YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 3

3
PEN. III.
Rhif, lle, a swyddau y Lefiaid: y rhai a ddewisodd yr Arglwydd i wasanaethu yn ei babell ef, yn lle y cyntafanedic, neu y cynfab.
1Ac dymma genhedlaethau Aarō, a Moses: ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai.
2Dymma henwau meibion Aaron, y #Exod.6.23.cyntaf-anedic [oedd] Nadab, yna Abihu, Eleazar, ac Ithamar.
3Dymma henwau #Lefit.8.2. Edod.28.1.meibion Aaron yr offeiriaid eneinioc y rhai a gyssegrodd efe i offeiriadu.
4A #Leuit.10.1.|LEV 10:1. Num.26.61. 1.Cron.24.2.marw a wnaeth Nadab, ac Abihu ger bron yr Arglwydd, pan offrymmasant #Lefit.10.1.dân dieithr ger bron yr Arglwydd yn anialwch Sinai: a meibion nid oedd iddynt, am hynny yr offeiriadodd Eleazar ac Ithamar yng-ŵydd Aaron eu tâd.
5A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
6Nessâ di lwyth #Num.18.2.Lefi, a gwna iddo sefyll ger bron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethant ef.
7A gwnant wasanaeth drosto ef, a gwasanaeth dros yr holl gynnulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, gan wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
8A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a [gwnant] wasanaeth dros feibion Israel, gan wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
9A thi a roddi y #Num.8.16.Lefiaid i Aaron, ac iw feibion, y rhai ydynt wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.
10Ac vrdda di Aaron ai feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dieithr-ddyn a ddelo yn agos a roddir i farw.
11Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.
12Wele mi a gymmerais y #Exod.13.2. Num.8.14. Exod.34.19.Lefiaid o blith meibion Israel yn lle pob cyntaf-anedic [sef pob cyntaf] agorydd croth o feibion Israel: a’r Lefiaid fyddant eiddo fi.
13Canys eiddo fi pob cyntafanedic er y dydd y tarewais y cyntafanedic yn nhîr yr Aipht, #Lefit.27.26. Luc.2.23.cyssegrais i’m fy hun bob cyntafanedic yn Israel o ddyn ac anifail: eddo fi ydynt, myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
14Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai gan ddywedyd.
15Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, drwy eu teuluoedd, cyfrif hwynt pob gwryw o fab misyriad ac vchod.
16A Moses ai cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchymynnasid iddo.
17A’r rhai hyn oeddynt feibion #Genes.46.11|GEN 46:1. Exod.6.16. Num.26.57. 1.Cron.6.1. 1.Cron.23.6Lefi wrth eu henwau, Gerson, Cehath hefyd, a Merari.
18Ac dymma henwau meibion Gerson yn ol eu teuluoedd: Libni a Semei.
19A meibion Cehath, yn ôl eu teuluoedd: Amram, Iesaar, Hebron, ac Oziel.
20A meibion Merari yn ôl eu teuluoedd, Maheli, a Musi: dymma hwynt teuluoedd Lefi wrth dŷ eu tadau.
21O Gerson [y daeth] ty-lwyth y Libniaid, a thy-lwyth y Simiaid: dymma hwynt teuluoedd y Gersoniaid.
22Eu rhifedigion hwynt dan rif pob gwryw o fâb misyriad, ac vchod, eu rhifedigion [meddaf oeddynt] saith mil a phump cant.
23Teuluoedd y Gersoniaid a werssyllant ar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewyn.
24A phennaeth tŷ tâd y Gersoniaid [fydd] Eliazaph mab Lael.
25Gorchwyliaeth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod [fydd] y tabernacl, a’r babell-lenn, ei thô [hefyd,] a chaead-len drws pabell y cyfarfod.
26A throelloc lenni y cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa yr hwn [sydd] yng-hylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, ai rhaffau iw holl wasanaeth.
27Ac o Gehath [y daeth] ty-lwyth yr Amramiaid, a thy-lwyth y Iesariaid, a thy-lwyth yr Hebroniaid, a thy-lwyth yr Ozeliaid: dymma hwynt ty-lwyth y Cehathiaid.
28O rif pob gwryw o fab misyriad ac vchod, wyth mil a chwe chant [oeddynt] yn gorchwylio y cyssegr.
29Teuluoedd meibion Cehath a werssyllant ar ystlys dehau i’r tabernacl.
30A phennaeth y tŷ pennaf o dy-lwyth y Cehathiaid [fydd] Elisaphan mab Oziel.
31Ai gorchwyliaeth hwynt [fydd] yr Arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri y cyssegr, y rhai y gwasanaethant a hwynt, a’r gaead-len, ai holl wasanaeth.
32A chapten a’r bennaethiaid y Lefiaid [fydd] Eleazar mab Aaron yr offeiriad: awdurdod a’r wenidogion y cyssegr [fydd iddo ef].
33O Merari [y daeth] ty-lwyth y Maheliaid, a thy-lwyth y Musiaid: dymma hwynt ty-lwyth Merari.
34Ai rhifedigion hwynt, o gyfrif pob gwryw o fab misyriad ac vchod, [oeddynt] chwe mil a deu cant.
35A phennaeth y tŷ pennaf o dy-lwyth Merari [fydd] Zuriel mab Abihael: ar ystlys y tabernacl y gwerssyllant tua’r gogledd.
36A gorchwyliaeth meibion Merari [fydd] ystyllod y tabernacl, ai drossolion, ai golofnau, ai forteisian, ai holl offer, ai holl wasanaeth.
37A cholofnau y cynteddfa o amgylch, ai morteisiau, ai hoelion, ai rhaffau.
38A’r rhai a werssyllant o flaen y tabernacl, tua’r dwyrain o flaen pabell y cyfarfod oddi wrth godiad haul [fydd] Moses ac Aaron, ai feibion y rhai a gadwant orchwyliaeth y cyssegr, a gorchwyliaeth meibiō Israel: a’r dieithr a ddelo yn agos a roddir i farwolaeth.
39Holl rifedigion y Lefiaid y rhai a rifodd Moses ac Aaron wrth eu teuluoedd yn ol gair yr Arglwydd, [sef] pob gwryw o fab misyriad ac vchod [oeddynt] ddwy fil ar hugain.
40A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses cyfrif bob cyntaf-anedic gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac vchod, a chymmer rifedi eu henwau hwynt.
41A chymmer #Num.8.14.y Lefiaid i mi (myfi [ydwyf] yr Arglwydd) yn lle pob cyntaf-anedic o feibion Israel: ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedic o anifeiliaid meibion Israel.
42A Moses a rifodd megis y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo bob cyntaf-anedic o feibion Israel.
43A’r rhai cyntafanedic oll, o rai gwryw dan rif [eu] henwau, o fab misyriad ac vchod oeddynt drwy eu rhifedigion, yn ddwy fil ar hugain, a dau cant, a thri ar ddec a thrugain.
44A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd.
45Cymmer y Lefiaid yn lle pob cyntafanedic o feibion Israel: ac anifeiliaid y Lefiaid, yn lle eu hanifeiliaid hwynt: a bydded y Lefiaid i mi: myfi ydwyf yr Arglwydd.
46Ac [am] y tri ar ddec a thrugain a’r ddau cant gwaredic (y rhai ydynt dros ben y Lefiaid) o gyntaf-anedic meibion Israel,
47Cymmer hefyd bum sicl #Exod.30.13. Lefit.27.25. Num.18.16.am bob penn, o sicl y cyssegr y cymmeri, vgain Gerah[fydd] y sicl.
48A dod ti yr arian i Aaron, ac iw feibion [am] y rhai gwaredic a fyddant yn chwaneg arnynt.
49A chymmerodd Moses arian y gwaredigaeth gan y rhai oeddynt yn chwaneg ar y rhai a waredasid am y Lefiaid.
50Gan gyntafanedic meibion Israel y cymmerodd efe yr arian: pump a thrugain a thry chânt, a mil o siclau y cyssegr.
51A Moses a roddodd arian y gwaredigion i Aaron ac iw feibion, yn ôl gair yr Arglwyd megis y gorchymynnase’r Arglwydd i Moses.

Currently Selected:

Numeri 3: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in