YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 8

8
PEN. VIII.
2 Iudas gan ystyrio gallu a godidogrwydd llywodraeth y Rhufein-wyr, sydd yn gwneuthur heddwch â hwy, 22 Llythyr y Rhufeinwyr yr hwn a ddanfoned at yr Iddewon.
1Ivdas hefyd a glybu sôn am y Rhufein-wŷr eu bod hwy yn alluoc, ac yn wŷr cedyrn, ac yn fodlon i bob peth a osodid attynt hwy, ac yn gwneuthur heddwch â phawb a’r oeddynt yn cyrchu attynt hwy, ai bod hwy yn nerthol o gryfder,
2Heb law hyn, eu rhyfeloedd hwy ar gwrolaeth a wnaethent hwy yn Galatia, a fynegwyd iddynt hwy, ac fel y gorchfygasent hwy y Galatiaid, ac y dygasent hwy hwynt tann deyrn-ged,
3A phara bethau a wnaethent hwy yng­wlad Hyspaen, ac fel yr ennillasent hwy y mwyn-gloddiau arian ac aur y rhai oeddynt yno trwy eu doethineb ai barafaidd ymwreddiad,
4Ac fel yr ennillasent bob lle trwy eu doethineb ai dioddefgarwch, er pelled fydde y lle oddi wrthynt hwy, fel y gorchfygasent, ac y lladdasent hwy y brenhinoedd a ddaethent yn eu herbyn hwy o eithaf y ddaiar, ac fel yr oedd pobl eraill yn talu teyrn-ged iddynt hwy bob blwyddyn,
5Ac fel y lladdasent, ac y gorchfygasent hwy Philip, a Pherseus brenin y Macedoniaid, ac eraill mewn rhyfel, y rhai a ymgodasent yn eu herbyn hwy,
6Fel y gorchfygasent hwy Antiochus fawr brenin Asia, yr hwn a fynn? ymladd ag hwynt, ac yr oedd ganddo ef chweigain o Elephantiaid, a gwŷr meirch a cherbydau, a llu mawr iawn,
7Ac fel y daliasent hwy ef yn fyw, ac yr ordeiniesent hwy iddo ef, ac i’r rhai a deyrnase ar ei ôl ef, dalu teirn-ged fawr iddynt hwy, a rhoddi meichiau a gwystlon iddynt hwy hefyd,
8Fel y dygasent hwy oddi arno ef wlad Iadia a Media a Lydia, ei wledydd goref ef, ac y rhoddasent hwy y rheini i’r brenin Eumenes.
9Hefyd, pan ŵybuont hwy fod y Groec­wŷr yn dyfod iw blino hwy,
10Y danfonasant hwy gapten â llu yn eu herbyn hwy, ac a ryfelasant â hwy, a lladdasant lawer o honynt hwy, a chaethgludasant eu gwragedd hwy ai plant, ac yspeliasant hwy, ac a gymmerasant feddiant yn eu tîr hwy, ac a ddestruwiasant eu dinasoedd cedyrn hwy, ac ai darostyngasant hwy i fod yn gaeth-wŷr iddynt hyd y dydd heddyw:
11Ac fel y darfase iddynt hwy ddestruwio a caethiwo tyrnasoedd, ac ynysoedd eraill, y rhai a fuase gynt yn eu gwrthwynebu hwy,
12Ac fel yr oeddynt hwy yn cadw cydymdeithas ai cydymdeithion, ac â’r rhai oeddynt wedi gwneuthur ammodau â hwynt, ac fel yr ennillasent hwy deyrnasoedd ym mhell, ac yn a­gos, a bod pawb yn eu hofni hwy a’r a glywse son am danynt hwy.
13O blegit pwy bynnac a chwennychent hwy eu cymhorth i deyrnasu, y rhai hynny oeddynt yn teyrnasu, ac i bwy bynnac ni chwennychent hwy deyrnasu, y rhai hynny a ddiswyddasid, ac fel yr oeddynt hwy wedi dyfod i oruchafi­aeth.
14Ac nad oedd ganddynt hwy vn brenin yn eu plith er hynny, na neb yn gwisco porphor iw fawrygu felly,
15Ond gwneuthur o honynt hwy gynghor iddynt eu hunain, lle yr oedd trychant, ac vgain yn eistedd beunydd i ymgynghori, ac i ddiweddu matterion y bobl, ac iw cadw mewn trefn dda,
16Ac fel yr oeddynt hwy yn ymddyried i vn gŵr bob blwyddyn i gymmeryd llywodraeth oi holl dir hwy, i’r hwn yr oedd pawb yn vfydd, ac felly nid oedd na chenfigen nac ammeu yn eu plith hwy.
17Yna Iudas a ddewisodd Eupolemus fab Ioan, fab Accos, ac Iason fab Eleazar, ac ai danfonodd hwy i Rufain i wneuthur caredigr­wydd a chydymdeithas â hwynt.
18Fel y gallent hwy dynnu iau [y Groeg­wŷr] oddi arnynt hwy: o blegit yr Iddewon a welsant fod y Groeg-wŷr yn chwennychu da­rostwng teyrnas Israel.
19Ac hwy a aethant i Rufain, ac yr oedd y ffordd yn bell iawn, ac aethant i mewn i dŷ ’r cyngor, ac a ddywedasant,
20Iudas Machabaeus ai frodyr a phobl yr Iddewon a’n danfonodd ni attoch chwi, i ym­rwymmo mewn ammodau o gydymdeithas a heddwch a chwychwi, ac i chwithau ein scrifēnu ninnau yn gydymdeithion, ac yn garedigion i chwithau.
21Ac yr oedd y chwedl ymma yn rhyngu bodd iddynt yn dda iawn.
22Ac dymma goppi o’r scrifen a orgraphodd [y cyngor] mewn llechau prês, ac ai dan­fonasant hwy i Ierusalem, fel y bydde coffadwriaeth gyd â hwy o’r heddwch, ac o’r gydymdeithas honno.
23Duw a gadwo y Rhufein-wŷr a phobl yr Iddewon ar fôr, ac ar dîr, a phell fyddo ’r cleddyf a’r gelyn oddi wrthynt hwy yn dragywydd
24Os daw rhyfel yn gyntaf yn erbyn y Rhufein-wŷr nac yn erbyn neb oi cydymdeithion hwy, trwy eu holl arglwyddiaeth hwy,
25Pobl yr Iddewon ai cymhorthant hwy, fel y gofynno ’r amser ag ewyllys da,
26Ac ni roddant, ac ni ddanfonant iw gelynnion hwy na bwyd, nac arfau, nac arian, na llongau: ond hwy a gadwant eu hammodau, fel y rhyngo bodd i’r Rhufein-wŷr, heb geisio dim ganddynt hwy am hynny.
27Trachefn os digwydd i bobl yr Iddewon yn gyntaf gaffael rhyfel, y Rhufein-wŷr a ymladdant gyd â hwy o ewyllys da, fel y dioddefo yr amser.
28Ac ni roddant hwy i elynnion yr Iddewon na bwyd nac arfau, nac arian na llongau fel hyn y mae ’r Rhufein-wŷr yn fodlon i wneuthur, ac i gadw ’r ammodau hyn yn ddidwyll.
29Yn ôl y geiriau hyn y gwnaeth y Rhufein-wŷr yr ammod â’r Iddewon.
30Ac os ewyllysia yr vn o’r ddwy blaid o hyn allan osod at, neu dynu oddi wrth y geiriau hyn, gwnant o gyttundeb, a pha beth bynnac a osodant hwy attynt hwy, neu a dynnant hwy oddi wrthynt hwy, hynny a saif.
31Ac am y drwg a wnaeth Demetrius i’r Iddewon, ni a scrifennasom atto ef gan ddywedyd, pa ham y gosodaist ti dy iau trwm ar cin caredigion ni a’n cydymdeithion yr Iddewon?
32Os achŵynant hwy rhagot ti wrthym ni trachefn, nyni a wnawn gyfiawnder, ac a ymladdwn â thi ar fôr a thir.

Currently Selected:

1.Machabæaid 8: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in