YouVersion Logo
Search Icon

Lefiticus 26

26
PEN. XXVI.
Y fendith a gaffo y rhai a gadwant orchymynion Duw 14 Ar felldith a ddaw i’r rhai nis cadwant.
1Na wnewch eulynnod iwch, #Exod.20.4.|EXO 20:4. deut.5.8.|DEU 5:8. psal.97.7.ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedic na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tîr i ymgrymmu iddi, canys myfi [ydwyf] yr Arglwydd eich Duw chwi.
2Fy Sabbothau maufi a gedwch, a’m cyssegr maufi a berchwch: myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
3Os yn fy neddfau maufi y rhodiwch, #Deut.28.1.a’m gorchymynnion maufi a gedwch, ai gwneuthur hwynt.
4Yna mi roddaf eich cafodau yn eu hamser, a rhydd y ddaiar ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth.
5A’ch dyrnu a gyrredd hyd gynhaiaf y grawn-win, a chynhaiaf y grawn-win a gyrredd hyd amsêr hau, a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, #Iob.11.19.ac yn eich tîr y trigwch yn ddiogel.
6Rhoddaf heddwch hefyd yn y tîr, a gorweddwch hefyd heb ddychrynnudd, a gwnaf i’r bwyst-fil niweidiol ddarfod o’r tîr: ac nid aiff cleddyf drwy eich tîr.
7Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.
8A phump o honoch a erlidiant gant, #Iosua.23.10.a chant o honoch a erlidiant fyrddiwn, a’ch gelynion a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf.
9A mi a edrychaf am danoch, ac a’ch gwnaf chwi yn ffrwythlawn, ac a’ch amlhaf chwi, ac a gadarnhaf fyng-hyfammod a chwi.
10A’r hên henaidd a fwytewch, îe yr hên afwriwch chwi allan o achos y newydd.
11Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysc, ac ni ffieiddia fy enaid chwi.#Ezec.37.26. 1.cor.6.16.
12Ac mi a rodiaf yn eich plîth, a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
13Myfi [yw]’r Arglwydd eich Duw’r hwn a’ch dygais chwi allan o dîr yr Aipht, rhac eich bod yn weision iddynt, a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum iwch rodio yn sythion.
14Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchymynnion hynn.
15Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac 53 os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchymynnion, gan dorri o honoch fyng-hyfammod.
16Minne hefyd a wnaf hynn i chwi, gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodigaeth, a’r crŷd poeth, y rhai a wnânt i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau, a heuwch eich hâd yn ofer, canys eich gelynion ai bwyttu.
17Ac a roddaf fy wyneb i’ch erbyn, fel y syrthiwch o flaen eich gelynion: a’ch caseion a feistrolant arnoch: #Dihare.28.1.ffoiwch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid.
18Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanega eich cospi chwi saith mwy am eich pechodau.
19Canys torraf falchder eich nerth chwi, a rhoddaf eich nefoedd chwi fel haiarn, a’ch tîr chwi fel prês.
20A’ch cryfdwr a dderfydd yn ofer, canys eich tîr ny rydd ei gynnyrch, a choed y tîr ni roddant eu ffrwyth.
21Ac os rhodiwch yng-wrthwyneb imi ac ni fynnwch wrando arnaf fi, yna chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ol eich pechodau.
22Ac anfonaf fwyst-fil y maes yn eich erbyn ac efe a’ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleihâ chwi, a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
23Ac os wrth hyn ni chymmerwch ddysc gennif, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi:
24Yna #2 Bren.22.27.(sic.)|2KI 22:17. Psal.18.26.y rhodiafi hefyd mewn gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch maeddaf chwi hefyd saith mwy am eich pechodau.
25A dygaf arnoch gleddyf yr hwn a ddial fyng-hyfammod, a chwi a ymgesclwch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysc, a chwi a roddir yn llaw y gelyn.
26Pan dorrwyf ffonn eich bara, yna dec o wragedd a bobant eich bara mewn vn ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys, a chwi a fwyttewch, ac nis digonir chwi.
27Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yn fy erbyn.
28Rhodiaf yn eich erbyn chwithau hefyd, mewn llîd, a mi a’ch cospaf chwi etto saith mwy am eich pechodau.
29A chwi a fwyttewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwyttewch.
30 # 2.Cron.34.7. Eich vchelfeudd hefyd a ddifwynaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi yng-hyd a chelaneddau eich eulynnod chwi, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi.
31A rhoddaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich arogl esmwyth.
32A mi a ddinistriaf eich tîr, fel y byddo aruthr gan eich gelynion y rhai a drigant ynddo oi herwydd.
33Chwithau a wascaraf ym-mysc y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl, a’ch tîr fydd diffaithwch, a’ch dinasoedd hefyd fyddant anghyfanned.
34Yna y bodlonir y ddaiar am ei Sabbothau, yr holl ddyddiau y byddo yn diffaithwch: a chwithau a fyddwch yn nhîr eich gelynion, yna y gorphywys y tîr, ac y bodlonir am ei Sabbothau.
35Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffaithwch y gorphywys, o herwydd ni orphywysodd ar eich Sabbothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo.
36A’r hyn a weddillir o honoch, dygaf feddalwch ar eu calonnau yn nhîr eu gelynion, #Lefit.25.2.a thrwst deilen yn yscwyd ai herlid hwynt: a ffoant fel ffoi rhac cleddyf, a syrthiant hefyd heb neb yn [eu] herlid.
37A thrippiant bob vn wrth ei gilydd megis o flaen cleddyf, ac heb neb yn eu herlid, ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion.
38Difethir chwi hefyd ym-mysc y cenhedloedd, a thîr eich gelynnion a’ch bwyttu.
39A’r rhai a weddillir o honoch a doddant yn eu hanwireddau yn nhîr eich gelynnion, ac yn anwireddau eu tadau gyd a hwynt y toddant.
40Yna y cyffesant eu hanwiredd ac anwiredd eu tadau yng-hyd ai camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd y modd y rhodiasant yn y gwrthwyneb i mi.
41Ac y rhodiais yn eu gwrthwyneb hwyntau, acy dygais hwynt i dir eu gelynion: os yno’r ymostwng eu calon ddienwaededic, ai bod yn fodlon am eu cospedigaeth.
42Minne a gofiaf fyng-hyfammod ag Iacob, a’m cyfammod hefyd ag Isaac, a’m cyfammod hefyd ag Abraham a gofiaf, a meddyliaf am y tîr.
43A’r tîr a adewir hebddynt, ac a fodlonir am ei Sabbothau tra fyddo yn ddiffaethwch hebddynt, a hwyntau a fodlonir am eu cospedigaeth o achos ac o herwydd dirmygu o honynt fy-marnedigaethau, a ffieiddio oi henaid fyneddfau.
44A hyn hefyd, #Deut.4.31.|DEU 4:31. Ierem.11.29.(sic.)ni ddirmygaf hwynt pan fyddant yn nhîr eu gelynnion, ac ni ffieiddiaf hwynt iw difetha, gan dorri fyng-hyfamod a hwynt, o herwydd myfi [ydyw]’r Arglwydd eu Duw hwynt.
45Ond cofiaf erddynt gyfammod y rhai cyntaf, y rhai a ddygais allan o dîr yr Aipht yng olwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw, myfi [ydwyf] yr Arglwydd.
46Dymma y deddfau, a’r barnedigaethau a’r cyfreithiau y rhai a rodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel ym-mynydd Sinai drwy law Moses.

Currently Selected:

Lefiticus 26: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in