YouVersion Logo
Search Icon

Baruch 5

5
PEN. V.
Llawenydd Ierusalem am lawenydd ei phobl o gaethiwed.
1O Ierusalem diosc wisc dy alar a’th dristwch, a gwisc harddwch y gogoniant yr hwn sydd oddi wrth Dduw yn dragywydd.
2Duw a wisc bais cyfiawnder am danat ti [ac]a esyd ar dy ben di goron gogoniant tragywyddol.
3O blegit Duw a ddengis dy ddisclaerdeb di i bob [cenhedlaeth] tann y nefoedd.
4Canys Duw a eilw dy enw di byth, heddwch cyfiawnder, a gogoniant duwioldeb.
5Cyfot Ierusalem a saf yn vchel ac edrych tu a’r dwyrain a gwel dy blant wedi eu casclu o fachludiad haul hyd ei godiad trwy air yr hwn sydd sanctaid [ac] yn llawen ganddynt goffau Duw.
6Ar eu traed yr aethant hwy oddi wrthit ti ai gelynion ai dugasant hwynt ymmaith: eithr Duw ai dwg hwynt attat ti wedi eu derchafu mewn gogoniant fel meibion brenin.
7O blegit Duw a ordeiniodd ostwng pob mynydd vchel a’r brynniau tragywyddol, a llēwi y pantoedd yn ogyfiwch a’r ddaiar fel y gallo Israel rodio yn ddiogel er gogoniant i Dduw.
8Y coedydd a phob pren aroglbêr a fuant lawen tros Israel wrth orchymyn Duw.
9O herwydd Israel a ddygir [adref] yn llawen yng-oleuad ei ogoniant ef yng-hyd â thrugaredd, a’r cyfiawnder yr hwn sydd oddi wrtho ef.

Currently Selected:

Baruch 5: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in