YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 6

6
PEN. VI.
Aberthau am feiau a wneler trwy wybod. 9 Trefn y poeth offrymmau. 14 Trefn y bwyd offrwm. 20 Aberth Aaron ai feibion. 25 Trefn offrwm tros bechod.
1A Llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
2Os pecha dŷn a gwneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a gwadu wrth ei gymydog yr hyn a rodded atto iw gadw, neu am’r hyn y rhoddes efe ei law am dano, neu am yr hynn drwy drawster a ddygodd efe, neu y byddo yn ei gam attal oddi ar ei gymydog:
3Neu os cafodd beth gwedi ei golli, ai wadu, a thyngu mewn anudon, am ba vn bynac o’r holl bethau a wnelo dŷn gan bechu ynddynt.
4Yna am iddo bechu a bod yn euog, bydded iddo roddi yn ei ol y trais yr hwn a dreisiodd efe, neu’r camattaliaeth yr hwn a gamattaliodd, neu’r peth yr hwn a adawyd i gadw gyd ag ef, neu’r peth wedi ei golli yr hwn a gafodd efe.
5Neu beth bynnac y tyngodd efe anudon am dano, taled hynny erbyn ei benn, a chwaneged ei bummed ran atto: a’r dydd yr offrymmo dros gamwedd roddedd ef i’r neb ai piau.
6A dyged i’r Arglwydd yn offrwm dros gāwedd hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd, yn dy bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.
7A gwnaed yr offeiriad iawn trosto ger bron yr Arglwydd, a maddeuir iddo, am ba beth bynnac a wnaeth, i fod yn euog o honaw.
8Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.
9Gorchymyn i Aaron, ac iw feibion gan ddywedydd, dymma gyfraith y poeth offrwm [bydded] y poeth offrwm hwn ar yr aelwyd [yr hon sydd] ar yr allor, ar hyd y nos, hyd y borau, a chynneuer tân yr allor arni,
10Gwisced yr offeiriad hefyd ei lieinwisc am dano, a gwisced lawdrau lliain am ei gnawd, a choded y lludw lle’r yssodd tân y poeth aberth ar yr allor, a gossoded ef ger llaw’r allor.
11A diosced ei wiscoedd, a gwisced ddillad eraill, a dyged allan y lludw i’r tu hwnt i’r gwerssyll, lle glân.
12A chynneuer y tân [sydd] ar yr allor arni, na ddiffodded: onid llosged yr offeiriad goed arni, o forau i forau: a threfned y poeth offrwm arni, a llosced wêr yr aberth hedd arni.
13Cynneuer y tân bob amser ar yr allor, na ddiffodded ef.
14Dymma hefyd gyfraith y bwyd offrwm, dyged meibion Aaron ef ger bron yr Arglwydd o flaen yr allor.
15A choded o honaw yn ei law o beillied y bwyd offrwm, ac oi olew, a’r holl thus yr hwn [fydd] ar y bwyd offrwm, #Lefit.2.2. Num.15.3.a llosced ei goffadwriaeth ef ar yr allor, yn arogl esmwyth i’r Arglwydd.
16A’r gweddill o honaw a fwytu Aaron ai feibion, yn groiw y bwyteuir ef: yn y lle sanctaidd o fewn cynteddfa pabell y cyfarfod y bwytânt ef.
17Na phober ef trwy lefen: rhoddais ef yn rhan iddynt o’m haberthau tanllyd: sancteiddbeth cyssegredic yw hynn, megis o’r aberth tros bechod, a’r aberth tros gamwedd.
18Pob gwryw o blant Aaron a fwytânt hynn [trwy] ddeddf dragywyddol yn eich oesoedd o aberthau tanllyd yr Arglwydd: pob dim oll a gyffyrddo a hwynt cyssygredic fydd.
19A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
20Dymma offrwm Aaron, ai feibion, yr hwnn a offrymmant i’r Arglwydd, sef decfed ran Epha o beillied bwyd offrwm bob amser ar y dydd yr eneinir ef: ei hanner y borau, ai hanner bryd nawn.
21Gwneler ef #Lefit.2.5trwy olew ar y radell, [yna] y dygi ef i mewn: wedi ei grassu, ac offrymma ddrylliau y bwyd offrwm wedi ei grassu, yn arogl esmwyth i’r Arglwydd.
22A’r offeiriad ai feibion ef yr hwn a encinir yn ei le ef, gwnaed hynn [drwy] ddeddf dragywyddol, lloscer y cwbl i’r Arglwydd.
23A phob bwyd offrwm offeiriad byddet wedi ei losci oll, na fwytaer ef.
24Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd.
25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion gan ddywedyd, dymma gyfraith yr aberth tros bechod, vn y lle y lleddir y poeth offrwm, y lleddir yr aberth tros bechod, ger bron yr Arglwydd sanctaidd-beth cyssegredic [yw] efe.
26Yr offeiriad yr hwn ai hoffrymmo tros bechod, ai bwytu, yn y lle santaidd y bwyteir ef, yng-hynteddfa pabell y cyfarfod.
27Beth bynnac a gyffyrddo ai gig ef a fydd cyssygredic, a phan daenello oi waed ef ar ddilledyn, golch yn y lle sanctaidd yr hynn y taenello [y gwaed] arno.
28A #Lefit 15.12.thorrer y llestr pridd yr hwn y berwir ef ynddo, ond os mewn llestr prês y berwir ef, scwrrier, a golcher ef mewn dwfr.
29Bwytaed pob gwryw ym mysc yr offeiriaid ef, sanctaidd-beth cyssegredic [yw] efe.
30Ac na fwytaed vn offrwm tros bechod yr hwn y dygir oi waed i babell y cyfarfod, i wneuthur iawn yn y lle sanctaidd, [ond] llosger mewn tân.

Currently Selected:

Lefiticus 6: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in