YouVersion Logo
Search Icon

2.Machabæaid 13

13
PEN. XIII.
1 Eupator yn dyfod i Iudæa. 4 Marwolaeth Menelaus, 10 Machabæus yn myned i ymladd yn erbyn Eupator, ac yn peri iw ryfelwyr weddio. 15 Ac yn lladd pedair mil ar ddêc yng-werssyll Antiochus. 21 Daliad Rhodocus bradychwr yr lddewon.
1YN y nawed flwyddyn a deugain a chant y daeth y gair at Iudas fod Antiochus Eu­pator yn dyfod a lluosogrwydd i Iudaea.
2A chyd ag ef Lysias gorchwylwr a llywydd ei holl fatterion, a chan bod vn yn ei lu o’r Groegwŷr, gant a dengmîl o wŷr traed, a phum mîl o wŷr meirch, a dau Elephant a’r hugain, a thry-chant o gerbydau bachog.
3At y rhai yr ymgysylltodd Menelaus hefyd a thrwy fawr watwar y cynghorodd efe Antiochus nid gan feddwl am fudd i’r wlâd, ond ar fedr cael bôd ei hun yn bennadur.
4Ond brenin y brenhinoedd a gyffroes galon Antiochus yn erbyn y [gŵr] sceler [hwnnw,] a phan ddangosodd Lysias i’r brenin mai hwn oedd achos yr holl ddrygioni, efe a orchymynnodd iw ryfelwŷr (fel yr oedd yr arfer ei ddwyn) ef i Berea ac yno ei ddifetha ef.
5Y mae hefyd yn y lle hwnnw dŵr o ddêc cufydd a deugain o vchder yn llawn o ludw yn yr hwn yr oedd rhyw offeryn yn troi yn grwn, ac o bôb tu yn llithro i lawr ar y lludw.
6Yna y gyrre pawb i farwolaeth y nêb a fernid yn euog o gyssegr-ladrad, a’r nêb a fydde yn rhanog mewn gweithredoedd drwg eraill.
7O’r farwolaeth ymma y darfu i’r gŵr annuwiol hwnnw Menelaus farw, ac heb gael daiar iw gorph:
8Tra chyfiawn [oedd:] canys yn gymmeint ac iddo ef wneuthur llawer o bechodau yng-hylch yr allor yr hon oedd ai lludw yn sanctaidd [yntef] a ddioddefodd farwolaeth mewn lludw.
9Ond y brenin yn gyffrous yn ei feddwl a ddefeisiodd ryw ddiaiedd yn erbyn yr Iddewon yr hwn ni’s gwnaethid yr ioed yn amser ei dâd.
10Ond pā ŵybu Iudas hynny, efe a orchy­mynnodd i’r gynnulleidfa megis y galwent ar yr Arglwydd ddydd a nôs os helpiase ef hwynt er ioed ar iddo yn awr helpio y rhai oedd yn debyg i golli eu cyfraith, eu gwlad ai Teml sanctaidd.
11Ac na adawe efe ddarostwng tan genhedlaeth ddirmygus y bobl y rhai a gawsent ychydig lonyddwch.
12Ac wedi i bawb o honynt gyd wneuthur yr vn peth a deisyf ar yr Arglwydd trugawg drwy wylofain, ac vmpryd dan ymostwng dri diwrnod yn ddiorphywys, Iuda a gynghorodd iddynt ddyfod [atto ef.]
13Ac efe fel yr oedd efe gyd a’r henafiaid o’r nailldu, cyn i lu y brenin ruthro i Iudaea, a chael meddiannu y ddinas efe a ymgynghorodd am fyned o honynt hwy allan a phrofi y materion trwy help yr Arglwydd.
14Felly gan fwrw ei ofal ar greawdur y byd efe a gynghorodd i’r nêb oedd gyd ag ef ymladd yn rymmus hyd farwolaeth yng-hweryl cyfreithiau eu Teml eu gwlâd ai pôbl gyffredin, ac a wnaeth werssyllfa o amgylch Modin.
15Yna wedi rhoddi iw ryfel-wŷr yn arwydd o oruchafiaeth Duw gyd â’r gwŷr ieuaingc gwrôlaf, efe a symmudodd y gwerssyll liw nôs at neuadd y brenin, ac a laddodd yng-hylch dwy fîl o wŷr, a’r pennaf oll o’r Elephantiaid, a’r dyrfa yr hon oedd yn tŷ a laddodd efe gyd â hwynt.
16Yna pan lanwasant hwy yr hôll lu ag ofn, ac arswyd, hwy a ymadawsant yn llwyddiannus.
17Hyn a wnaethpwyd yn y boreuddydd am fod amddeffyn yr Arglwydd, yn ei gynnorthwyo ef.
18Y brenin hefyd pan gafodd efe braw o hyfder yr Iddewon a brofodd gael lleoedd trwy gyfrwysdra.
19A phan ddaeth efe i Gethsura amdde­ffynfa gadarn yr Iddewon, efe a yrrwyd i ffoi, ac a dramgwyddodd, ac a wanhawyd.
20Iudas hefyd a ddanfonodd i’r rhai oeddynt yn y dref y pethau oeddynt anghenreidiol iddynt.
21Ond Rhodocus, o lu yr Iddewon a gyhuddodd y gyfrinach i’r gelynion, ac wedi holi y matter hwy ai daliasant, ac ai caeasant mewn carchar.
22Yna yr brenin a ymddiddanodd yr ail waith â’r Bethsuriaid, ac a roes, ac a gymmerth ddeheulaw, a aeth ymmaith, ac a gyfarfu â llu Iudas, ac a orchfygwyd.
23Pan ŵybu efe wrthryfela o Philip, (yr hwn a adawsid yn Antiochia i fod yn olygwr ar ei fatterion) efe a ddychrynnodd, a ymnheddodd a’r Iddewon, a ymostyngodd ac a dyngodd [iddynt] ym mhôb cyfraith gyfiawn, ac wedi tangnheddefu efe offrymmodd, ac a anrhydeddodd y deml, ac fu gymmwynascar i’r lle.
24Efe a gofleidiodd Machabeus, ac ai ga­dawodd ef yn gapten pennaf o Ptolemais hyd y Gerrenaid.
25Yna pan ddaeth efe i Ptolemais pan oedd anfodlon gan bôbl Ptolemais yr ammodau hynny (o blegit digllon oeddynt o blegit i’r Iddewon fod yn chwennychu torri yr ammodau)
26Lysias a ddaeth i’r orseddfa, ac a amddeffynnodd y weithred yn drefnus, efe a ennillodd [y bôbl] ai llonyddodd, ac ai gwnaeth hwynt yn ewyllyscar, yna y troes efe i Antiochia, ac fal hyn y damweiniodd taith y brenin ai ddychweliad.

Currently Selected:

2.Machabæaid 13: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in