YouVersion Logo
Search Icon

Luc 9

9
PEN. IX.
Crist yn anfon y deuddec i bregethu, 12 yn porthi pum mil â phump torth 18 yn gofyn pwy yr oeddid yn tybied ei fod efe 29 yn ymrithio ar y mynydd, 3 yn bwrw allan y cythrael ni alle ei ddiscyblion ei fwrw, 57 ac yn atteb tri math ar ddilynwyr.
1Ac efe a #Math.10.1. Marc.3.13alwodd ei ddeuddec discybl, ac a roddes iddynt feddiant, ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau.
2Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau’r clwyfus.
3Ac efe a ddywedodd wrthynt, na chymmerwch ddim i’r daith, na ffyn, nac screpan, na bara, nac arian, ac na fydded i chwi ddwy bais.
4Ac i ba dŷ bynnac yr eloch i mewn arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.
5A #Math.10.14. Marc.6.11. Luc.10.11. Act.13.51. pha rai bynnac ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, escydwch y llwch oddi wrth eich traed yn destiolaeth yn eu herbyn hwynt.
6Ac wedi iddynt fyned allan hwynt hwy a aethant trwy bob tref gan bregethu yr Efengyl, ac iachau ym mhob lle.
7A #Math.14.1. Marc.6.14.Herod y Tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo: ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw.
8A rhai eraill, ymddangos o Elias: a rhai eraill, mai vn o’r hên brohpwydi a adgyfodase.
9Yna y dywedodd Herod, Ioan a dorreis i ei ben, pwy gan hynny ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10Ac wedi dychwelyd yr Apostolion, hwy a fynegasant iddo y cwbl a wnaethasent, #Math.14.13. Marc.6.32.ac efe a’u cymmerth hwynt, ac a aeth o’r nailltu i ddiffaethwch y ddinas a elwir Bethsaida.
11A phan ŵybu’r bobl hynny, hwynt hwy a’i dilynasant ef, ac efe a’i derbyniodd hwynt, ac a ymddiddanodd â hwynt a’m deyrnas Dduw: a’r rhai oedd arnynt eisieu iechyd a iachaodd efe.
12A’r #Math.14.16. Marc.6.35. Ioh.6.5.dydd a ddechreuodd hwyrhau, a’r deuddec a ddaethant atto, ac a ddywedasant wrtho: gollwng y bobl ymmaith, fel y gallant fyned i’r trefi a’r meysydd oddi amgylch i letteu, ac i geisio bwyd, canys yr ydym ni ymma mewn lle anghyfannedd.
13Ac efe a ddywedodd wrthynt: rhoddwch chwi iddynt [beth] iw fwytta: a hwyntau a ddywedasant, nid oes genym ni fwy nâ phump torth a dau byscodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll.
14Canys yr oeddynt yng-hylch pum-mîl o wŷr, ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion: gwnewch iddynt eistedd yn finteioedd, bôb yn ddeg-wr a deugein.
15Ac felly y gwnaethant, ac hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.
16Yna y cymmerth efe y pum torth a’r ddau byscodyn, ac a edrychodd i fynu i’r nef, ac a’u bendigodd, ac a’u torrodd, ac a’u rhoddes iw ddiscyblion iw gosod ger bron y bobl.
17Ac hwynt hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon, ac fe godwyd o’r gweddillion, ddeuddeg bascedaid o friw-fwyd.
18Bu #Math.16.13. Marc.8.27.hefyd fel yr oedd efe ei hun yn gweddio, fod ei ddiscyblion gyd ag ef, ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd: pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i?
19Ac hwynt hwy a attebasant gan ddywedyd, Ioan fedyddiwr: a rhai Elias: eraill mai vn o’r hên brophwydi a adgyfododd.
20Ac efe a ddywedodd wrthynt: pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? yna Petr a ddywedodd, Crist Dduw.
21Ac efe a’u gwaharddodd hwynt, ac a orchymynnodd iddynt na ddywedent hyn i neb:
22Gan ddywedyd #Math.17.12. Marc.8.31y bydde raid i Fab y dŷn oddef llawer: a’i wrthod gan yr henuriaid, a chan yr arch-offeiriaid, a’r scrifennyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd adgyfodi.
23Ac efe a ddywedodd wrth bawb, #Math.10.30. Marc.8.35. Luc.14.27os ewyllyssia neb ddyfod ar fy ôl i, gwaded ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24Canys pwy #Luc.17.33. Ioan. 12.25 bynnac a ewyllisio gadw ei fywyd a’i cyll ef: a phwy bynnac a gollo ei fywyd o’m hachos i a’i ceidw ef.
25Canys #Math.16.26. Marc.8.36.pa lesâd i ddŷn er ennill yr oll fyd, a’i ddifetha ei hun, neu ei golli ei hun?
26 # Math.10.33. Marc.8.38. Luc.12.9. 2.Tim. 2.12 Y neb y byddo yn gywilydd ganddo fyfi a’m geiriau, hwnnw fydd yn gywilydd gan Fab y dŷn pan ddelo yn ei ogoniant, ac [yng-ogoniant ei] Dad, a’r sanctaidd angelion.
27Yn wir #Math.16.28. Marc.9.1.meddaf i chwi, y mae rhai o’r sawl sy yn sefyll ymma ar ni archwaethant angeu, hyd oni welant deyrnas Dduw.
28 # Math.17.1. Marc.9.2. A bu yng-hylch wyth ddiwrnod wedi y geiriau hyn, gymmeryd o honaw ef Petr ac Ioan ac Iaco, a myned i fynu i’r mynydd i weddio.
29Ac fel yr oedd efe yn gweddio, ei wyneb-pryd ef a newidiwyd, a’i wisc oedd yn wenn ddisclaer.
30Ac wele dau ŵr a ymddiddanâsant ag ef y rhai oeddynt Moses ac Elias.
31Y rhai a ymddangosasent mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei dduweddiad ef, yr hwn a gyflawne efe yn Ierusalem.
32A Phetr a’r rhai oeddynt gyd ag ef, oeddynt yn ei trym-gwsc: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau wr y rhai oeddynt yn sefyll gyd ag ef.
33A bu pan aethant hwy ymmaith oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Iesu, ô feistr da yw i ni fod ymma: gwnawn dair pabell, vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias: eithr ni ŵydde beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hynn, fe a ddaeth cwmwl ac a’i cyscododd hwynt, ac hwynt hwy a ofnasant, pā aethant hwy i’r cwmwl.
35A daeth llef allan o’r cwmwl gan ddywedyd, hwn yw fy annwyl Fab, gwrandewch ef.
36Ac wedi bod y llef honno y cafwyd yr Iesu yn vnic: ac hwynt a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
37Ac #Math.17.14. Marc.9.17.fe ddarfu drannoeth, a hwynt yn dyfod i wared o’r mynydd, i lawer o bobl ei gyfarfod ef:
38Ac wele rhyw vn o’r dyrfa a ddolefodd gan ddywedyd, ô Athro, yr wyf yn attolwg i ti edrych ar fy mab: canys fy vnic-anedig yw.
39Ac wele, y mae yr yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntef yn ddisymmwth yn gweiddi, ac y mae yn ei rwygo ef oni falo ewyn, a phrin yr ymedu ag ef wedi iddo ei ysigo ef.
40A mi a ddeisyfiais ar dy ddiscyblion ei fwrw ef allan, ac nis gallent.
41A’r Iesu a attebodd gan ddywedyd, ô gēhedlaeth anffyddlawn, ac anhydyn: pa hŷd y byddaf gyd â chwi, ac i’ch goddefaf? dwg dy fab ymma.
42Ac fel yr oedd efe yn dyfod, y cythrael a’i rhwygodd ef ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef iw dad.
43A brawychu a wnaethāt oll, gan fawredd Duw: ac fel yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethe yr Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion,
44Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hynn: canys #Math.17.22.rhoddir Mab y dyn yn nwylo dynion.
45Eithr ni ddeallasant mo’r gair hwn: canys cuddiedig oddi iddynt, fel na ddehallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
46Ac fe a ddigwyddodd dadl yn eu plith: pwy a o honynt oedd fwyaf.#Math.18.1. Marc.9.33.
47A’r Iesu wrth weled meddwl eu calonneu hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl,
48Ac a ddywedodd wrthynt: pwy bynnag a dderbyn y bachgennyn hwn yn fy enw i sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a’m derbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m anfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith oll, fydd mawr.
49Ioan #Marc.9.38.a attebodd ac a ddywedodd, ô feistr ni a welsom ryw vn yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50A’r Iesu a ddywedodd wrthynt: na waherddwch: canys y neb nid yw i’n herbyn, sydd gyd â ni.
51A bu wedi cyflawni dyddiauei gymmeriad ef i fynu, ymsycrhau o honaw ef i fyned i Ierusalem.
52Ac efe a ddanfonodd gennadau oi flaen, y rhai a gerddasant, ac a aethant i dref y Samariaid i baratoi iddo ef.
53Eithr hwynt ni dderbynient ef, am fod ei wyneb ef ar fyned tu ag Ierusalem.
54Pan wêlodd ei ddiscybliō Iaco ac Ioan [hynny,] hwynt hwy a ddewedasant, ô Arglwydd a fynni di i ni ddywedyd am ddyfod tân o’r nef a’u difa hwynt, #2.Bren.1.10.megis y gwnaeth Elias?
55A’r Iesu a droes ac a’u ceryddodd hwynt, gan ddywedyd, ni ŵyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.
56Ni #Math.8.19. ddaeth Mab y dŷn i golli eneidiau dynion onid iw cadw: yna yr aethant i dref arall.
57A bu hwynt yn myned ddywedyd o ryw vn ar y ffordd wrtho ef: ô Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
58A’r Iesu a ddywedodd wrtho: y mae gan y llwynogod eu ffauau, a chan adar yr awyr eu nythod: eithr Mab y dŷn nid oes ganddo le i roi ei ben i lawr
59Ac efe a ddywedodd wrth vn arall, #Math.8.22.dilyn fi, ac yntef a ddywedodd: Arglwydd gad i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
60A’r Iesu a ddywedodd wrtho, gad i’r meirw gladdu eu meirw: dos di a phregetha deyrnas Dduw.
61Ac arall a ddywedodd, mi a’th ddilynaf di ô Arglwydd, ond gad ti i mi yn gyntaf fyned a chanu yn iach i’r rhai sy yn fy nhŷ.
62A’r Iesu a ddywedodd wrtho: nid oes neb a’r a rydd ei law ar yr aradr, ac a edrycho ar ei ôl yn gymmwys i deyrnas Dduw.

Currently Selected:

Luc 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in