel goleuni.
20Y pechadur a wrthyd gerydd, ac a gaiff siampl wrth ei ewyllys eu hun.
21Gŵr [a gymmero] gyngor ni ddiystyra ddeall: ond y dieithr a’r balch nid ofna ofn:
22Ac wedi iddo wneuthur [y peth] efe a fydd heb gyngor ganddo.
23[Fy mab] na wna ddim heb gyngor, ac wedi gwneuthur nac edifarhâ.
24Na ddôs rhyd ffordd lithrig, ac na thramgwydda wrth gerrig, nac ymddyried ychwaith i’r ffordd wastad.
25Gwilia dy blant dy hun.
26Ym mhob gweithred dda coelia dydi dy hun, ac dymma gadwedigaeth y gorchymynniō.
27Yr hwn a gredo i’r Arglwydd a ddisgwil ar y gorchymyn, a’r hwn a obeithio ynddo ef, ni bydd eisieu arno.
Currently Selected:
Ecclesiasticus 32: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.