YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 40

40
PEN. XL.
3 Pharao yn carcharu ei ben-trulliad ai ben-pobydd. 8 O Dduw y daw deongliad breuddwydion. 19 Ioseph yn deonglio breuddwyd y ddau garcharor. 23 Aniolchgarwch y pen-trulliad tu ag at Ioseph.
1A Darfu wedi y petheu hynny i drulliad brenin yr Aipht, a’r pobydd bechu yn erbyn eu harglwydd hwynt, brenin yr Aipht.
2A Pharao a lidiodd wrth ei ddau bennaeth [sef] wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd.
3Ac ai rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain [sef] yn y carchar-dŷ, lle ’r oedd Ioseph yn rhwym.
4A’r distain a wnaeth Ioseph yn o lyglwr arnynt hwy: yna efe ai gwasanaethodd hwynt, a buant hwy mewn dalfa ddyddiau [lawer.]
5Yna breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob vn ei freuddwyd ei hun yn yr vn nôs [a] phob vn ar ol deongliad ei freuddwyd ei hun, y trulliad a’r pobydd, y rhai [oeddynt] eiddo brenin yr Aipht, ac yn rhwym yn y carchardŷ.
6A’r borau y daeth Ioseph attynt, ac a edrychodd arnynt, ac wele hwynt yn athrist.
7Ac efe a ymofynnodd a phennaethiaid Pharao, ’rhai [oeddynt] gyd ag ef mewn dalfa [yn] nhŷ ei feistr ef gan-ddywedyd: pa ham [y mae] eich wynebau yn ddrwg heddyw?
8Yna y dywedasant wrtho, breuddwydiasom freuddwyd, ac nid [oes] ai deonglo ef: yna Ioseph a ddywedodd wrthynt, onid i Dduw [y perthyn] dehōgli? mynegwch adolwyn i mi.
9Yna y pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd ef i Ioseph, ac a ddywedodd wrtho: yn fy mreuddwydd [yr oeddwn,] ac wele winwŷdden o’m blaen.
10Ac yn y win-wŷdden [yr oedd] tair caingc, ac [yr ydoedd] hi megis yn blaendarddu: ei blodeun a dorrasse allan, ei gwrysc hi oeddynt addfed [eu] grawn-win.
11Hefyd [yr oedd] cwppan Pharao yn fy llaw, a chymmerais y grawn-wîn, a gwescais hwynt i gwppan Pharao, a rhoddais y cwppan yn llaw Pharao.
12Yna Ioseph a ddywedodd wrtho ef, dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tair caingc.
13O fewn tri diwrnod etto Pharao a dderchafa dy ben di, ac a’th rŷdd di eilwaith yn dy swydd, a rhoddi gwppan Pharao yn ei law ef fel y buost arferol yn y cyntaf pan oeddyt drulliad iddo.
14Etto cofia fi gyd a thi, pan fo daioni i ti, a gwna attolwg a mi drugaredd a choffâ fi wrth Pharao, a dwg fi allan o’r tŷ hwn.
15O blegit yn lledrad i’m lladrattawyd o wlâd yr Hebreaid, ac ymma hefyd ni wneuthum ddim, fel y gossodent fi yng-harchar.
16Pan welodd y pen-pobydd mai daioni a ddeonglase efe, yna y dywedodd wrth Ioseph, minne hefyd [oeddwn] yn fy mreuddwyd, ac wele dri chawell rhwyd-dylloc ar fy mhen.
17Ac yn y cawell vchaf [yr oedd] peth o bôb bwyd Pharaoo o waith pobydd: ar ehediaid yn eu bwytta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.
18Yna Ioseph a attebodd, ac a ddywedodd, dymma ei ddeongliad ef: tri diwrnod yw y tri chawell.
19O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharao dy benn di oddi arnat, ac a’th groga di ar brenn, a’r ehediaid a fwyttant dy gnawd ti oddi am danat.
20Ac ar y trydydd dydd, yr oedd dydd ganedigaeth Pharao, yna efe a wnaeth wledd, iw holl weision, ac efe a dderchafodd ben y pentrulliad, a phen y pen-pobydd ym mysc ei weision ef.
21Ac a ossododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd, ac yntef a roddes y cwppan i law Pharao.
22A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehongliase Ioseph iddynt hwy.
23Ond y pen-trulliad ni chofiodd Ioseph eithr anghofiodd ef.

Currently Selected:

Genesis 40: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in