YouVersion Logo
Search Icon

Luc 10

10
PEN. X.
Crist yn anfon dec a thrugain i bregethu. 21 Yn diolch iw Dad tros ei ddiscyblion. 25 Yn atteb y cyfreithiwr gan ddangos pwy yw ein cymydog. 38 A’r modd y dewisodd Mair Fagdalen yn gallach nâ Martha.
1 # 10.1-7 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Luc. Wedi y pethau hynn yr ordeinioddyr Arglwydd ddêc a thrugain eraill, ac a’u danfones hwynt bob yn ddau a dau o’i flaen ei wyneb, i bob dinas a lle, ar yr oedd efe ar ddyfod iddynt.
2Am hynny efe a ddywedodd wrthynt #Math.9.37.y cynhaiaf sydd fawr, a’r gweithwŷr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cynhaiaf, am ddanfon allan weithwŷr iw gynhaiaf.
3Ewch: #Math.10.16.wele, yr wyf yn eich danfon fel ŵyn ym mysc bleiddiaid.
4Na ddygwch god, nac screpan, nac escidiau, ac #2.Bren.4.29. na chyferchwch neb ar y ffordd.
5Ac #Math.10.12. Marc.6.10.i ba dŷ bynnag yr eloch yn gyntaf dywedwch, Tangneddyf i’r tŷ hwn.
6Ac o bydd yno fab tangneddyf eich tangneddyf a erys arno: os amgen hi a ddychwel attoch chwi.
7Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw bethau [a gaffoch] ganddynt: canys #Deut.24.14. Math.10.10. 1.Tim.5.18. teilwng i’r gweithwr ei gyflog. Ac na threiglwch o dŷ i dŷ.
8Ac i ba #Math.10.18. ddinas bynnag yr eloch, os hwynt hwy a’ch derbyniant, bwytewch y cyfryw betheu a rodder ger eich bronnau:
9Ac iachewch y cleifion a fydd ynddi, a dywedwch wrthynt: daeth teyrnas Dduw yn agos attoch.
10Eithr i ba ddinas bynnag yr eloch, ac nich derbynniant, ewch allan iw heolydd, a dywedwch,
11Y #Luc.9.5. Act.13.51|ACT 13:51 & 18.6. llwch yr hwn a lynodd wrthym o’ch dinas sychasom ymmaith i chwi: er hynny gwybyddwch hynn, fod teyrnas Dduw wedi nesau attoch.
12Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, mai esmwythach fydd i’r Sodomiaid yn y dydd hwnnw, nag i’r ddinas honno.
13 # Math.11.21. Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida, canys pe buase yn y gwyrthiauw a wnaethpwyd ynoch chwi, wedi eu gwneuthur yn Nhyrus a Sidon: er ys talm yr edifarhasent mewn sachlen, a lludw.
14Am hynny esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn nag i chwi.
15A thithe Capernaum yr hon i’th dderchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn vffern.
16Y neb #Math.10.40. Ioan.13.20.sydd yn eich gwrando chwi sydd yn fyng-wrando i: a’r neb sydd yn eich dirmygu chwi sydd yn fy nirmygu i, a’r neb sy yn fy nirmygu i sydd yn dirmygu yr hwn a’m hanfonodd fi.
17A’r dêc a thrugain a ddychwelasant â llawenydd, gan ddywedyd: ô Arglwydd, y cythreuliaid a ddarostyngir i ni yn dy enw di.
18Yna y dywedodd efe wrthynt: mi a welais Satan megis mellten yn syrthio o’r nef.
19Wele, yr ydwyf yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph, ac scorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn, ac ni wna ddim niwed i chwi.
20Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysprydion wedi darostwng i chwi: llawenhewch yn hytrach am fod eich henwau yn scrifennedig yn y nefoedd,
21A’r amser hwnnw yr Iesu a ymlawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd: yr wyf yn diolch i ti ô Dad, Arglwydd nef a ddaiar: am i ti guddio y pethau hyn oddi wrth y doethion a’r call, a’u agoryd hwynt i blant bychain yn wîr ô Dad, felly’r oedd dy ewyllys.
22Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw yr Mab ond y Tad: na phwy yw’r Tad ond y Mab, a’r neb y mynne’r Mab ei ddadcuddio ef.
23 # 10.23-37 ☞ Yr Efengyl y xiii. Sul ar ôl y Drindod. Ac wedi iddo droi #Math.13.16. Gwyn fyd y llygaid sy yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled.
24 # Math.22.35. Marc.12.28. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nîs gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25Ac #Deut.6.1. Lefit.19.18wele, rhyw gyfreithwr a gododd iw demtio ef, gan ddywedyd: Athro pa beth a wnaf i etifeddu bywyd tragywyddol?
26Ac yntef a ddywedodd wrtho: pa beth sydd scrifennedig yn y gyfraith? Pa fodd y darllenni?
27Ac efe a attebodd gan ddywedyd: car dy Arglwydd Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl, a’th gymmydog fel dy hun.
28Yntef a ddywedodd wrtho: da’r attebaist: gwna hyn a byw fyddi.
29Eithr efe yn ewyllyssio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu: a phwy yw fyng-hymmydog?
30A’r Iesu gan attebodd ac a ddywedodd, rhyw ddyn a aeth i wared o Ierusalem i Iericho, ac a syrthiodd ym mysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc a’i archolli ef, a aethant ymmaith, gan ei adel yn hanner marw.
31Ac fe ddigwyddodd i offeiriad ddyfod i wared ar hŷd y ffordd honno, ac wedi iddo ei weled, efe a aeth o’r tu arall heibio.
32A’r vn modd Lefiad, wedi dyfod i’r lle, a’i weled, efe a aeth heibio o’r tu arall.
33Yna rhyw Samariad wrth ymdaith a ddaeth atto ef, a phan ei gwelodd a dosturiodd:
34Ac wedi iddo ddyfod atto, efe a rwymodd ei archollion, ac a dywalldodd ynddynt olew a gwîn: ac wedi ei roi ef ar ei anifail ei hun, efe a’i dug ef i’r llettŷ, ac a’i ymgoleddodd.
35A thrannoeth wrth fyned ymmaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac au rhoddes i’r lletteuwr gan ddywedyd wrtho: cymmer ofal trosto, a pha beth bynnag a dreuliech yn chwaneg, pan ddelwyf trachefn, mi a’i rhoddaf i ti.
36Pwy gan hynny o’r tri hynn, i’th dyb di, oedd gymmydog i’r hwn a syrthiase ym mhlith y lladron?
37Ac efe a ddywedodd: yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, dos, a gwna dithe yr vn modd.
38A bu wrth ymdaith ddyfod o honaw i ryw dref: a gwraig a’i henw Martha a’i derbyniodd ef iw thŷ.
39Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair yr hon a eisteddodd wrth draed yr Iesu i wrando ei ymadrodd ef.
40A Martha oedd drafferthus yng-hylch llawer o wasanaeth, a chan sefyll ger llaw hi a ddywedodd, Arglwydd, ond oes ofal gennit, am i’m chwaer fyng-adel i fy hun i wasanaethu? dywet wrthi am fy helpio.
41A’r Iesu a attebodd gan ddywedyd wrthi, Martha, Martha, trafferthus wyt a gofalus am lawer o bethau,
42Eithr vn peth sydd angenrhaid, Mair a ddewisodd y rhā dda, yr hon ni ddygir oddi arni.

Currently Selected:

Luc 10: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in