YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 39

39
PEN. XXXIX.
1 Gwerthu Ioseph i Putiphar. 2 Gwraig Putiphar yn ei demptio ef. 13 Ac yn achwyn arno ef. 20 Ei garchar ef. 21 Ymgeledd Duw iddo ef.
1Felly Ioseph a ddygwyd i wared i’r Aipht, a Phutiphar yr Aipht-wr tywysog Pharao [ai] ddistain ai prynnodd ef o lawr’ Ismaeliaid, y rhai ai dygasent ef ei wared yno.
2Ac yr oedd yr Arglwydd gyd ag Ioseph, ac efe oedd ŵr llwyddiannus: tra fu efe yn nhŷ ei feistr yr Aiphtiad.
3Ai feistr ef a welodd mai yr Arglwydd [oedd] gyd ag ef, a [bod] yr Arglwydd yn llwyddo yn ei law ef yr hyn oll a wnele efe.
4Felly Ioseph a gafodd ffafor yn ei olwg ef, ac ai gwasanaethodd ef, yntef ai gwnaeth ef yn ben-golygwr ar ei dŷ ef, ac a roddes [yr hyn] oll oedd eiddo dan ei law ef.
5Ac er pan wnaethe efe ef yn ben-golygwr ar ei dŷ, ac ar yr hyn oll [oedd] eiddo ef, darfu ’ir Arglwydd fendithio tŷ ’r Aiphtiad er mwyn Ioseph: ac yr oedd bendith yr Arglwydd ar yr hyn oll oedd eiddo ef yn y tŷ, ac yn y maes.
6Am hynny y gadawodd efe yr hyn oll [oedd] ganddo tan law Ioseph, ac nid adwaene ddim ar [a oedd] gyd ag ef, oddi eithr y bwyd yr hwn yr oedd efe yn ei fwytta: Ioseph hefyd oed dêg o brŷd, a glân yr olwg.
7A darfu wedi y petheu hynny i wraig ei feistr ef dderchafu ei golwg ar Ioseph, a dywedydd: gorwedd gyd amfi.
8Yntef a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, wele fy meistr nid edwyn pa beth [sydd] gyd a’mfi yn y tŷ: rhoddes hefyd yr hyn oll [sydd] eiddo ef, tan fy llaw i.
9Nid oes [neb] fwy yn y tŷ hwn na myfi, ac ni waharddodd efe ddim rhagof, onid ty di, o blegit ei wraig ef [wyt] ti: pa fodd gan hynny y gallaf wneuthur y mawr-ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw?
10Ac fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Ioseph beunŷdd, ac yntef heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, gan fod gyd a hi.
11Yna yng-hylch y cyfamser hwnnw y bu i Ioseph ddyfod ’ir tŷ i wneuthur ei orchwyl: ac nid [oedd] yr vn o ddynion y tŷ yno yn tŷ.
12Hithe ai daliodd ef erbyn ei wisc, gan ddywedyd, gorwedd gyd a mi: yntef a adawodd ei wisc yn ei llaw hi, ac a ffoawdd, ac a aeth allan.
13A phan welodd hi adel o honaw ef ei wisc yn ei llaw hi, a ffoi ohonaw allan.
14Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt gan ddywedyd: gwelwch, efe a ddûg i ni Hebrewr ’in gwradwyddo: daeth attafi i orwedd gyd a my fi, minne a waeddais a llêf vchel.
15A phan glywodd efe dderchafu o honofi fy llef, a gweiddi: yno efe a ffoawd, ac a aeth allan, ac adawodd ei wisc yn fy ymmyl i.
16A hi a ossododd ei wisc ef yn ei hymmyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref.
17Yna hi a lefarodd wrtho yn y modd hyn, gan-ddywedyd: yr Hebre was, yr hwn a ddugaist i ni a ddaeth attaf i’m gwradwyddo.
18Ond pan dderchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisc yn fy ymmyl, ac a ffoawdd allan.
19A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig yrhai a lefarase hi wrtho ef, gan ddywedyd, yn y modd hwn y gwnaeth dy wâs di i mi: yna yr enynnodd ei lid ef.
20Yna meistr Ioseph ai cymmerth ef, ac ai rhoddes ef #Psal.105.18.yn y carchar dŷ, lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchar-dŷ.
21Ond yr Arglwydd oedd gyd ac Ioseph, ac a ddangossodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafor iddo ef yngolwg pennaeth y carchar-dŷ.
22A phennaeth y carchar-dŷ, a roddes tan law Ioseph yr holl garcharorion, y rhai [oeddynt] yn y carchardŷ, ac efe oedd yn gwneuthur yr hyn oll a fuasent hwy yn ei wneuthur yno.
23Nid [oedd] pennaeth y carchar-dy yn edrych am ddim oll [a’r a oedd] tann ei law ef, am [fod] yr Arglwydd gyd ag ef: a’r hyn a wnai efe yr Arglwydd ai llwydde.

Currently Selected:

Genesis 39: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in