Numeri 2
2
PEN. II.
Lle gwerssyll pob vn o’r deuddec llwyth: eu capteniaid ai rhifedi, a pha wedd y symmudent.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron gan ddywedyd.
2Meibion Israel a werssyllant bob vn wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ ei tadau, o amgylch pabell y cyfarfod y gwerssyllant o hir-bell.
3A’r rhai a werssyllant tu ar dwyrain, oddi wrth godiad haul, [fyddant gwŷr] lluman gwerssyll Iuda yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Iuda [fydd] Nahesson mab Aminadab.
4Ai lu ef, ai rhai rhifedic hwynt [fyddant] bedair mil ar ddec a thrugain, a chwe chant.
5A llwyth Issachar a werssyllant yn nessaf atto ef: a chapten meibion Issachar, [fydd] Nathaniel mab Zuar.
6Ai lu, ai rifedigion [fyddant] bedair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.
7[Yna] llwyth Zabulon, ac Eliab mab Helon [fydd] capten meibion Zabulon.
8Ai lu, ai rifedigion [fyddant] ddwy fil ar bymthec a deugain, a phedwar cant.
9Holl rifedigion gwerssyll Iuda [fyddant] yn ol eu lluoedd yn gan mil a phedwar vgain mil, a chwe mil, a phedwar cant: yn flaenaf y symmudant.
10Lluman gwerssyll Ruben [fydd] tua’r dehau yn ol eu lloedd: a chapten meibion Ruben [fydd] Elizur mab Sedeur.
11Ai lu ef, ai rifedigion [fyddant] chwe mil a deugain, a phum cant.
12A’r rhai a werssyllant yn nessaf atto ef [fydd] llwyth Simeon, a chapten meibion Simeon [fydd] Selumiel mab Suri Sadai.
13Ai lu ef, ai rhifedigion [fydd] onid vn mil trugain a thry-chant.
14Yna llwyth Gad: a chpaten meibion Gad [fydd] Eliasaph mab Reuel.
15Ai lu ef, ai rhifedigion hwynt [fyddant] bum mil a deugain a chwe-chant, a dec a deugain.
16Holl rifedigion gwerssyll Ruben [fyddant] gan mîl, ac vn ar ddec a deugain o filoedd, a phedwar cant, a dec a deugain yn ol eu lluoedd ac yn ail y symmudant.
17A phabell y cyfarfod a symmud yng-hanol y gwerssylloedd, [gyd a] gwerssyll y Lefiaid: fel y gwerssyllant, felly y symmudant, pôb vn yn ei le, wrth eu llumannau.
18Lluman gwerssyll Ephraim [fydd] tua’r gorllewyn, yn ol eu lluoedd, a chapten meibion Ephraim [fydd] Elisama mab Ammihud.
19Ai lu ef, ai rhifedigion [fyddant] ddeugain mil, a phump cant.
20Ac yn nessaf atto ef llwyth Manasses, a chapten meibion Manasses fydd Gamaliel mab Pedazur.
21Ai lu ef, ai rhifedigion [fyddant] ddeuddeng-mil ar hugain, a dau cant.
22Yna llwyth Beniamin: a chapten meibion Beniamin [fydd] Abidan mab Gedeon.
23Ai lu ef, ai rhifedigion [fyddant] bymtheng-mil ar hûgain, a phedwar cant.
24Holl rifedigion gwerssyll Ephraim [fyddant] yn ol eu lluoedd gan mil, ac wyth mil, a chant: ac a symmudant yn drydydd.
25Lluman gwerssyll Dan [fydd] tua’r gogledd yn ol eu lluoedd, a chapten meibion Dan [fydd] Ahieser mab Ammi Sadai.
26Ai lu ef, ai rhifedigion [fyddant] ddwy fil a thrugain, a saith gant.
27A’r rhai a werssyllant yn nessaf atto ef [fydd] llwyth Aser: a chapten meibion Aser [fydd] Pagiel mab Ocran.
28Ai lu ef, ai rhifedigion [fyddant] vn mil a deugain, a phum cant.
29Yna llwyth Nephthali: a chapten meibion Nephthali [fydd] Ahira mab Enan.
30Ai lu ef, ai rhifedigion [fyddant] dair mil ar ddec a deugain, a phedwar cant.
31Holl rifedigion gwerssyll Dan [fyddant] gan mil, ac onid tair mil tri vgain mil, a chwe chant, yn olaf y symmudant, wrth eu llumannau.
32Dymma rifedigion meibion Israel, wrth dy eu tadau: holl rifedigion y gwerssylloedd yn ôl eu lluoedd [oeddynt] chwe chan mil, a thair mil, a phum cant, a dec a deugain.
33Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ym mysc meibion Israel, megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
34A meibion Israel a wnaethant, yn ol yr hyn oll a orchymynnase’r Arglwydd wrth Moses: felly y gwerssyllasant wrth eu llumannau, ac felly y symmudasant, pob vn yn ei deuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.
Currently Selected:
Numeri 2: BWMG1588
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.