YouVersion Logo
Search Icon

Baruch 4

4
PEN. IIII.
Gwobr y rhai a gadwant a chosp y rhai a dorrant y gyffraith.
1Dymma lyfr gorchymynnion Duw, a’r gyfraith a beru byth: y rhai oll ai cadwant hi [a ddeuant] i fywyd, a’r rhai ai gadawant hi a leddir.
2Dychwel Iacob, ac ymafl ynddi hi: rhodia mewn goleuni wrth ei llewyrch hi.
3Na ddot dy ogoniant i arall: na’r budd i genhedlaeth arall.
4Gwyn ein byd ni Israel am fod yn hyspys i ni y pethau a rygluddant fodd i Dduw.
5O fy mhobl, coffadwriaeth Israel cymmer gyssur.
6Chwi a werthwyd i’r cenhedloedd nid i’ch difetha, ond o herwydd i chwi annog Duw i ddig y rhoddwyd chwi i’ch gelynion.
7O herwydd chwi a ddigiasoch yr hwn a’ch gwnaeth chwi, gan offrymmu i gythreiliaid ac nid i Dduw.
8Anghofiasoch Dduw tragywyddol: eich tâd a’ch mammaeth Ierusalem a wnaethoch chwi yn drist.
9O blegit hi a welodd y dig a oedd yn dyfod arnoch chwi, ac a ddywedodd, gwrandewch cymydogiō Sion, dygodd Duw arnafi dristwch mawr.
10O herwydd mi a welais gaethiwed fy meibion a’m merched: yr hon a ddug y tragywyddol [Dduw] arnynt hwy.
11Canys yn llawen y megais i hwynt: eithr trwy wylofain a thristwch yr ymadawaf â hwynt.
12Na lawenyched neb o’m plegit i yr hon ydwyf weddw, ac a wrthododd llawer: anghyfannedd ydwyfi o achos pechodau fy mhlant am gilio o honynt hwy oddi wrth gyfraith Dduw.
13Nid adwaenent hwy ei gyfiawnder ef, ac ni rodient hwy yn ffyrdd gorchymynnion Duw, ac ni ddringasant hwy lwybrau dysc yn ei gyfiawnder ef.
14Deued cymmydogiō Sion, cofiwch ga­ethiwed fy meibion i am merched yr hon a ddug y tragywyddol [Dduw] arnynt hwy.
15O herwydd efe a ddug yn ei herbyn hwynt genhedlaeth o bell, cenhedlaeth annuwiol ag o iaith arall: y rhai ni pharchent yr hen, ac nid arbedent yr ieuangc.
16Hwythau a ddygasant ymmaith annwylyd y weddw, ac a wnaethant yr vnic yn ang­hyfannedd heb ferched.
17A pha help a allaf fi i chwi?
18O blegit yr hwn a ddug adfyd arnoch chwi a’ch gwared chwi o law eich gelynion.
19Ymmaith a chwi, ymmaith a chwi [fy] mhlant, o blegit fo’m gadawyd i yn ang-hyfannedd.
20Mi a ddioscais wisc tangneddyf a gwiscais sachliain fyng-weddi: tra fyddwyf fi byw y llefaf fi ar [Dduw] tragywyddol.
21Cymmerwch gyssur blant, llefwch ar yr Arglwydd, ac efe a’ch gwared chwi oddi wrth gadernid [sef] o ddwylo eich gelynion chwi.
22O herwydd y mae gennif fi obaith byth o’ch iechydwriaeth chwi, ac fe a ddaeth i mi lawenydd oddi wrth hwn sydd sanctaidd, o herwydd y drugaredd yr hon a ddaw i chwi yn fuan gan ein tragywyddol iachawdwr.
23O blegit trwy dristwch ac wylofain yr ymadewais, eithr Duw a’ch rhydd chwi i mi drachefn trwy lawenydd a hyfrydwch byth.
24Megis yn awr y gwelodd cymydogion Sion eich caethiwed chwi, felly ar fyrder y gwelant hwy eich iechydwriaeth chwi yn Nuw, yr hon a ddaw i chwi trwy ogoniant mawr a harddwch tragywyddol.
25O [fy] mhlant cymmerwch yn ddioddefgar y digter a ddaw i chwi oddi wrth Dduw, o herwydd y gelyn a’th erlidiodd di, ac ar fyrder ti a gei weled ei ddinistr ef ac a sethri ar ei wddf ef.
26Fy annwylyd a aethant rhyd ffyrdd geirwon, hwy a ddygwyd ymmaith fel praidd yr hwn a sclyfaethe gelynion.
27Cymmerwch gyssur fy mhlant, a ge­lwch ar Dduw: o blegit y mae yr hwn a’ch dug chwi ymmaith yn meddwl am danoch chwi.
28Megis y bu eich meddwl chwi ar gyrwydro oddi wrth Dduw, felly bydded yn ddec mwy ar droi iw geisio ef.
29O blegit yr hwn a ddug y drygfyd i chwi a ddwg i chwi gyd a’ch iechydwriaeth lawenydd tragywyddol.
30Cymmer gyssur Ierusalē, y mae yr hwn a’th henwodd di yn dy gyssuro.
31Gwae y rhai a wnaethant niwed i ti, ac a fu lawen ganddynt dy gwymp di.
32Gwae y dinasoedd y rhai y gwnaeth dy blant di wasanaeth iddynt, gwae yr hon a gymmerodd dy feibion di [oddi wrthit.]
33O blegit megis y mae yn llawen ganddi dy gwymp di, ac yn hyfryd ganddi dy dramgwydd di, felly y bydd hi athrist o blegit ei hang­hyfannedd-dra ei hun.
34Canys mi a dorraf ymmaith lawenydd ei gwerin, ai ffrost hi a fydd yn dristwch.
35O herwydd tân a ddaw arni hi tros hir ddyddiau oddi wrth [Dduw] tragywyddol, a chythreiliaid a breswyliant ynddi amser mawr.
36Edrych ô Ierusalem tu ar dwyrain, a gwel yr hyfrydwch yr hwn sydd yn dyfod i ti gan Dduw.
37Wele y mae dy feibion y rhai yr ymadewaist â hwynt yn dyfod, y maent hwy yn dyfod wedi eu casclu o’r dwyrain hyd y gorllewyn [ac] yn llawenychu yng-air yr hwn fyd sanc­taid er gogoniant i Dduw.

Currently Selected:

Baruch 4: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in