YouVersion Logo
Search Icon

Gweithredoedd yr Apostolion 3

3
PEN. III.
Iachâad y cloff efrydd, 12 Petr yn pregethu Crist.
1Petr hefyd ac Ioan a aethant i fynu i’r Deml yng-hyd, ar yr awr weddi, [sef] y nawfed.
2A rhyw ŵr, yr hwn oedd gloff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y Deml yr hwn a elwid [y porth] prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elent i mewn i’r Deml.
3A phan welodd efe Petr ac Ioan ar fyned i’r Deml, efe a ddeisyfiodd gael elusen.
4A Phetr yn dal sulw arno gyd ag Ioan a ddywedodd: edrych arnom ni.
5Ac efe a graffodd arnynt, gan obeithio derbyn rhyw beth ganddynt.
6Yna y dywedodd Petr, arian ac aur nid oes gennif, eithr yr hyn sydd gennif, hynny yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw yr Iesu Grist o Nazareth, cyfot a rhodia.
7A chan ei gymmeryd erbyn ei ddehaulaw efe a’i cyfododd ef i fynu, ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau a gadarnhauwyd.
8A chan neidio i fynu efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyd â hwy i’r Deml, gan rodio, a neidio, a moli Duw.
9A’r holl bobl a’i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.
10Ac yr oeddynt yn ei adnabod ef, mai efe oedd y neb a eisteddase wrth borth prydferth y Deml am elusen, ac hwy a lanwyd o ofn a synnedigaeth, am y peth a ddigwyddase iddo.
11Ac fel yr oedd yr efrydd hwnnw a iachausid, yn attal Petr ac Ioan, y rhedodd yr holl bobl yn synnedig attynt i’r porth a elwir [porth] Salomon.
12A phan welodd Petr hyn, efe a attebodd y bobl, ô wŷr o Israel, pa ham yr ydych yn rhyfeddu am hyn? a pha ham yr ydych yn hulldremmu arnom ni, fel pe trwy ein nerth neu ein duwioldeb ni y gwnaethem i hwn gerdded?
13Duw Abraham, ac Isaac, ac Iacob, #Pen.5.30. Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a fradychasoch chwi, ac a wadasoch ger bron Pilat, pan farnodd efe ef iw ryddhau.
14Eithr chwi a wadasoch y Sanct, a’r cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddi i chwi ŵr [a sedd] yn llofrudd.
15A chwi a laddasoch dywysog y bywyd, yr hwn a godes Duw o feirw, o’r hyn yr ydym ni yn dystion.
16A thrwy ffydd yn ei enw ef, y nerthodd ei enw ef hwn, yr hwn a welwch, ac a adwaenoch: sef y ffydd yr hon [fydd] drwyddo ef, a roes iddo ef yr iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.
17Ac yn awr frodyr mi a wn i chwi wneuthur [hynny] trwy anwybod: fel y [gwnaeth] eich pendefigion chwi hefyd.
18Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei brophwydi oll, y dioddefe Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.
19Am hynny edifarhewch, a dychwelwch, fel y deleuer eich pechodau, pan ddelo yr amseroedd i orphywys o olwg yr Arglwydd,
20A phan anfono efe Iesu Grist yr hwn a bregethwyd o’r blaen i chwi.
21Yr hwn sydd raid i’r nef ei dderbyn, hyd yr amseroedd yr adnewyddir pob peth, y rhai a ddywedodd Duw o’r blaen drwy enau ei holl sanctaidd brophwydi ef erioed.
22 # Pen.7.37.|ACT 7:37. Deut.18.15. Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi brophwyd o’ch brodyr fel myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.
23Canys bydd, pa enaid bynnac ni wrandawo ar y prophwyd hwnnw, efe a ddestruwir o blith y bobl.
24A’r holl brophwydi hefyd o Samuel, ac o hynny allan, cynnifer ac a lefarasant, a fynegasant o’r blaen am y dyddiau hyn.
25Chwy-chwi ydych blant y prophwydi a’r cyfammod, yr hwn a wnaeth Duw a’n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham: #Gen.12.3. Gal.3.8. yn dy had ti hefyd y bēdithir holl dylwythau y ddaiar.
26Duw gan gyfodi ei Fab Iesu, a’i gyrrodd ef i chwi yn gyntaf i’ch bendithio fel y troech bob vn o honoch oddi wrth eich drygioni.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in