YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 5

5
PEN. V.
Am glywed tyngu. 2 Am gyffwrdd a pheth aflan. 4 Am dyngu yn ddiarod. 15 Am sarhaed ar beth cyssygredic.
1Os pecha dyn a chlywed llais llw, ac yntef yn dŷst naill ai’n gweled ai’n gwybod, oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
2Os dyn a gyffwrdd wrth ddim aflan, pwy bynac ai wrth furgyn bwyst sil aflan, ai wrth furgyn anifail aflan, ai wrth furgyn ymlusgiad aflan, er [bod y peth] yn guddiedic oddi wrtho ef aflan, ac euog yw efe.
3Neu pan gyffyrddo ag aflendid dŷn pa aflendid bynnac iddo yr hwn y bydd efe aflan oi blegit: a’r [peth] yn guddiedig rhagddo, pan gaffo wybod euog yw.
4Neu [os] dŷn a dwng, gan draethu a’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da am yr hyn oll a draetho dyn drwy lw, a’r [peth] yn guddiedic rhagddo, pan gaffo efe wybod: euog yw o vn o hyn.
5A phan fyddo efe euog o vn o hyn: yna cyffessed yr hyn y pechodd ynddo.
6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd: [sef] benyw or praidd, dafad neu lwdn gafr yn aberth tros bechod, a gwnaed’r offeiriad iawn trosto am ei bechod.
7Ond os ei law ni chyrredd werth oen, dyged i’r Arglwydd yn iawn am ei gamwedd yr hwn a bechodd, #Lefit.12.8. Luc.2.24.ddwy durtur neu ddau gyw colomen, y naill yn aberth tros bechod, ar llall yn boeth offrwm.
8A dyged hwynt at yr offeiriad ar offrymmed efe yr hwn [sydd] tros bechod yn gyntaf, a rhwng ei fys ai fawd torred ei benn wrth ei wegil, ond na thorred ef ymmaith.
9A thaenelled o waed yr aberth tros bechod ar ystlys yr allor, a gwascer y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor, dymma aberth tros bechod:
10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna iawn drosto am ei bechod yr hwn a bechodd, a maddeuir iddo.
11Ac os ei law ni ddaw i ddwy durtur neu i ddau gyw colomen: yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm [sef] o ddecfed ran Ephao beillied yn aberth tros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno: canys aberth tros bechod yw efe.
12A dyged hynny at yr offeiriad, a chymmered 43 yr offeiriad o honaw loned ei law yn goffadwriaeth: a llosged ar yr allor, ar aberth tanllyd yr Arglwydd: dymma aberth tros bechod.
13Felly gwnaed yr offeiriad iawn drosto ef ag vn o hynn am ei bechod yr hwn a bechodd efe, a maddeuir iddo, a bydded i’r offeiriad[ran] megis [o’r] bwyd offrwm.
14A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
15Os gwna dŷn gamwedd a phechu drwy amryfusedd, mewn [dim] o’r pethau a gyssegrwyd i’r arglwydd: yna dyged i’r Arglwydd yn aberth dros ei gamwedd, hwrdd perffaithgwbl o’r praidd yn dy bris di [sef dau] o siclau arian, yn ol sicl y cyssegr, yn aberth tros gamwedd.
16Yna taled yr hyn y pechodd [ynddo] o’r peth cyssegredic, a rhodded ei bummed ran yn chwanec atto, a rhodded ef at yr offeiriad, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto a hwrdd yr offrwm tros gamwedd: a maddeuir iddo.
17Ac os pecha enaid, #Lefit.4.2.a gwneuthur [yn erbyn] yr vn o holl orchymynnion yr Arglwydd, [ddim o’r] hynn ni ddylid eu gwneuthur, er na wydde, etto euog fydd, ai anwiredd a ddwg.
18Yna dyged hwrdd perffaith-gwbl o’r praidd, vn dy bris di, at yr offeiriad yn offrwm tros gamwedd, a gwnaed yr offeiriad iawn trosto am ei amryfusedd yr hwn a gamgymerodd efe ac yntef heb wybod, a maddeuir iddo.
19Aberth tros gamwedd [yw] hynn: mawr gamwedd a wnaeth yn erbyn yr Arglwydd.

Currently Selected:

Lefiticus 5: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in