YouVersion Logo
Search Icon

Gweithredoedd yr Apostolion 6

6
PEN. VI.
Vrddiad saith o ddiaconiaid yn yr Eglwys, dysc Stephan. 11 A’i gyhuddiad.
1Yn y dyddiau hynny pan amlhaodd y discyblion y cyfodes murmur gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebræaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy, yn y weinidogaeth feunyddol.
2Yna’r deuddêc a alwasant yng-hyd y lliaws discyblion, ac a ddywedasant: nid yw gymhesur i ni adel gair Duw, a gwasanaethu byrddau.
3Am hynny frodyr, edrychwch yn eich plith am saith o wŷr o air da, llawn o’r Yspryd glân, a doethineb, y rhai a osodom yn hyn o orchwyl.
4Eithr nyni a barhawn mewn gweddi, a gweinidogaeth y gair.
5A bodlon fu gan yr holl dyrfa yr ymadrodd ymma, a hwy a etholasant Stephan gŵr llawn o ffydd ac o’r Yspryd glân, a #Pen.21.8. Philip, a Phrochorus, Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas y proselyt o Antiochia.
6Y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apostolion, ac wedi iddynt weddio, hwy a osodasant eu dwylo arnynt hwy.
7Yna y cynnyddodd gair Duw, ac yr amlhaodd rhifedi y discyblion yn ddirfawr yn Ierusalem, a llawer o’r offeiriaid a vfuddhasant i’r ffydd.
8Eithr Stephan yn llawn ffydd, a nerth, a wnaeth refeddodau a gwyrthiau mawr ym mysc y bobl.
9Yna y cyfodes rhai o’r synagog a elwir Libertiniaid, a Cyreniaid, ac o Alexandria, ac o’r rhai sy o Cilicia, ac Asia, ac a ymddadleuasant â Stephan.
10Ac ni allent wrthwynebu y doethineb, na’r Yspryd, drwy yr hwn yr ymadroddodd efe.
11Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, nyni a’i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.
12Ac hwy a gyffroasant y bobl, a’r henuriaid, a’r scrifennyddion, ac a ruthrâsant iddo, ac a’i cippiasant ef, ac a’i dugasant at y cyngor.
13A hwy a osodâsant gau dystion y rhai a ddywedent: nid yw y dyn hwn yn peidio a dywedyd cabl eiriau yn erbyn y lle sanctaidd hwn, a’r gyfraith:
14Canys nyni a’i clywsom ef yn dywedyd, yr Iesu hwn o Nazareth a ddestruwia y lle ymma, ac a newidia y defodau a roddes Moses i ni.
15A phan edrychodd y rhai oeddynt yn eistedd yn y cyngor arno ef oll, hwy a welent ei wyneb fel wyneb angel.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in