YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 14

14
PEN. XIIII.
1 Demetrius wedi ei gyffroi gan Alcimus yn danfon Nicanor i ladd yr Iddewon. 18 Nicanor yn gwneuthur ammôdau â’r Iddewon. 29 Ac yn gorfod iddo eu torri hwy oll, gan lid y brenin. 37 Nicanor yn gorchymyn dal Razis, 41 Yntef yn ei ladd ei hun.
1YN ôl Tair blynedd y daeth y gair at Iudas i Demetrius mâb Seleucus, ddyfod trwy borthladd Tripolis ar hyd y dwfr, a chynulleidfa rymmus, ac â llongau.
2A gorescyn y wlâd wedi iddo orchfygu Antiochus ai orchwylwr Lysias.
3Vn Alcimus yr hwn o’r blaen a fuasse yr arch-offeiriad, ond oi wirfodd a ymddifwynase yn amser helbul pan dybiodd nad ydoedd help iddo, na bod yn rhydd mwyach fyned i’r allor sanctaidd. )
4A ddaeth at Demetrius yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc a deugain a chant gan roddi iddo goron o aur, a blodeun, a hefyd y ceingeiau y rhai oeddynt yn perthyn i’r deml, a’r dydd hwnnw efe fu lonydd.
5Ond pan gafodd efe amser cyfleus iw gynddaredd, Demetrius a ddanfonodd am dano ef i’r cyngor, ac a ofynnodd iddo mewn pa gyflwr, a pha gyngor yr oedd yr Iddewon yn sefyll, yntef a attebodd i hyn.
6Y rhai o’r Iddewon a elwir Aschidiaid, ar ba rai y mae Iudas Machabeus yn gapten, sydd yn magu rhyfel, ac ymryson, ac ni ddio­ddefant i’r deyrnas fôd yn heddychol.
7O herwydd hynny myfi wedi fy espeilio am anrhydedd fy henafiaid, sef yr offeiriadaeth, yr awron a ddoethym ymma.
8Yn gyntaf, o blegit fod gennif feddwl ffyddlon, at y pethau perthynasol i’r brenin, yn ail o blegit fy môd yn ymroddi i geisio budd i’m dinaswŷr, o blegit y mae anrheswm y rhai y dywedwyd a’m danynt yn blino nid ychydig ar ein holl genedl ni.
9Tithe hefyd ô frenin gan dy fod yn gŵybod yr hôll bethau hyn, cymmorth ein cenhedlaeth, an gwlâd yr hon sydd mewn ing, ar fâth fwynder ag wyt ti yn ei ddangos i bawb.
10O blegit tra fyddo Iudas nid yw bossibl i’r matterion hyn gael heddwch.
11Wedi iddo ddywedyd hyn cyfeillon er­aill y rhai oeddynt mewn gelyniaeth ag Iudas a enynnasant Ddemetrius yn fwy.
12Yr hwn a ddanfonodd ar fyrder am Nicanor llywydd yr Elephantiaid, ac wedi ei wneuthur yn gapten ar Iudea efe ai gyrrodd [allan,]
13Gan roi iddo llythyrau i ladd Iudas, ac i yrru y rhai oeddynt gyd ag ar wascar, ac i wneuthur Alcimus yn arch-offeiriad y deml fawr.
14Yna [y cenhedlaethau] y rhai a ffosent o Iudea oddi wrth Iudas a ymgasclasant yn dyrfau at Nicanor, gan dybbied fod blinder a chwymp yr Iddewon [eraill] yn llwyddiant iddynt hwy.
15Ond pan glybu yr Iddewon ddyfod Nicanor, ac ymgasclu o’r cenhedloedd, hwy gan danu pridd arnynt, a weddiasant ar yr hwn a osododd ei bôbl tros byth, a thrwy amlwg ar­wydd a amddeffynnodd ei rann ei hun bôb amser.
16Yn ôl hyn wrth orchymyn y capten yn y fan y llu a symudodd oddi yno, ac a gyfarfu wrth gastell Dessa y, ac a darawodd yng-hyd â hwynt.
17Simon hefyd brawd Iudas a gyfarfu â Nicanor, ond fe a synnodd arno ef wrth ddisym­mwth ddyfodiad y gelynion.
18Er hynny pan glybu Nicanor ddewrder Iudas, ai lwyddiant wrth ymdrechu yng-hweryl ei wlâd, efe a ofnodd ddibennu y matter wrth ryfel.
19Am hynny efe a ddāfonodd Posidonius, a Theodotus a Mathias i wneuthur tangneddyf.
20Ac wedi cymmeryd o honynt hîr gyngor am y pethau hynny, ac i’r capten ddangos i’r [holl] dyrfa gan weled y farn yn gyson, hwy a gytunasant i’r ammodau.
21Ac hwy a luniasant ddiwrnod yn yr hwn yr oedd yn eu bryd hwy ddyfod yng-hyd yn gyfrinachol, a chadeiriau ydoedd wedi eu gosod i i bôb vn pan ddelent.
22Ac Iudas a osododd wŷr arfog wedi eu paratoi mewn lleoedd cyfleus rhag i’r gelynion gyfodi cynddrygedd yn y byd yn ddisymmwth, ac felly yr oeddynt yn cyd-ymresymmu yn eu plith eu hunain.
23Yna y trigodd Nicanor yn Ierusalem, ac heb wneuthur niwed efe a ollyngodd ymmaith y torfeudd a gasclase efe o’r blaen.
24Ac Iudas oedd bob amser yn ei olwg ef, yn gymmaint ag iddo ymddyried yn y gŵr hwn ai hôll galon.
25Ac efe yn deisyf arno briodi, ac ennill plant, efe a briododd, ac hwy a fuant fyw yn gytun yng-hyd.
26Alcimus pan ganfu efe ewyllys da ’r naill at y llall, a’r ammodau a wnaethid, a gymmerth gyfeillion, ac a ddaeth at Demetrius, ac a ddywedodd fod Nicanor yn ymyrryd mewn matterion dieithr: canys Iudas [heb efe] yr hwn oedd yn cynllwyn am ei frenhiniaeth ef a ordeiniodd efe yn successor.
27Y brenin am hynny a ddigiodd, ac a lidiodd wrth feiau y gŵr anrasol hwnnw, ac efe a scrifēnodd at Nicanor gan ddywedyd ei fod efe yn dra anfodlon i’r ammodau, ac efe a orchymynnodd ddanfon Machabeus ar frys yn garcharor i Antiochia.
28Pan ddaeth hyn at Nicanor fe synnodd arno ef, a chwith fu ganddo, orfod iddo wneuthur yn ofer yr ammodau a fuase rhyngddynt, yn enwedig gan nas gwnaethe ’r gŵr hwnnw niwed.
29Ond o rann nad oedd gymmwys iddo wrthwynebu ’r brenin, efe a wiliodd amser cyfleus i ddwyn hyn i ben drwy gyfrwysdra.
30Ond Iudas gan ŵybod fod Nicanor yn afrywiogach wrtho, a’r gyfeilach arferol yn ddrengach, efe a ddeallodd na ddaeth yr afrywi­ogrwydd hwnnw o’r meddwl goref, am hynny efe a gasclodd lawer o’r rhai oeddynt yn ei gylch ef, ac a ymnaillduodd oddi wrth Nicanor.
31Y llall hefyd gan ŵybod iddo gael ei dwyllo gan y gŵr (yn ddichellgar) a ddaeth i’r deml fawr sanctaidd, (pan oedd yr offeiriad yn offrymmu yr ebyrth cyfaddas) ac a orchymynnodd roddi y gŵr iddo ef.
32Ond pan dyngasant na ŵyddent pa le yr oedd y gŵr yr oedd efe yn ei geisio, efe a estynnodd ei ddeheulaw tu a’r deml, ac a dyngodd fel hyn,
33Oni roddwch Iudas i mi yn rhwym, mi a wnaf deml Dduw yn faes gwastad, ac a ddisylfaenaf yr allor, ac a adeiladaf ymma deml o­didog i Bacchus.
34Ac yn ôl y geiriau hyn efe a aeth ymmaith, yna ’r offeiriaid a godasant eu ddwylo tu a’r nefoedd, ac a ddeisyfiasant ar yr hwn a fuase er ioed yn amddeffynnwr iw cenhedlaeth: gan ddywedyd fel hyn,
35Ti Arglwydd pôb peth yr hwn wyt heb arnat eisieu dim: gwelaist yn dda fôd Teml dy breswylfa yn ein plith ni.
36Herwydd hynny yn awr ti Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw byth y tŷ ymma yn ddihalog, yr hwn yn ddiweddar a lanhauwyd.
37Yna vn Razis (o’r henafiaid y rhai oeddynt yn Ierusalē gŵr yn caru y ddinas, ac yn heuddu clod, ac am hynny o blegit ei ewyllys da, efe a elwid yn dâd i’r Iddewon) a ddygwyd at Nicanor.
38Canys y gŵr hwn amseroedd eraill o’r blaen, pan ydoedd yr Iddewon ai bryd ar eu cadw eu hun yn ddihalog, ac yn bur, a gynnigiodd dreulio ei gorph ai enioes yn ddianwadal er mwyn crefydd yr Iddewon.
39Am hynny Nicanor gan ewyllysio testio­laethu yn eglur ei genfigen yn erbyn yr Idde­won, a ddanfonodd chwaneg na phum-cant o ryfel-wŷr iw ddal ef.
40Canys efe a dybbiodd wedi ei ddal ef, y galle efe ddwyn dinistr ar yr Iddewon.
41Ond y dorf ai bryd ar ennill y castell, a gurasant i lawr y porth, ac a barasant gyrchu tân a llosci ’r pyrth: ac o’r diwedd pan oddynt agos ai ddal, efe a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun.
42Gan fod yn well ganddo farw yn ŵrol, nai ddarollwng tann y rhai sceler hynny, a goddef traha anweddaidd iw fonedd ef.
43A phan fethodd ganddo ef gael ei ddyrnod yn iniawn, a rhuthro o’r lliaws o’r tu mewn i’r pyrth: efe a redodd yn hyf i’r gaer, ac ai bwriodd ei hun yn wrol bendro-mwnwgl ym mysc y dorf.
44A phan giliasant hwy yn fuan, ac ym­rannu, efe a ddaeth yn eu mysc hwynt ar ei fol.
45Ac efe etto yn fyw yn llosci o lid, efe a gododd fynu, er bôd ei waed yn rhedeg fel ffry­dau, ai weliau yn ofidus, etto [er hynny] efe a rêdodd drwy ganol y bôbl.
46Ac efe a aeth ac a safodd ym mhen craig vchel, wedi colli ei waed oll, ac a dynnodd allan ei berfedd, ac ai cymmerth hwy yn ei ddwylo, ac ai taflodd ar y dyrfa: a chan alw ar Arglwydd y bywyd, a’r yspryd, ar iddo eu rhoddi hwynt iddo truchefn, efe a fu farw fel hyn.

Currently Selected:

2.Machabæaid 14: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in