YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 26

26
PEN. XXVI.
1 Llûn y babell. 31 Y llenn. 33 Llê’r Arch: 34 Lle y drugareddfa, a’r bwrdd, a’r canhwyll-bren. 36 Y llen ar ddrws y babell.
1Y Tabernacl hefyd a wnei di o ddêc llenn o sidan gwyn cyfrodedd, ac o sidan glâs, a phorphor, ac scarlat yn Gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.
2Hŷd vn llenn [fydd] wyth gufydd ar hûgain, a llêd vn llenn [fydd] pedwar cufydd, yr vn mesur a fydd i’r holl lennî.
3Pum llenn a fyddant yng-lŷn bob vn wrth ei gilydd, a phum llenn [eraill] a fyddant yng-lŷn wrth ei gilydd.
4A gwna ddolennau o sidan glâs ar ymyl vn llenn, ar y cwrr yn y cydiad, ac felly y gwnei ar ymyl llenn eithaf, yn yr ail cydiad.
5Dêc dolen a deugain, a wnei di i vn llenn, a dêc dolen a deugain a wnei ar gwrr y llenn yr hon [a fyddo] yn yr ail cydiad: y dolennau a dderbyniant bob vn ei gilydd.
6Gwna hefyd ddêc derbyniad a deugain o aur, a chydia a’r derbyniadau y llenni bob vn wrth ei gilydd, fel y byddo yn vn tabernacl.
7A gwna lenni o [flew] geifr [i fod] yn babell-len ar y tabernacl, yn vn llenn ar ddêc a y gwnei hwynt.
8Hŷd vn llenn [fydd] dêc cufydd ar hugain, a llêd vn llen [fydd] pedwar cufydd, a’r vn mesur [fydd] i’r vn llen ar ddêc.
9A chydia bum llenn wrthynt eu hun, a chwe llenn wrthynt eu hun, a dybla y chweched lenn ar gyfer wyneb y babell-len.
10A gwna ddêc dolen a deugain ar ymyl y naill lenn ar y cwrr yn y cydiad [cyntaf], a dêc dolen a deugain ar ymyl y llenn [arall] yn yr ail cydiad.
11A gwna ddêc derbyniad a deugain o brês; a dôd y derbyniadau yn y dolennau, a chylymma y babell-len fel y byddo yn vn.
12A’r gweddill a fyddo tros benn o lenn y babell-len [sef] yr hanner llenn weddill a adewir ar du cefn y tabernacl
13Fel [y byddo] o’r gweddill gufydd o’r naill dû, a chufydd o’r tu arall, o hŷd y babell-len: bydded y gweddill dros ddau ystlys y tabernacl o bob-tu iw orchguddio.
14A gwna dô i’r babell-len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a thô o grwyn daiar-foch yn vchaf.
15A gwna styllod o goed Sittim i’r tabernacl yn eu sefyll.
16O ddêc cufydd o hŷd [yn] yr styllen, ac o gufydd a hanner cufydd o lêd mewn pob styllen.
17[Bydded] dau dŷno i vn bwrdd, wedi gosod fel ffynn yscal, pob vn ar gyfer ei gylydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.
18A gwna styllod i’r tabernacl, vgain styllen o’r tu dehau, tu a’r dehau.
19A gwna ddeugain mortais arian tann yr vgain styllen, dwy fortais tann vn styllen iw dau dŷno, a dwy fortais tan styllen arall iw dau dŷno.
20A [gwna] i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd vgain styllen.
21A deugain mortais o arian [o fesur] dwy fortais tann bob styllen,
22Hefyd i ystlys y tabernacl o du’r gorllewin y gwnei chwech styllen.
23A dwy styllen a wnei i gonglau y tabernacl rhwng y ddau ystlys.
24A byddant wedi eu cyssylldu oddi tanodd, byddant hefyd wedi eu cyd gydio oddi arnodd wrth vn fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau, ŷn y ddwy gongl y byddant.
25A byddant yn wyth styllen, ai morteisiau arian yn vn mortais ar bymthec, dwy fortais dann vn styllen, a dwy fortais tann styllen arall.
26Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i styllod vn ystlys i’r tabernacl.
27A phum barr i styllod ail ystlys y tabernacl, a phum barr i ystlys y tabernacl o du’r gorllewin.
28A’r barr canol [fydd[ yng-hanol yr styllod, yn barrio o gwrr i gwrr.
29Goreura hefyd ag aur yr styllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau drwyddynt, goreura y barrau hefyd ag aur.
30A * chyfot y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd it yn y mynydd.
31A gwna wahân-len o sidan glâs, porphor ac scarlat, ac o sidan gwyn cyfrodedd yn [llawn] Cerubiaid o waith cywreint y gwnei hi.
32A dod hi ar bedair colofn o [goed] Sittim wedi eu goreuro ag aur, ai pennau o aur, ar bedair mortais arian.
33A dod y wahan-len wrth y derbynniadau, fel y gellech ddwyn yno o fewn y wahan-lenn Arch y destiolaeth, a’r wahan-lenn a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr, a’r cyssegr sancteiddiolaf.
34Dod hefyd y drugareddfa ar Arch y destiolaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.
35A gosot y bwrdd o’r tu allan i’r wahan-lenn, a’r canhwyll-bren gyferbyn a’r bwrdd, ar y tu dehau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd,
36A gwna gaead-lenn i ddrws y babell, o sidan glâs porphor, ac scarlat, ac o sian gwyn cyfrodedd o wniad-waith.
37A gwna i’r gaead-len bum colofn, [o goed] Sittim, a goreura hwynt ag aur, ai pennau o aur, a bwrw iddynt bump mortais brês.

Currently Selected:

Exodus 26: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in