YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 9

9
PEN. IX.
1 Wedi marwolaeth Nicanor Demetrius yn danfon ei lu yn erbyn Iudas, 18 lladd Iudas, 34 dewis Ionathas yn lle ei frawd, 47 ymladd rhwng Ionathas a Bacchides, 55 Alcimus yn syrthio yn y paralys mud, ac yn marw, Bacchides yn dychwelyd at y brenin, 68 ac yn dyfod trachefn yn erbyn Ionathas trwy gynghor rhai drygionus, ac yn colli ’r maes, 70 heddwch rhwng Ionathas a Bacchides.
1A Phan glybu Demetrius orphen o Nicanor ai lu y rhyfel, efe a aeth rhagddo, ac a ddanfonodd Bacchides, ac Alcimus trachefn i Iuda, a chadernid ei lu gyd ag ef.
2Ac hwy a aethant allan rhyd y ffordd sydd yn myned tua Galgala, ac a werssyllasant o flaen Masaloth, yr hon sy yn Arbelis, ac a ennillasant y ddinas, ac a laddasant lawer o bobl.
3Y mîs cyntaf o’r ddeuddecfed flwyddyn a deugain a chant, hwy a werssyllasant, ac a am­gylchynasant Ierusalem.
4Ond gan gyfodi y gwerssyll i fynu hwy a ddaethant i Berea, ag vgain-mil o wŷr traed a dwy-fil o wŷr meirch.
5Iudas yntef a werssyllase yn Eleasa, a thair mil o wŷr detholedig.
6A phan welsant hwy luosogrwydd y llu arall, ei fod efe cymmaint, hwy a ofnasant yn ddir­fawr, a llawer a dynnasant allan o’r gwerssyll, ac nid arhôdd yno ond wyth-cant o wŷr.
7Pan welodd Iudas fod ei lu ef wedi cilio yna y bu flin ganddo y rhyfel, ac efe a dorrodd ei galon o eisieu caffael amser iw casclu hwy yng-hyd ac a lwfrhaodd.
8Etto efe a ddywedodd wrth y rhai a dri­gasent gyd ag ef, cyfodwn ac awn yn erbyn ein gelynion, nid hwyrach i ni allu ymladd â hwynt.
9Ond hwy a fynnasent ei attal ef gan ddywedyd, ni allwn ni, am hynny achubwn ein henioes, dychwel yn awr, canys ein brodyr a giliasant: a ymladdwn ni yn eu herbyn hwy, a ninnau cyn anamled:
10Yna Iudas a ddywedodd, na adawo Duw i ni ffoi oddi wrthynt hwy: am hynny os ein hamser ni a ddaeth, gedwch i ni farw fel gwŷr tros ein brodyr, ac na adawn fai yn y byd ar ein anrhydedd.
11A’r llu a aeth allan o’r gwerssyll, ac a safodd yn eu herbyn hwy, a’r gwŷr meirch a gyfranned yn ddwy ran: y tallyddion a’r saethyddiō a gerddasant o flaen y llu, a’r gwŷr cedyrn oll oeddynt yn blaenori y llu.
12A Bacchides ei hun oedd yn yr adain ddehau i’r rhyfel, a’r fyddin a nessaodd yn ddwy blaid, ac a ganasant yr vdcyrn.
13Gwŷr Iudas a ganasant yr vdcyrn hefyd, a’r ddaiar a gynhyrfodd wrth dwrf y lluoedd: ac hwy a darawsant yng-hyd o’r boreu hyd y nôs.
14A phan welodd Iudas fod llu Bacchides yn gryfach yn y tu dehau, efe a gymmerodd yr holl wŷr calonnog gyd ag ef,
15Ac a ddrylliodd adain ddehau eu byddin hwy, ac ai herlidiodd hwy hyd fynydd Azot.
16Pan welodd y rhai oeddynt yn yr adain asswy yr adain ddehau wedi ei dryllio, hwy a ga­lynasant Iudas aei wŷr wrth eu sodlau.
17Ac yna yr oedd y rhyfel yn frwd, o blegit llawer a lladdwyd, ac a archollwyd o’r ddwy blaid.
18Iudas hefyd ei hun a laddwyd, a’r llaill a ffoâsant.
19Ac Ionathas a Simon a gymmerasant Iudas eu brawd, ac ai claddasant ef ym medd ei dad yn ninas Modin.
20A holl bobl Israel a wnaethant farw-nad mawr am dano ef, ac a alarasant yn hir gan ddywedyd,
21Pa fodd y lladdwyd y gŵr galluoc a achubodd yr Israeliaid:
22Ond ni scrifennwyd y pethau eraill y rhai oeddynt yn perthynu i ryfeloedd Iudas, ai weithredoedd ardderchog ef, ai fawredd ef, canys llawer oeddynt hwy.
23Wedi marwolaeth Iudas dynion drygionus a gyfodasant o fewn holl derfynau Israel, a phawb a’r oeddynt yn gwneuthur anhei­lyngdod.
24Yr oedd drudaniaeth mawr yn y wlad y dyddiau hynny, a’r holl wlad a ymadawodd â hwynt.
25A Bacchides a ddewisodd wŷr annuwiol, ac ai gwnaeth hwy yn arglwyddi ar y wlad.
26Y rhai hynny a geisiasant, ac a chwiliasant am garedigion Iudas, ac ai dygasant hwy at Bacchides, ac efe a ddialodd arnynt hwy, ac ai gwatworodd hwy yn ddirfawr.
27A chystudd mawr a ddigwyddodd ar yr Israeliaid, ac ni buase y fath er pan na welsid prophwyd yn eu plith hwy.
28A holl garedigion Iudas a ymgasclasant, ac a ddywedasant wrth Ionathas,
29Yn gymmaint a marw dy frawd Iudas, ac nad oes neb tebyg iddo ef i fyned allan yn erbyn ein gelynnion, yn erbyn Bacchides, ac yn erbyn casedigion ein cenedl ni,
30Am hynny yr ydym ni yn dy ddewis di heddyw yn ei le ef, i fod yn dywysog, ac yn gap­ten i ni, i ymladd allan ein rhyfel ni.
31Ac Ionathas a gymmerodd y dywyso­gaeth arno yr amser hwnnw, ac a lywodraethodd yn lle Iudas ei frawd.
32Pan ŵybu Bacchides hynny, efe a geisiodd ei ladd ef.
33Ond pan ŵybu Ionathas a Simon ei frawd hynny, hwy a ffoâsant i anialwch Thecoe a phawb a’r oedd gyd â hwy, ac a werssyllasant wrth ddwfr llyn Asphar.
34Pan ddeallodd Bacchides hynny, efe a ddaeth aei holl lu tros yr Iorddonen ar y dydd Sabboth.
35Ac [Ionathas] a ddanfonase ei frawd [Ioan] capten y bobl, i ddymuno ar ei garedigion y Nabuthaiaid, gaffael o honynt hwy adel eu hoffer gyd â hwy iw cadw, o blegit yr oedd llawer ganddynt hwy.
36Ond plant Iambri a ddaethant allan o Medaba, ac a ddaliasant Ioan, a’r holl bethau o­eddynt ganddo ef, ac a aethant ymmaith â hwynt wedi eu cael.
37Yna gair a ddaeth at Ionathas a Simon ei frawd, fod plant Iamri yn gwneuthur neithior fawr, ac yn dwyn y ferch o Medaba a mawredd mawr, o blegit merch oedd hi i vn o bennaethiaid mawrion Canaan.
38Yna hwy a gofiasant Ioan eu brawd, ac a aethant i fynu, ac a ymguddiasant yng-hyscod y mynydd.
39Ac hwy a godasant eu golwg i fynu, ac a edrychasant, ac wele, yr oedd cynnulleidfa a pharodrwydd mawr: canys y priodas-fab a ddaethe allan ai garedigion, ac ai frodyr iw cyfar­fod hwy, â thympânau ag offer cerdd, ac ag arfau lawer.
40Yna Ionathas a’r rhai oeddynt gyd ag ef a godasant i fynu allan oi llochesau yn eu herbyn hwy, ac a lladdasant lawer o honynt hwy, ai’r lleill a ffoâsant i’r mynyddoedd, ac hwy a gymmerasat eu holl yspail hwy.
41Felly ’r briodas a droed i alar, a llais eu cerdd hwy i farw-nad.
42Ac felly wedi iddynt hwy ddial gwaed eu brawd, hwy a ddychwelasant i oror yr Iorddonen.
43Pan glybu Bacchides hynny, efe a ddaeth i lan yr Iorddonen â llu mawr ar y dydd Sabboth.
44Ac Ionathas a ddywedodd wrth y rhai oeddynt gyd ag ef, cyfodwn heddyw i fynu, ac ymladdwn am ein heneidiau, canys nid ydym heddyw yn sefyll yn yr vn cyflwr ac yr oeddem ni er ys dyddiau.
45Wele y mae ’r rhyfel ar ein cyfer ni, ac ar ein hôl, a dwfr yr Iorddonen o’r naill du, a fuglennydd a choedydd o’r tu arall, ac nid oes i ni le i gilio.
46Am hynny gwaeddwch yr awran tu a’r nef, fel yr achuber chwi o law eich gelynion: ac felly hwy a darawsant yng-hyd.
47Ac Ionathas a estynnodd allan ei law i daro Bacchides, ond efe a ffôdd yn ei wrthgefn.
48Yna Ionathas a’r rhai oeddynt gyd ag ef a neidiasant i’r Iorddonen, ac a nofiasant trosodd i’r lann draw: ond nid aei ’r lleill tros yr Iorddonen ar eu hôl hwy.
49Ac yng-hylch mil o wŷr Bacchides a laddwyd y diwrnod hwnnw.
50Am hynny Bacchides ai lu a ddychwelodd i Ierusalem, ac a adeiladodd i fynu y cestill a’r noddfeudd cedyrn oedd yn Iuda, Iericho, Bethel, Thannasa, Pharathoni, a Thepo, â chaerau vchel, â phyrth, ac â barrau.
51Ac hwy a osodasant wŷr ynddynt hwy iw cadw hwy, ac i wneuthur gelyniaeth ag Israel.
52Efe a adailadodd gaerau yng-hylch y ddinas Bethsura, Gazara, a’r castell, ac a osododd wŷr a bwyd ynddynt hwy.
53Efe a gymmerodd hefyd feibion pennaethiaid y wlad yn ŵystlon, ac ai gosododd hwy yn y castell yn Ierusalem iw cadw.
54Wedi hynny yn y drydedd flwyddyn ar ddêc a deugein achant, yr ail mîs, Alcimus a orchymynnodd iddynt hwy ddestruwio caerau cyntedd y cyssegr oddi mewn, ac efe a dynnodd i lawr, ac a ddechreuodd ddestruwio gwaith y prophwydi.
55Ond [Duw] a blagiodd Alcimus yr amser hwnnw, ac oi tarawodd ef a’r paralys, ai orchwyl ef a rwystred, ai enau ef a gaewyd, fel na’s galle efe ymddiddan mwy, na gorchymyn neb yng-hylch ei dŷ.
56Ac Alcimus a fu farw yr amser hwnnw mewn trueni mawr.
57Pan welodd Bacchides farw Alcimus efe a ddychwelodd at y brenin, a gwlâd Iuda a gafodd lonyddwch ddwy flynedd.
58Yna ’r holl wŷr annuwiol a ymgynghorâsant gan ddywedyd, wele y mae Ionathas ai wŷr mewn esmwythdra, ac yn trigo mewn diofalwch, am hynny dygwn Bacchides ymma yn awr, ac efe ai deil hwy oll mewn vn noswaith.
59Ac felly hwy a aethant at a ymgynghorâsant ag ef.
60Ac efe a gododd i ddyfod â llu mawr, ac a ddanfonodd lythyrau yn ddirgel at ei holl gyfeillion y rhai oeddynt yn Iuda, i ddal Ionathas a’r rhai oeddynt gyd ag ef: ond ni allent hwy, oblegit y lleill a wybuant eu bwriad hwy.
61Ac Ionathas a ddaliodd ddêc a deugain o wŷr y wlad, y rhai oeddynt flaenorwŷr iddynt hwy, ac ai lladdodd hwy.
62Yna Ionathas a Simon a’r rhai oeddynt gyd â hwy a aethāt ymmaith i ddinas Beth­basi, yr hon sydd yn yr anialwch, ac a adnewyddasant yr hyn a syrthiase o honi hi, ac ai ca­darnhaodd hi.
63Pan ŵybu Bacchides hyn, efe a gasclodd ei holl lu, ac a ddanfonodd air i’r rhai oeddynt yn Iudaea.
64Yna efe a ddaeth ac a werssyllodd yn er­vyn Bethbasi, ac a ymladdodd yn ei herbyn hi lawer o ddyddiau, ac a wnaeth offer rhyfel.
65Ac Ionathas a adawodd ei frawd Sunō yn y ddinas, ac a aeth allan i’r wlâd, ac a ddaeth â rhyfedi [o wŷr.]
66Ac a laddodd Odomiras ai frodyr, a meibion Phasiron yn eu lluest, ac felly efe a ddechreuodd gryfhau a chynnyddu mewn ga­llu.
67Simon yntef a’r rhai oeddynt gyd ag ef a aethant allan o’r ddinas, ac a loscasant yr offer rhyfel,
68Ac a ymladdasant yn erbyn Bacchides, ac ai gorchfygasant ef, ac ai cystuddiasant ef yn ddirfawr, am fod ei fwriad ai ymdaith ef yn ofer.
69Am hynny efe a fu lidiog wrth y gwŷr annuwiol ai cynghorasent ef i ddyfod iw gwlâd, ac a laddodd lawer o honynt hwy, yna efe a am­canodd fyned ymmaith iw wlad ei hun.
70Pan ŵybu Ionathas hynny, efe a ddanfonodd genadon atto ef, i wneuthur heddwch rhyngddo ag ef, ac i roddi iddynt hwy y carcharorion.
71A Bacchides a gydtunodd i hynny, ac a wnaeth fel yr oedd ei ddymuniad ef, ac a dyngodd hefyd na wnai efe niwed fyth iddo ef holl ddyddiau ei enioes.
72Ac a adferodd iddo ef yr holl garcharo­rion a ddaliase efe o wlad Iuda, ac yna efe a ddychwelodd ac a aeth ymmaith iw wlad ei hun, ac ni ddaeth efe mwy iw terfynau hwynt.
73Ac felly pan dynned y rhyfel allan o Israel Ionathas a drigodd ym-Machmas, a phan ddechreuodd Ionathas farnu ’r bobl, efe a ddiwreiddiodd y rhai annuwiol allan o Israel.

Currently Selected:

1.Machabæaid 9: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in