YouVersion Logo
Search Icon

Gweithredoedd yr Apostolion 5

5
PEN. V.
Cosp am gelwydd, 12 a chyssegr-ledrad Ananias a’i wraig, 14 Cynnydd yr eglwis, 17 Carchar yr Apostolion, 19 yr angel yn eu gwaredu, 20 hwyntau yn pregethu, 34 cyngor Gamaliel.
1Y’r oedd rhyw wr a’i enw Ananias gyd â Sapphira ei wraig a werthase dir,
2Ac a ddarn-guddiodd [ran] o’r gwerth, a’i wraig yn gwybod, ac a ddug y rhan arall, ac a’i gosododd wrth draed yr Apostolion.
3Yna y dywedodd Petr, Ananias, pa ham y llanwodd Satan dy galon i beri i ti ddywedyd celwydd wrth yr Yspryd glân, a darn-guddio [rhan] o werth y tir?
4Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di: a pha ham y gosodaist dy feddwl ar y peth hyn? ni ddywedaist di gelwydd wrth ddynion, ond wrth Dduw.
5Pan glybu Ananias y geiriau hyn, efe a syrthiodd i lawr, ac a drengodd: a daeth ofn mawr ar bawb a glybu hyn.
6A’r gwŷr ieuaingc a gyfodasant, ac a’i cymmerasant ef, ac a’i dugasant, ac a’i claddasant.
7Yna y bu megis yspaid tair awr, a’i wraig a ddaeth i mewn, heb ŵybod dim a’r a wnaethid.
8Yna y dywedodd Petr wrthi: dywet i mi, ai er hyn a hyn y gwerthasoch chwi y tîr? hithe a ddywedodd, ie er hynny.
9A Phetr a ddywedodd wrthi pa ham y darfu i chwi gydtuno rhyngoch i demtio Yspryd yr Arglwydd? edrych wrth y drws [ôl] traed y rhai a gladdasant dy ŵr di, a hwy a’th ddygant dithe allan.
10Ac yna yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd, a’r gwyr ieuaingc a ddaethant i mewn, ac a’i cawsant hi yn farw, ac a’i cyfodasant, ac a’i claddasant yn ymyl ei gŵr.
11Ac ofn mawr a gyfodes ar yr holl eglwys, ac ar bawb oll a glybu hyn.
12Eithr drwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion, #5.12-16 ☞ Yr Epystol ar ddigwyl Sanct Bartholomew. a llawer o ryfeddodau ym mhlith y bobl, ac yr oeddynt oll yn gytun ym mhorth Salomon.
13Ond ni feiddie neb o’r lleill ymgyssylltu â hwynt, eithr y bobl oedd yn eu mawrhau.
14A lliaws o’r rhai a gredasant yn yr Arglwydd yn wŷr a gwragedd a gynnyddasant fwy-fwy.
15Hyd oni ddygent y cleifion i’r heolydd au gosod mewn gwelyau a glythau, fel y cyscode cyscod Petr rai o honynt pan ddele efe [heibio.]
16A lliaws a ddaeth hefyd yng-hyd o’r dinasoedd cyfagos i Ierusalem gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachauwyd oll.
17Yna y cyfodes yr arch-offeiriad, a phawb oll a’r a oedd gyd ag ef, (yr hon yw heresi y Saducæaid) ac yr oeddynt yn llawn llid.
18Ac hwy a ddodasant eu dwylo ar yr Apostolion, ac a’u rhoesant yn y carchar cyffredin.
19Eithr angel yr Arglwydd o hŷd nos, a agorodd ddrysau y carchar, ac a’u dug hwynt allan: ac a ddywedodd,
20Ewch a sefwch yn y deml, a lleferwch wrth y bobl oll, eiriau y fuchedd hon.
21Pan glywsant hwy y pethau hyn, hwy a aethant yn foreu i’r Deml, ac a ddyscasant, a’r arch-offeiriad a ddaeth, a’r rhai oeddynt gyd ag ef a alwasant yng-hyd y cyngor, a holl henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i’r carchar i beri eu dwyn hwy [ger bron.]
22A phan ddaeth y swyddogion, ni chawsant hwy yn y carchar, eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,
23Gan ddywedyd: yn wir ni a gawsom y carchar wedi ei gaeu o’r fath siccraf, a’r ceidwaid yn sefyll allan gyferbyn â’r drysau, eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
24Pan glybu yr arch-offeiriad, a llywodraethwŷr y Deml, a’r offeiriaid pennaf yr ymadroddion hyn, ammau a wnaethant yn eu cylch hwy, beth a ddoe o hyn.
25Yna y daeth vn ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd: wele, y mae y gwŷr a ddodasoch yng-harchar yn sefyll yn y Deml, ac yn dyscu y bobl.
26Yna yr aeth y penswyddog, efe a’i swyddwŷr, ac a’u dug hwy yn ddi anfodd (o blegit yr oedd arnynt ofn y bobl rhag eu llabyddio)
27Ac wedi eu dwyn hwy, y gosodwyd hwy o flaen y cyngor, a’r arch-offeiriad a ofynnodd iddynt,
28Gan ddywedyd: oni rybuddiasom chwychwi yn fynych na phregethech yn yr enw hwnnw? ac wele, chwi a lanwasoch Ierusalem â’ch athrawiaeth, ac a fynnwch ddwyn arnom ni waed y dŷn hwnnw.
29Yna Petr a’r Apostolion gan atteb a ddywedasant: rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
30 # Pen.3.13. Duw ein tadau ni a gyfododd i fynu Iesu yr hwn a laddasoch chwi, ac a groes-hoeliasoch ar bren.
31Hwn a dderchafodd Duw â’i ddehaulaw, yn dywysog, ac yn iachawdur i rodd i edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.
32A nyni ydym dystion iddo o’r pethau hyn, a’r Yspryd glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i’r rhai a vfuddhânt iddo ef.
33Pan glywsāt hwythau hyn, hwy a ffrommasant, ac a ymgynghorasant am eu lladd hwynt.
34Yna y cyfododd yn y cyngor vn Pharisaead, ai enw Gamaliel, doctor o’r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd fyned allā â’r Apostolion dros ennyd fechan.
35Ac efe a ddywedodd wrthynt: ha-wŷr, o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth a wneloch am y dynion hyn.
36Canys cyn hynn o amser y cyfodes vn Theudas yn dywedyd ei fod yntef yn rhyw vn mawr, ac at hwn yr ymgasclodd rhifedi o wŷr yng-hylch pedwar cant, ac ef a laddwyd, a hwynt oll a oeddynt yn coelio iddo a wascarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.
37Yn ôl hwn y cyfodes Iudas o Galilæa yn amser y deyrn-ged, ac efe a droes lawer o bobl ar ei ôl, efe hefyd a ddarfu am dano, a chymmaint oll ac a gytunasant ag ef a wascarwyd.
38Am hynny yn awr meddaf wrthych: peidiwch â’r dynion hyn, a gadewch iddynt: canys os o ddynion y mae hyn o gyngor neu weithred, efe a ddiflanna:
39Ac os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddattod ef rhag eich cael yn rhyfelwyr yn erbyn Duw.
40A chytuno ag ef a wnaethant, ac wedi iddynt alw yr Apostolion attynt, au curo, hwy a orchymynnasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a’u gollyngasant ymmaith.
41Hwythâu a aethant allan o olwg y cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddwyn ammarch er mwyn enw yr Iesu.
42A beunydd yn y Deml, ac o dŷ i dŷ ni pheidiasant â dyscu, ac â phregethu Iesu Grist.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in