YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 27

27
PEN. XXVII.
Cyfraith addunedau, degymmau, a phethau wedi rhoddi eu ddiofryd, sef wedi i’r perchennoc addo i’r Arglwydd trwy adduned na fwynhae hwynt byth ond eu gadel i wasanaeth y cyssegr.
1A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd:
2Llefara wrth feibion Israel, a dywet wrthynt, pan addunedo neb ddynion i’r Arglwyd yn dy bris di.
3Yna bydded dy bris am wryw o fab vgain mlwydd hyd fab trûgain mlwydd, îe bydded dy bris ddec sicl a deugain o arian yn ol sicl y cyssegr.
4Ac os benyw fydd hi, bydded dy brîs ddec sicl ar hugain.
5Ac o fab can mlwydd hefyd hyd fab vgain mlwydd bydded dy brîs am wryw vgain sicl, ac am fenyw ddec sicl.
6A bydded hefyd di brîs am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian: ac am fenyw dy brîs [fydd] tri sicl o arian.
7Ond o fab trûgein mlwydd ac vchod os gwryw [fydd] bydded dy brîs bymthec sicl, ac am fenyw ddec sicl.
8Ond os tlodach fydd efe na’th bris di, yna safed ger bron yr offeiriad, a phrissied yr offeiriad ef yn ol yr hyn a gyrhaeddo llaw’r addunedudd, [felly] y prissia’r offeiriad ef.
9Ond os anifail yr hwn yr offrymmir o honaw offrwm i’r Arglwydd [fydd ei adduned:] yr hyn oll a roddir o honaw i’r Arglwydd sainctaidd fydd.
10Na rodded vn arall am dano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu’r drwg am y da, ac os gan newidio y newidia anifail am anifail, bydded hwnnw, a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd.
11Ac os [adduneda efe] vn anifail aflan yr hwn ni ddylent offrymmu o honaw offrwm i’r Arglwydd, yna rhodded yr anifail i sefyll ger bron yr Arglwydd.
12A phrissied yr offeiriad ef, os da os drwg [fydd] fel y prissio’r offeiriad [ef] it, felly y bydd.
13Ac os efe gan ryddhau ai rhyddha, yno rhodded at dy brîs di ei bummed rann yn chwaneg.
14A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd, yna’r offeiriad ai pryssia yn dda neu yn ddrwg, megis y prissio’r offeiriad ef, felly y saif.
15Ac os y sancteiddudd a ollwng ei dŷ yn rhydd, yna rhodded bummed ran arian dy brîs yn chwanec atto, a bydded eiddo ef [y tŷ.]
16Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd, yna bydded dy bris yn ol ei hauad, hauad Homer o haidd [fydd] er dec sicl a deugain o arian.
17Os o flwyddyn y Iubili y sancteiddia efe ei faes, safed yn dy brîs di.
18Ond os wedi y Iubili y sancteiddia efe ei faes, yna dogned yr offeiriad yr arian iddo yn ol y blynyddoedd y rhai fyddant yn ol hyd flwyddyn y Iubili, a lleihaer ar dy brîs di.
19Ac os yr hwn ai sancteiddiodd gan ryddhâu a ryddhâ y maes, yna rhodded bummed ran arian dy bris di yn chwanec atto, a bydded iddo ef.
20Ac onnis gollwng y maes yn rhydd, ond gwerthu y maes i ŵr arall, ni cheir ei ollwng byth.
21A’r maes fydd pann elo efe allan yn y Iubili yn gyssygredic i’r Arglwydd fel maes diofryd: a bydded ei etifeddiaeth i’r offeiriad.
22Ac os ei dîr prynn yr hwn ni [bydd] o dîr ei etifeddiaeth, a sācteiddia efe i’r Arglwydd.
23Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy brîs di hyd flwyddyn y Iubili, a rhodded yntef dy brîs di yn gyssegredic i’r Arglwydd y dydd hwnnw.
24Y maes a aiff yn ei ol flwyddyn y Iubili, i’r hwn y prynnasseu efe ef ganddo, yr hwn [oedd] eiddo etifeddiaeth y tîr.
25A phob prîs it fydd wrth #Exod.30 13.|EXO 30:13. Num.3.47. Ezec 45.12.sicl y cyssegr, vgain Gerah fydd y sicl.
26 # Exod.13.2. Exod.22.29. Num.3.13. Ond y cyntaf-anedic o anifail yr hwn a enir yn gyntaf i’r Arglwydd na chyssegred neb ef, pa vn bynnac ai eidion, ai dafaf [fydd,] eiddo’r Arglwydd [yw] efe.
27Ond os [ei adduned ef fydd] o anifail aflan, yna rhyddhaed ef yn dy brîs di, a rhodded ei bummed ran yn y chwanec atto, ac onis rhyddha yna gwerther ef yn dy brîs di.
28Ond pob diofryd-beth yr hwn a ddiofrydo vn i’r Arglwydd o’r hyn oll [a fyddo] eiddo ef, o ddŷn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir ac ni waredir: #Num.18.14.pob diofryd-beth sydd sancteidd-beth cyssygredic i’r Arglwydd.
29Ni cheir gollwng yn rhydd vn [anifail] diofrydoc yr hwn a ddiofryder gan ddyn, lladder yn farw.
30A holl ddegwm y tîr o hâd y tîr, [ac] offrwyth y coed yr Arglwydd ai piau, cyssegredic i’r Arglwydd [yw.]
31Ac os gŵr gân ollwng a ollwng yn rhydd [beth] oi ddegwm, rhodded ei bummed rann yn y chwaneg atto.
32A phôb degwn eidion, neu ddafad yr hyn oll a elo dan y wialen fydd ddecfed gyssegredic i’r Arglwydd.
33Nac edryched ai da, ai drwg [fydd efe] ac na newidied ef, ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw, a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gyssegredic, ni ellir ei ollwng yn rhydd.
34Dymma y gorchymynnion y rhai a orchymynnodd yr Arglwyd wrth Moses i feibion Israel ym-mynydd Sinai.

Currently Selected:

Lefiticus 27: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in