YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 8

8
PEN. VIII.
Eneiniad Aaron ai feibion.
1Yna y llefarodd yr arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Cymmer #Exo.28.2.Aarō ai feibiō gyd ag ef, a’r gwiscoedd, ac olew’r eneiniad, a bustach ’r aberth tros bechod, a dau hwrdd, a chawell y bara croiw.
3A chasgl di yr holl gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
4A gwnaeth Moses fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddo: a chasglodd y gynnulleidfa i ddrws pabell y cyfarfod.
5A dywedodd Moses wrth y gynnulleidfa dymma y peth yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd ei wneuthur.
6Yna y parodd Moses i Aaron, ac iw feibion nessau: ac efe ai golchodd hwynt mewn dwfr:
7Ac efe a roddes am dano ef y bais, ac ai gwregyssodd ef a gwregys, ac a wiscodd y fantell am dano, ac a roddes yr Ephod am dano, ac ai gwregyssodd a gwregys yr ephod, ac a gaeodd am dano ag ef.
8Ac a osododdy ddwyfronnec am dano, ac a roddes yr Urim a Thummim wrth y ddwyfronnec.
9Ac efe a osododd y meitr ar ei benn ef, ac a osododd ar y meitr ar gyfer ei wyneb ef dalaeth aur y goron sanctaidd, fel y gorchymynnase yr Arglwydd i Moses.
10A Moses a gymmerodd olew’r eneiniad ac a #Exod.30.26.irodd y tabernacl, a’r hynn oll a’r [a ydoedd] ynddo: ac ai cyssegrodd hwynt.
11Ac a daenellodd o honaw ar yr allor saith waith, ac a îrodd yr allor, ai holl lestri, ar noe hefyd, ai throed iw cyssegru.
12Ac efe a dywalltodd o olew’r eneiniad ar benn Aaron, ac ai henneiniodd ef, iw gyssegru.
13Yna y parodd Moses i feibion Aaron nessau, a gwisco peisiau am danynt, a gwregyssodd hwynt a gwregys, ac a osododd gappiau am eu pennau fel y gorchymynnase’r Arglwydd wrth Moses.
14Yna y dug efe fustach yr aberth tros bechod: ac Aaron ai feibion a roddasant eu dwylo ar benn bustach yr aberth tros bechod.
15A Moses [ai] lladdodd, ac a gymmerth o’r gwaed, ac ai rhoddes ar gyrn yr allor o amgylch ai fŷs: ac a burodd yr allor, ac a dywalltodd y gwaed wrth waelod yr allor, ac ai cyssegrodd hi i wneuthur iawn arni.
16Efe hefyd a gymmerodd’r holl wêr, ’r hwn [oedd] ar y perfedd, a rhwyden yr afi, a’r ddwy aren, ai gwêr, a Moses ai lloscodd ar yr allor.
17A’r bustach, ai groen, ai gig ai fiswel a loscodd efe mewn tân o’r tu allan i’r gwerssyll: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
18Yna y nessaodd efe hwrdd y poeth offrwm, ac Aaron ai feibion a osodasant eu dwylo ar benn yr hwrdd.
19A Moses [ai] lladdodd, ac a daenellod y gwaed ar yr allor o amgylch.
20Ac efe a dorrodd yr hwrdd yn ddarnau a lloscodd Moses y penu, y darnau, a’r gwêr.
21Ond y perfedd a’r traed a olchodd efe mewn dwfr, a lloscodd Moses yr hwrdd oll ar yr allor: poeth offrwm [yw] hwn, i [fod] yn arogl esmwyth, aberth tanllyd yw i’r Arglwydd: fel y gorchymynnodd yr Arglwydd i Moses.
22Yna y nessaodd efe yr #Exod.29.19.ail hwrdd, sef hwrdd y cyssegriadau: ac Aaron ai feibion a osodasant eu dwylo ar benn yr hwrdd.
23A Moses ai lladdodd ac a gymmerodd oi waed, ac ai rhoddes ar gwrr clust ddehau Aaron, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.
24Moses hefyd a nessaodd feibion Aaron ac a roddes o’r gwaed, ar gwrr eu clust ddehau ac ar fawd eu llaw ddehau, ac ar fawd eu troed dehau: a thaenellodd Moses y gwaed ar yr allor oddi amgylch.
25Ac efe a gymmerodd hefyd #Exod.29.22.y gwêr, a’r gloren a’r holl wêr yr hwn [oedd] ar y perfedd, a rhwyden yr afi, a’r ddwy aren, ai braster hwynt a’r yscwyddoc ddehau.
26A chymmerodd o gawell y bara croiw yr hwn [oedd] ger bron yr Arglwydd, vn deissen groiw, ac vn deissen o fara olewedic, ac vn afrlladen, ac ai gossododd ar y gwêr, ac ar yr yscwyddoc ddehau:
27Ac a roddes y cwbl ar gledrau dwylo Aaron, ac ar gledrau dwylo eu feibion, ac ai cwhwfanodd hwynt yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd.
28Yna y cymmerth Moses hwynt oddi ar gledrau eu dwylo hwynt, ac ai llosgodd ar yr allor yn offrwm poeth: dymma gyssegriadau o arogl esmwyth, dymma aberth tanllyd i’r Arglwydd.
29Cymmerodd Moses y #Exod.29.26.barwyden hefyd, ac ai cwhwfanodd yn offrwm cwhwfan ger bron yr Arglwydd: rhan Moses o hwrdd y cyssegriadau oedd hi, fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
30A chymmerodd Moses o olew’r eneiniad ac o’r gwaed’r hwn [oedd] ar’r allor, ac a daenellodd ar Aaron [ac] ar ei wiscoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wiscoedd ei feibion yng-hyd ag ef: ac efe a gyssegrodd Aaron, ai wisgoedd, ai feibion hefyd, a gwiscoedd ei feibiō yng-hyd ag ef.
31A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth ei feibion, berrwch y cig [wrth] ddrws pabell y cyfarfod, ac #Exod.29.32.yno bwyttewch ef, a’r bara hefyd yr hwn [sydd] yng-hawell y cyssegriadau, megis y gorchymynnais gan ddywedyd, Aaron ai feibion ai bwyttu ef.
32Ar gweddill o’r cig, ac o’r bara a losgwch mewn tân.
33Ac nac ewch saith niwrnod allan o ddrws pabell y cyfarfod, hyd y dydd y cyflawner dyddiau eich cyssegriadau: o herwydd saith niwrnod y bydd efe yn eich cyssegru chwi.
34Megis y gwnaeth efe heddyw: y gorchymynnodd yr Arglwydd wneuthur, i wneuthur iawn drossoch.
35Ac arhoswch, [wrth] ddrws pabell y cyfarfod saith niwrnod ddydd a nos, a chedwch wiliadwriaeth yr Arglwydd, fel na byddoch feirw: canys fel hyn i’m gorchymynnwyd.
36A gwnaeth Aaron ai feibion yr holl bethau y rhai a orchymynnodd’r Arglwydd trwy law Moses.

Currently Selected:

Lefiticus 8: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in