YouVersion Logo
Search Icon

Gweithredoedd yr Apostolion 2

2
PEN. II.
Yr Yspryd glân yn dyfod ar ddull tafodau, 7 Gweithred yr Yspryd glân. 14 Petr yn atteb yn erbyn cabl-wyr yr Yspryd. 41 Cynnydd yr eglwys: buchedd, ac ymddygiad y ffyddloniad.
1Wedi dyfod dydd y Pentecost yr oeddynt hwy oll yn gytun yn yr vn-lle.#2.1-11 ☞ Yr Epystol ar y Sulgwyn.
2Ac yn ddisymmwth fe ddaeth swn o’r nef, fel gwth gwynt yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd.
3A thafodau gwahannedic a ymddangosasant iddynt fel tân, ac efe a eisteddodd ar bob vn o honynt.
4A hwy a gyflawnwyd oll â’r Yspryd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill megis y rhoddes yr Yspryd iddynt lefaru.
5Ac yr oedd yn trigo yn Ierusalem Iddewon bucheddol, o bob cenedl dann y nef.
6Wedi myned y gair o hynn, y daeth lliaws yng-hyd, ac a synnodd, o blegit bod pawb yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei dafod-iaith ei hun.
7Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant gan ddywedyd wrth ei gilydd, wele onid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru o Galilæa?
8Pa wedd gan hynny yr ydym ni yn eu clywed hwynt, pawb yn ein tafod-iaith ein hunain yn yr hon ein ganed ni?
9Pârthiaid, Mediaid, Elamidiad, a thrigolion Mesopotamia, ac Iudæa, a Chappadocia, a Phontus, ac Asia,
10Phrygia, a Phamphilia, yr Aipht, a rhannau Libya yr hon sydd ger-llaw Cyrene, a dieithriaid o Rufein-wŷr, yn Iddewon, ac yn broselytiaid,
11Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn traethu mawrion weithredoedd Duw, yn ein tafod-iaith ein hun.
12A hwy a ryfeddâsant eu gyd oll, ac a synnasant gan ddywedyd y naill wrth y llall: beth a all hyn fod?
13Ac eraill yn gwatwar a ddywedâsant, mai llawn o win mêlus oeddynt hwy.
14Eithr Petr yn sefyll gyd â’r vn ar ddêc, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, ô wŷr, Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Ierusalem bydded yspysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau:
15Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon fel yr ydych chwi yn tybied, o blegit y drydedd awr o’r dydd yw hi.
16Eithr dymma y peth a ddywetpwyd trwy y prophwyd #Ioel.2.18. Esai.24.3. Ioel:
17Ac fe fydd yn y dyddiau diweddaf (medd Duw) y tywalltaf o’m Hyspryd ar bob cnawd, a’ch meibion a’ch merched a brophwydant, a’ch gwyr ieuaingc a welant weledigaethau, a’ch hynaf-gwŷr a freuddwydiant freuddwydion.
18Ac ar fyng-weision, ac ar fy llaw-forwynion y tywalltaf o’m Hyspryd yn y dyddiau hynny, a hwy a brophwydant.
19Ac mi a roddaf ryfeddodau yn y nef vchod, ac arwyddion yn y ddaiar i fod, gwaed, a thân, a tharth mwg.
20Yr haul a droir yn dywyllwch, a’r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.
21A bydd: pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd fydd yn gadwedic.
22Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn, Iesu hwnnw o Nazareth gŵr profedic gan Dduw yn eich plith trwy weithredoedd nerthol, a rhyfeddodau, ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich mysc chwi, fel y gwyddoch chwi,
23Hwn wedi ei roddi trwy derfynedic gyngor a rhagŵybodaeth Duw, a gymmerasoch chwi: ac wedi i chwi trwy ddwylo anwir ei hoelio, a laddasoch chwi.
24Yr hwn a gyfodes Duw i fynu gan ryddhau gofidiau angeu, canys amhossibl oedd i hwnnw ei attal ef.
25O blegit Dafydd a ddywed am dano: #Psal.16.9. yr Arglwydd a welais ger fy mron yn oestad: sef ar fy nehaulaw y mae fel na’m yscoger.
26Am hynny y llawenhâodd fyng-halon, ac y gorfoleddodd fy nhafod, ac y gorphywys fyng-nhawd hefyd mewn gobaith:
27Am na adewi fy enaid yn vffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth.
28Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd y bywyd: Ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wyneb[pryd.]
29Ha wŷr frodyr, mi a gaf yn hyf ddywedyd wrthych am y patriarch Dafydd, #Pen.13.36. 1.Bren.2.10. ei farw ef, a’i gladdu, a bod ei feddrod gyd â ni hyd y dydd heddyw.
30Am hynny ac efe yn brophwyd, ac yn gŵybod dyngu o Dduw #Psal.132.11. lw, mai o ffrwyth ei lwyn ef o herwydd y cnawd y cyfode efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef,
31Ac efe yn gŵybod o’r blaen a ddywedodd am gyfodiad Crist: na adawsid ei #Pen.13.35. Psal.16.10. enaid yn vffern, ac na welse ei gnawd lygredigaeth:
32Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu, i’r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33Gan ei gyfodi ef fel hyn drwy ddehaulaw Dduw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid am yr Yspryd glân, efe a dywalltodd yr hyn ymma a welwch, ac a glywch y pryd hyn.
34O blegit ni dderchafodd Dafydd i’r nefoedd, ond y mae efe yn dywedyd ei hun, #Psal.110.1. yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, eistedd ar fy neheu-law,
35Oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i’th draed.
36Am hynny gwybydded holl dy Israel yn ddiogel ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd, ac yn Grist, sef yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.
37Wedi clywed y geiriau hyn y cydbigid hwy yn eu calonnau, ac y dywedâsant wrth Petr, a’r apostolion eraill, ha wŷr frodyr, beth a wnawn ni?
38Yna y dywedodd Petr wrthynt: edifarhewch, a bedyddier pawb o honoch yn enw yr Iesu Grist er maddeuant pechodau, a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd glân.
39Canys i chwi y mae yr addewid, ac i’ch plant, i bawb ym mhell, pa rai bynnac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni.
40Ac â llawer o ymadroddion eraill y testiolaethodd ac y cynghorodd, gan ddywedyd, ymgedwch rhag y genhedlaeth anhydyn hon.
41Am hynny y rhai a dderbyniasant yn ewyllyscar ei air ef, a fedyddiwyd, a chwannegwyd at [yr Eglwys] y dydd hwnnw ynghylch tair mil o eneidiau.
42Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth yr apostolion, â chymdeithas, ac yn torri bara, ac mewn gweddiau.
43Ac ofn a gyfodes ar bawb, a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr apostolion.
44A phawb a’r a gredâsant oeddynt yn vn lle, a phob peth ganddynt yn gyffredin.
45Ac hwy a werthâsant eu meddiannau, a’u da, ac a’u rhannasant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb.
46Ac yr oeddynt yn parhau beunydd yn y Deml yn gytun, gan dorri bara o dŷ i dŷ, a chan gymmeryd bwyd mewn llawenydd, a symledd calon:
47Gan foli Duw, a chael ffafor gan yr holl bobl, a’r Arglwydd a chwanegodd at yr Eglwys beunydd y rhai fyddent gadwedig.

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in