YouVersion Logo
Search Icon

Exodus 25

25
PEN. XXV.
1 Duw yn gofyn gan ei bobl offrymmau ewyllysgar i wneuthur y babell. 10 Arch y destiolaeth. 17 Y drugareddfa. 23 Y bwrdd a’r llestri. 31 A’r canhwyllbren.
1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd:
2Dywet wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: #Exod.35.5.gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm:
3Dymma’r offrwm yr hwn a gymmerwch ganddynt: aur, ac arian, a phrês.
4A Sidan glâs, a phorphor ac scarlat, a sidan gwyn a [blew] geifr.
5A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daiar-foch, a choed Sittim.
6Olew i’r goleuni, llyseuau i olew’r ennaint, ac i’r arogl-darth llysseuoc.
7Y meini onix, a meini iw gossod #Exod.28.4.yn yr Ephod, ac #Exod.28.15.yn y ddwyfronec.
8A gwnant i mi gyssegr fel y gallwyf drigo yn eu mysc hwynt.
9Yn ol holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai’r ydwyf yn eu dangos it, felly y gwnewch.
10A gwnant Arch #Exod.37.1.o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei llêd, a chufydd a hanner ei huchter.
11A goreura hi ag aur coeth o fewn, ac oddi allan y goreuri hi: a gwna arni goron o aur o amgylch.
12Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl: dwy fodrwy ar vn ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi.
13A gwna drossolion o goed Sittim, a goreura hwynt ag aur.
14A gossot y trossolion trwy y modrwyau, gan ystlys yr Arch, i ddwyn yr Arch arnynt.
15Ym modrwyau’r Arch y bydd y trossolion, na symmuder hwynt oddi wrthi.
16A dod yn yr Arch, y destiolaeth yr hon a roddaf it.
17A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei llêd.
18A gwna ddau Gerub o aur, o gyfan-waith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwrr y drugareddfa,
19Un Cerub a wnei yn y naill gwrr, a’r Cerub arall yn y cwrr arall i’r drugareddfa, ar ei dau gwrr hi y gwnewch y Cerubiaid.
20A bydded y Cerubiaid yn lledu [eu] hadenydd i fynu gan orchguddio ai hadenydd tros y drugareddfa, ai hwynebau bob vn at ei gilydd, tua’r drugareddfa y bydd wynebau y Cerubiaid.
21A dod ti y drugareddfa i fynu ar yr Arch, ac yn yr Arch dod y destiolaeth yr hon a roddaf i ti.
22A mi a destiolaethaf it yno, ac a lefaraf wrthit oddiar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau Gerub y rhai a fyddant ar Arch y destiolaeth yr holl bethau a orchymynnwyf wrthit i feibion Israel.
23A #Exod.37.10.gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hŷd, a chufydd ei lêd, a chufydd a hanner ei vchter.
24A goreura ef ag aur coeth, a gwna iddo goron o aur o amgylch.
25A gwna iddo gylch [o lêd] llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch.
26A gwna iddo bedair modrwy o aûr, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a [fyddant] ar ei bedwar troed.
27Ar gyfer y cylch y bydd y modrwyau yn lleoedd i’r trossolion i ddwyn y bwrdd.
28A gwna y trossolion o goed Sittim, a goreura hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt.
29A gwna ei ddysglau ef, ai gwppanau, ai gafnau, ai phiolau y rhai y tywelltir a hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt.
30A dod ar y bwrdd y bara gosod ger bron fy-wyneb yn oestadol.
31 # Exod.37.17. Gwna hefyd ganhwyll-bren: o aur pûr yn gyfan-waith y gwneir y canhwyll-bren: ei baladr, ei geingciau, ei bedill, ei gnappiau, ai flodau a fyddant o honaw ei hûn.
32A [bydd] chwe chaingc yn dyfod allan oi ystlysau, tair caingc o’r canhwyll-bren o vn tu, a thair caingc o’r canhwyll-bren o’r tu arall.
33Tair padell o waith almon, cnap a blodeun ar vn gainc, a thair padell o waith almon, cnap a blodeun ar gaingc arall: felly ar y chwe chaingc [a fyddo]’n dyfod allan o’r canhwyll-bren.
34Ac yn y canhwyll-bren y bydd pedair padell ar waith almon, ai gnappiau, ai flodau.
35A bydd cnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap dan ddwy gaingc o honaw: yn ol y chwe chaingc a ddeuant o’r canhwyll-bren.
36Eu cnappiau, ai ceingciau a fyddant o honaw ef: oll yn aur coeth o vn cyfan-waith morthwyl.
37A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a godi ei lusernau ef fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb.
38A [bydded] ei efeiliau, ai gafnau o aur coeth.
39O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hynn.
40Ond #Heb.8.9.(sic.)|HEB 8:5. heb.7.44.(sic.)gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt yr hwn a ddangoswyd it yn y mynydd.

Currently Selected:

Exodus 25: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in