YouVersion Logo
Search Icon

Genesis 38

38
PEN. XXXVIII.
2 Iuda yn priodi. 7 Drygioni Er, ac Onan, a dialedd Duw arnynt hwy. 18 Iuda yn gorwedd gyd a Thamar. 24 Ac yn barnu Thamar iw llosci am Odineb. 29 39 Ganedigaeth Phares, a Zarah.
1Ac yn y cyfamser hwnnw, y darfu i Iuda ddescyn oddi wrth ei frodyr, a throi at ŵr o Adulam, ai henw Hirah.
2Ac yno y canfu Iuda ferch gŵr o Ganaan, ai enw ef [oedd] Sua; ac ai cymmerodd hi, ac a aeth atti hi.
3A hi a feichiogodd, ac a escorodd ar fâb, ac efe a alwodd ei #1.Cron.2.3.enw ef Er.
4A hi a feichiogodd eil-waith, ac a escorodd ar fâb, a hi a alwodd ei enw ef Onan.
5A thrachefn hi a escorodd ar fâb, ac a alwodd ei enw ef Selah: Ac yn Cezib yr oedd [Iuda] pan escorodd hi ar hwn.
6Yna Iuda a gymmerth wraig i Er ei gyntaf-anedic: ai henw hi [oedd] Thamar.
7Ac #Num.26.19.yr oedd Er cyntaf-anedic Iuda yn ddrygionus yng-olwg yr Arglwydd, am hynny y lladdodd yr Arglwydd ef.
8Yna Iuda a ddywedodd wrth Onan dôs at wraig dy frawd, a gwna iddi rann cyfathrach-wr, a chyfod hâd i’th frawd.
9Felly Onan a wybu nad iddo ei hun y bydde’r hâd: gan hynnya pan ele efe at wraig ei frawd, yna y colle efe ei [hâd] ar y llawr, rhac rhoddi o honaw hâd iw frawd.
10A drygionus oedd yr hyn a wnaethe efe yng-olwg yr Arglwydd: am hynny efe ai lladdodd yntef.
11Yna Iuda a ddywedodd wrth Thamar ei waudd ef, trig yn weddw [yn] nhŷ dy dâd, hyd oni chynnyddo fy mâb Selah: oblegit efe a feddyliase rhac lladd hwnnw hefyd fel ei frodyr ef: felly Thamar a aeth, ac a drigiodd [yn] nhŷ ei thad.
12Ac wedi llawer o ddyddiau, marw a wnaeth merch Sua gwraig Iuda yna Iuda a gymmerth gyssur, ac a aeth i fynu i Thimnath, at gneif-wyr ei ddefaid, ef ai gymydog Hirah yr Adulamiad.
13Mynegwyd hefyd i Thamar, gan ddywedyd: wele dy chwegrwn yn myned i fynu i Thimnath, i gneifio ei ddefaid.
14Hithe a ddioscodd ddillad ei gweddwdod oddi am deni, ac a orchguddiodd [ei hwyneb] a moled, ac a ymwiscodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim yr hwn [sydd] ar y ffordd i Thimnath: o blegit gweled yr oedd hi fyned o Selah yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.
15Felly Iuda ai canfu hi, ac a dybiodd [ei bod] hi yn buttain, o blegit gorchguddio o honi ei hwyneb.
16Ac efe a droawdd atti hi i’r ffordd, ac a ddywedodd tyret atolwg, gad i mi ddyfod attat: o blegit nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef [ydoedd] hi: hithe a ddywedodd, beth a roddi i mi, ôs cei ddyfod attaf?
17Yntef a ddywedodd, mi a hebryngaf fynn gafr o [blith] y praidd: hithe a ddywedodd [bodlawn] ôs rhoddi wystl hyd oni hebryngech.
18Yntef a ddywedodd, beth [fydd] y gwystl yr hwn a roddaf i ti? hithe a ddywedodd dy sêl, a’th gochl, a’th ffonn, yr hon [sydd] yn dy law di. ac efe ai rhoddes iddi, ac a aeth atti; a hi a feichiogodd o honaw ef.
19Yna y cyfododd hi ac a aeth ymmaith, ac a ddioscodd ei moled oddi amdeni, ac a wiscodd ddillad ei gweddwdod.
20Ac Iuda a hebryngodd fynn gafr yn llaw’r Adulamiad ei gymydog ef, i gymmeryd y gwystl o law y wraig: ond ni chafodd [hwnnw] hi.
21Ac efe a ymofynnodd a gwŷr y frô honno gan ddywedyd: pa le [y mae] y buttain honno yr [hon ydoedd] yn Enaim wrth y ffordd? hwythau a ddywedasant ni bu yma [vn] buttain.
22Yna efe a ddychwelodd at Iuda, ac a ddywedodd, ni chefais hi, a gwŷr y frô honno hefyd a ddywedasant ni bu yma [vn] buttain.
23Ac Iuda a ddywedodd, cymmered iddi hi, rhac ein bod ni yn watworgerdd: wele, mi a hebryngais y mynn hwn, a thithe ni chefaist hi.
24Ac ynghylch pen tri mis y mynegwyd i Iuda, gan ddywedyd: Thamar dy waudd di a butteiniodd, ac wele, hi a feichiogodd hefyd mewn godineb: yna y dywedodd Iuda dygwch hi allan, a lloscer hi.
25Yna hi, (pan ddygwyd hi allan) a anfonodd at ei chwegrwn, gan ddywedyd: o’r gŵr yr hwn fydd eiddaw y rhai hyn yr ydwyfi yn feichiog: hefyd hi a ddywedodd, adnebydd, attolwg eiddo pwy [yw] yr sêl, a’r gochl, a’r ffonn ymma.
26Yna Iuda a adnabu [y pethau hynnŷ,] ac a ddywedodd: cyfiawnach yw hi na’m fi, o herwydd na roddais hi i’m mâb Selah: ac ni bu iddo ef a wnaeth a hi mwy.
27Ac yn amser ei hescoredigaeth hi, wele efeillion yn ei chroth hi.
28Bu hefyd pan escorodd hi, i [vn] roddi [allan ei] law: a’r fyd-wraig ai cymmerth ac a rwymodd am ei law ef [edef] gôch gan ddywedyd: hwn a ddaeth yn gyntaf allan.
29A phan dynnodd efe ei law yn ei hôl, yna wele ei frawd ef a ddaeth allan, a hithe a ddywedodd, pa ham y rhwygaist arnat rwygiad? a’m hynny y galwyd ei #1.Cron.2.4. Mat.1.3.enw ef Phares.
30Ac wedi hynny ei frawd ef a ddaeth allan, yr hwn [yr oedd yr edef] gôch am ei law: a galwyd ei henw ef Zarah.

Currently Selected:

Genesis 38: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in