YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 7

7
PEN. VII.
1 Deddf yr offrwm tros gamwedd a phechod. 11 deddf yr offrwm hedd. 23 gwahardd bwyta y gwêr a’r gwaed.
1Dymma hefyd gyfraith yr offrwm dros gāwedd, sācteidd-beth cyssegredic [yw] efe.
2Yn y man lle y lladdant y poeth offrwm, y lladdant yr aberth tros gamwedd, ai waed a daenella efe ar yr allor o amgylch.
3Ai holl wêr a offrymma efe allan o honaw, y gloren hefyd a’r wêren fol.
4A’r ddwy aren a’r gwêr yr hwn [fydd] arnynt yr hwn [fydd] yng-hylch y perfedd, a’r rhwyden ar yr afi, yng-hyd a’r arennau a dynn efe ymmaith.
5A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: aberth tros gamwedd [yw] hwn.
6Pob gwryw ym mysc yr offeiriaid ai bwytu: yn y lle sanctaidd y bwyteuir ef, sancteidd-beth cyssegredic [yw] efe.
7Fel [y bydd] yr aberth tros bechod felly [y bydd] yr aberth tros gamwedd, vn gyfraith [sydd] iddynt: yr offeiriad yr hwn a wna iawn ag ef, ai piau.
8A’r offeiriad yr hwn a offrymmo boeth offrwm neb piau groen y poeth offrwm yr hwn a offrymmodd efe.
9A phôb bwyd offrwm yr hwn a grasser mewn ffwrn, ac hyn oll a wneler mewn padell, neu ar radell, fydd eiddo’r offeiriad yr hwn ai hoffrymmo.
10A phob bwyd offrwm wedi ei gymmyscu trwy olew, neu yn sych a fydd i holl feibion Aaron bob vn fel ei gilydd.
11Dymma hefyd gyfraith yr aberth hêdd, yr hwn a offrymma, efe i’r Arglwydd.
12Os yn lle diolch yr offrymma efe hynn, offrymmed yn lle aberth diolch deissennau croiw, wedi eu cymmyscu drwy olew, ac afrllad croiw, wedi eu hîro ag olew, a pheillied wedi ei grassu’n deissennau wedi eu cymmyscu ag olew.
13Heb law y teissennau offrymmed fara lefeinllyd [yn] ei offrwm, am ei hedd aberth o ddiolch.
14Ac offrymmed o hyn vn [dorth] o bob offrwm yn offrwm derchafel i’r Arglwydd: [a] bydded [hwnnw] eiddo’r offeiriad yr hwn a daenello waed yr ebyrth hedd.
15A chîg ei hedd aberth o ddiolch a fwyteuir y dydd yr offrymmir ef: na adawer o honaw hyd y borau [ddim.]
16Ond os adduned neu rodd trwy fodd a fydd aberth ei offrwm ef, y dydd yr offrymmo efe ei aberth, bwytaer ef: a thrannoeth bwytaer yr hyn fyddo yn weddill o honaw.
17Ond yr hyn a fyddo o gîg yr a berth yn weddill y trydydd dydd, lloscer yn tân.
18Ac os gan fwyta y bwyteuir [dim] o gîg ei aberth hedd ef o fewn y trydydd dydd, ni byddir bodlon i’r hwn ai hoffrymmo ef, [ac] nis cyfrifir iddo, ffieidd-beth fydd: a’r dŷn a fwytu o honaw a ddwg ei anwiredd.
19Ar cig a gyffyrddo a dim aflan, ni fwyteuir, mewn tân y llosgir ef: a’r cîg [arall] pôb glân a fwytu o honaw.
20A’r dŷn yr hwn a fwytu o gig yr hedd aberth, yr hwn [a berthyn] i’r Arglwyd, ai aflēdid arno, torrir ymmaith y dŷn hwnnw o fysc ei bobl
21Ac os dŷn a gyffwrdd a dim aflan, [sef] ag aflendid dyn, neu ag anifail aflan, neu ag vn ffieidd-beth aflan, a bwytta o gîg yr hedd aberth, yr hwn [a berthyn] i’r Arglwydd: yna y torrir ymmaith y dŷn hwnnw o fysc ei bobl.
22Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.
23Llefara wrth feibiō Israel, gan ddywedyd: na fwytewch ddī gwêr eidiō, neu ddafad, #Leuit.3.17.neu afr
24Etto gwêr burgyn, neu wêr ysclyfaeth a ellir ei weithio mewn pob gwaith: ond gan fwytta na fwyttewch [ef].
25O herwydd pwy bynnac a fwyttu o wêr yr anifail, o’r hwn yr offrymmir aberth tanllyd i’r Arglwydd: torrir ymmaith yr enaid a fwyttu o fysc ei bobl.
26Na fwyttewch y chwaith #Gen.9.4.ddim gwaed o fewn eich cyfanneddau, o’r eiddo aderyn nac o’r eiddo anifail.
27Pob enaid a fwyttu ddim gwaed, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl.
28Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.
29Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd y neb a offrymmo ei aberth hedd i’r Arglwydd, dyged ei rodd oi aberth hedd i’r Arglwydd.
30Ei ddwylo a ddygant ebyrth tanllyd i’r Arglwydd dyged hynn, y gwêr yng-hyd a’r barwyden: y barwyden [fydd] iw #Exod.29.24.chyhwfan yn offrwm cwhwfan gar bron yr Arglwydd.
31A llosged yr offeiriad y gwêr, ar yr allor, a bydded y barwyden i Aaron ac iw feibion.
32Rhoddwch hefyd y balfais ddehau yn offrwm derchafael i’r offeiriad o’ch ebyrth hedd chwi.
33A’r hwn o feibion Aaron a offrymmo waed yr ebyrth hedd, a’r gwêr, bydded iddo ef yr 45 yscwyddoc ddehau yn rhan.
34O herwydd parwyden y cwhwfan, ac yscwyddoc y derchafael a gymmerais i gan feibion Israel oi hebyrth hedd hwynt ac ai rhoddais hwynt i Aaron yr offeiriad, ac iw feibion yn ddeddf dragywyddol oddi wrth feibion Israel.
35Hyn yw [braint] eneiniad Aaron, ac eneiniad ei feibion o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, o’r dydd y nessaodd efe hwynt i offeiriadu i’r Arglwydd,
36Yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd roddi iddynt y dydd yr eneiniodd efe hwynt allan o feibion Israel, [drwy] ddeddf dragywyddol drwy eu hoesoedd.
37Dymma gyfraith y poeth offrwm, y bwyd offrwm, a’r aberth tros bechod, a’r aberth tros gamwedd, a’r* cyssegriadau, a’r aberth hedd,
38Yr hon a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai, yn y dydd y gorchymynnodd efe i feibion Israel offrymmu eu hoffrymmau i’r Arglwydd, yn anialwch Sinai.

Currently Selected:

Lefiticus 7: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in