YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 5

5
PEN. V.
3 Iudas yn gorchfygu y cenhedloedd y rhai oeddynt yn amcanu destruwio Israel, ac yn cael cymhorth gan ei frodyr Simon ac Ionathas. 50 Efe yn destruwio dinas Ephron am ei naccau o gennad i drammwy trwyddi hi.
1Digwyddodd hefyd pan glybu yr cenhedloedd oddi amgylch adeiladu yr allor a chysse­gru yr cyssegr, fel yr oeddynt hwy o’r blaen, yna ddigio o honynt yn ddirfawr.
2Am hynny hwy a ymgynghorasant i ddestruwio cenhedl Iacob yr hon oedd yn eu plith hwy, ac a ddechreuasant ladd ac erlid rhai o’r bobl.
3Yna Iudas a ymladdodd yn erbyn plant Esau yn Idumaea yn Arabathane, canys yr oeddynt hwy ’n trigo yn amgylch yr Israeliaid: ac efe a laddodd ac a yspeiliodd dorf fawr o honynt hwy.
4Efe a gofiodd hefyd falis ac anffyddlondeb plant Bean fel yr oeddynt hwy ’n rhwyd, ac yn rhwystr i’r bobl, ac yn eu cynllwyn hwy yn y ffyrdd:
5Am hynny efe ai clôdd hwy i fynu mewn tyrau, ac a ddaeth attynt hwy, ac ai hamgylchodd hwy, ac ai destruwiodd hwy, ac a loscodd eu tyrau hwy a phawb a’r oedd ynddynt hwy.
6Wedi hynny efe a aeth yn erbyn plant Ammon, ac a gafodd lu cadarn, a llawer o bobl gyd â Thimothi eu capten hwynt.
7Ac efe a darawodd ag hwynt mewn llaw­er o ryfeloedd, ac hwy a ddestruwied oi flaen ef.
8Ac wedi iddo ef eu lladd hwy, efe a enillodd ddinas Gazer a’r trefydd yn perthynu iddi hi, ac a ddychwelodd in Iudaea.
9Y cenhedloedd hefyd yn Galaad a ymgasclasant yn erbyn yr Israeliaid, y rhai oeddynt o fewn eu terfynau hwy iw lladd hwy, ond hwy a ffoâsant i gastell Dathema.
10Ac a anfonasant lythŷrau at Iudas ai frodyr gan ddywedyd, y cenhedloedd y rhai sy o’n hamgylch ni a ymgasclasant yn ein herbyn ni i’n destruwio.
11Ac yrywan y maent hwy yn ymbaratoi i ddyfod ac i amgylchu ’r castell lle y ffoasom ni: a Thimothi ydyw capten eu gwerssyll hwy.
12Tyret gan hynny, a gwaret nyni allan oi dwylo hwy, canys llawer o honom ni a laddwyd eusus.
13A’n holl frodyr y rhai oeddynt yn Tubin a laddwyd, ac a ddestruwiwyd yng-hylch mil o wŷr, a’r gelynnion a ddugasant ymmaith yn gaethion eu gwragedd hwy ai plant, ai da.
14Pan oedd y llythyrau hyn etto yn eu darllen, wele ganadon eraill a ddaethant o Galile wedi rhwygo eu dillad y rhai a fynegasant yr vn fath newyddion,
15Ac a ddywedasant ymgasclu o wŷr Ptolemais, a Thyrus a Sidon yn eu herbyn hwy, a llenwi holl Galilee â gelynnion i’n destruwio ni [eb hwynt.]
16Pan glybu Iudas a’r bobl hyn ymma, cynnulleidfa fawr a ymgasclodd i ymgynghori pa beth a wnaent hwy iw brodyr y rhai oeddynt mewn gorthymder, ac wedi eu hamgylchu gan eu gelynnion.
17Ac Iudas a ddywedodd wrth Simon ei frawd, dewis allan wŷr, a dos i achub dy frodyr yn Galilee, ac myfi a’m brawd Ionathas a awn i wlâd Galaad.
18Ac efe a adawodd Iosephus fab Zachari, ac Azarias yn gapteniaid ar y bobl, i gadw gweddill y llu yn Iuda.
19Ac efe a orchymynnodd iddynt hwy gan ddywedyd, llywodraethwch y bobl ymma, a mogelwch osod rhyfel yn erbyn y cenhedloedd hyd oni ddychwelom ni.
20Ac fe a rannwyd teir mîl o wŷr i Simon i fyned i Galilea, ond yr oedd ŵyth-mîl o wŷr gan Iudas yn erbyn gwlâd Galaad.
21Yna Simon a aeth i Galilea, ac a darawodd yng-hyd mewn llawer o ryfyloedd â’r cēhedloedd, ac ai gorchfygodd hwy.
22Ac efe ai canlynodd hwy hyd at byrth Ptolemais, ac yng-hylch teir mîl o wŷr o’r cenhedloedd a laddwyd.
23Ac efe a gymmerodd eu hyspail hwy, ac a ddygodd yr Israeliaid ymmaith y rhai oeddynt yn garcharorion yn Galilea, ac yn Arbatis, ai gwragedd, ai plant, ac ai dygodd hwy i Iudaea â llawenydd mawr.
24Ac Iudas Macchabæus ai frawd Ionathas a aethant tros Iorddonen, ac a aethant daith tridiau yn yr anialwch.
25I le y cyfarfuant hwy â’r Nabathaiaid, ac hwy ai derbyniasant hwy yn heddychol, ac a fynegasant iddynt hwy bob peth a’r a ddigwyddase iw brodyr hwy yng-wlâd Galaad.
26Ac fel yr ymgylchasid llawer o honynt hwy ym Marasa, Bosor, Alimis, Cascor, Maceda Charn aim dinasoedd caerog mawrion y­dyw y rhai hyn oll.
27Ai bod wedi eu dal mewn dinasoedd eraill o Gilead hefyd, ai bod hwy wedi bwriadu dwyn llu o wŷr i’r dinasoedd hyn iw dal hwy, ac i’w destruwio hwy oll yn yr vn dydd.
28Ac ar hyn Iudas ai lu a drôdd ar frys yn yr anialwch tu â Bosor, ac a ennillodd y ddinas, ac a lladdodd yr holl rai gwrywaid â r cleddyf, ac a gymmerodd eu holl yspail hwy, ac a loscodd y ddinas â thân.
29Ac hwy a symmudasant oddi yno liw­nos, ac a ddaethant tua ’r castell.
30A phan oedd hi yn foreu ddydd hwy a godasant eu golwg i fynu, ac wele, lu anifeiriol o bobl yn codi ystolion, ac offer-rhyfel i fynu i ennill y castell, ac i’w destruwio hwy.
31Pan welodd Iudas ddechreu o’r rhyfel, a gwaedd y ddinas yn derchafu tua ’r nef gan vdcyrn, a llef vchel:
32Efe a ddywedodd wrth ei lu, ymleddwch heddyw tros eich brodyr.
33Ar efe a ddaeth o’r tu ôl iw gelynnion hwy mewn tair byddin, ac hwy a ganâsant yr vdcyrn, ac a lefasant [ar Dduw] yn eu gweddi.
34Pan ŵybu gwerssyll Timotheus mai Macchabæus oedd yno, hwy a ffoâsant oddi wr­tho ef, ond efe ai tarawodd hwy â dyrnod mawr, ac yng-hylch wyth-mil o wŷr a ladded o honynt hwy y diwrnod hwnnw.
35Yna Iudas a drodd tua Maspha, ac ai hamgylchodd hi, ac ai hennillodd hi, ac a laddodd bôb gwryw ynddi, ac a gymmerodd ei hyspail hi, ac ai lloscodd hi â thân.
36Efe a aeth oddi yno ac a ennillodd Casbon, Maced, Bosor a’r dinasoedd eraill yn Galaad.
37Wedi hyn Timotheus a gasclodd lu arall, ac a werssyllodd o flaen Raphon o’r tu draw i’r afon.
38Ac Iudas a anfonodd i spio ’r gwersyll, ac hwy a ddygasant air iddo ef gan ddywedyd, mae ’r cenhedloedd y rhai sy o’n hamgylch ni wedi ymgasclu atto ef, ac mae ’r llu yn lluosog iawn.
39Ac hwy a gyflogasant yr Arabiaid iw cymmorth hwy, ac a werssyllasant o’r tu draw i’r afon, y maent hwy yn barod i ddyfod, ac i ym­ladd â thi, ac Iudas a aeth i gyfarfod â hwynt.
40A Thimothi a ddywedodd wrth gapteniaid ei lu, pan ddelo Iudas ai lu yn agos at yr afon, ôs daw efe trosodd yn gyntaf, ni allwn ni ei wrthwynebu ef, o blegit efe a fydd gwbl gadarnach nâ nyni.
41Ond o’s arswyda efe ddyfod trosodd, a gwerssyllu o’r tu draw i’r afon, nyni a awn trosodd atto ef, ac nyni a fyddwn gryfach nag ef.
42Ond pan nessaodd Iudas at yr afon efe a osododd scrifennyddion y bobl yng-lann yr afon, ac a orchymynnodd iddynt hwy gan ddywedyd, mogelwch adel vn dŷn o’r tu ymma i’r afon, ond deued pawb i’r rhyfel.
43Ac efe a aeth trosodd yn gyntaf attynt hwy ai holl bobl ar ei ôl ef, a’r holl genhedloedd a orchfyged ger ei fron ef, ac hwy a daflasant eu harfau ymmaith, ac a ffoasant i’r deml yr hon oedd yn Carnaim.
44Ac Iudas a ennillodd y ddinas, ac a loscodd y deml a phawb âr oedd ynddi hi, felly y gorchfyged Carnaim, ac ni allodd hi wrthwynebu Iudas.
45Ac Iudas a gasclodd yr holl Israeliaid y rhai oeddynt yn Galaad o’r lleiaf hyd y mwyaf, ai gwragedd hwy ai plant ai mud, gwerssyll mawr iawn, i ddyfod i wlâd Iuda.
46Ac hwy a ddaethant i Ephron yr hon oedd ddinas fawr gadarn iawn, ffordd y deuid i mewn, nid oedd fodd iddynt hwy i fyned heb ei llaw hi, nac ar y llaw ddehau, nac ar y llaw asswy, ond myned trwy ei chanol hi.
47Etto y dinassyddion ai caeasant hwynt allan, ac am hynny hwy a gaeasant y pyrth â cherric, ac Iudas a ddanfonodd attynt hwy â geiriau heddychol gan ddywedyd,
48Gedwch i ni fyned trwy eich gwlâd chwi fel y gallom fyned i’n gwlâd ein hun, ac ni chaiff neb wneuthur i chwi ddrwg, nid awn ni trwodd ond ar draed: ond ni fynnēt hwy agoryd iddo ef.
49Am hynny Iudas a orchymynnodd gyhoeddi yn y gwerssyll, a ruthro o bôb vn o’r lle y bydde ynddo.
50Ac felly gwŷr y llu a ruthrâsant, ac a ryfelasant yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw, a’r holl noson honno, a’r ddinas a roddwyd yn ei law ef.
51Ac efe a laddodd yr holl rai gwrywaid â mîn y cleddyf, ac a ddiwreiddiodd y ddinas, ac a gymmerodd ei hyspail hi, ac a dramwyodd trwy ’r holl ddinas a’r draws y rhai a laddassid.
52Yna hwy a aethant tros Iorddonen i’r maes gwastad yr hwn oedd a gyfer Bethsam.
53Ac Iudâs oedd yn casclu yng-hyd y rhai olaf, ac yn rhoddi cynghorion da i’r bobl rhyd yr holl ffordd, hyd oni ddaeth efe i wlâd Iuda.
54Ac hwy a aethant i fynu i fynydd Sion mewn gorfoledd, a llawenydd, ac a offrymmasant boeth offrymmau, am na laddasid neb o honynt hwy oni ddychwelasāt hwy yn heddychol.
55Ac yn y dyddiau hynny y rhai yr oedd Iudas ac Ionathas yng-wlâd Galaad, a Simō eu brawd hwy yng-wlâd Galilea gyferbyn â Ptolemais,
56Yna Iosephus mâb Zachari, ac Azarias capteniaid y llu a glywsant y gweithredoedd ardderchawg a’r rhyfeloedd a wnaethid, ac a ddywedasant,
57Gedwch i ninnau hefyd ennill enw i ni ein hunain, a myned i ymladd yn erbyn y cenhedloedd y rhai sy o’n hamgylch ni.
58Ac hwy a roddasant orchymyn i’r rhaî a oeddynt yn y llu, yr hwn oedd gyd â hwynt, ac a aethant tu ag Iamnia.
59Yna Gorgias ai wŷr a ddaeth allan o’r ddinas i ymladd yn eu herbyn hwy.
60Ond Ioseph, ac Azarias a ymlidiwyd hyd terfynau Iuda, a dwy fil o wŷr o bobl Israel a laddwyd y diwrnod hwnnw, oni bu trueni mawr ym-mlhith pobl Israel.
61A’r cwbl, am na wrandawsent hwy ar Iudas ai frodyr gan feddwl gwneuthur gwrolaeth.
62Etto nid oeddynt hwy o hâd y gwŷr hyn­ny y rhai a achubodd Israel.
63Ond y gwr Iudas ai frodyr hefyd a ganmolid yn fawr ger bron yr holl Israeliaid a’r holl genhedloedd, pa le bynnac y clywid eu henwi hwy.
64A’r bobl a ymgascle attynt hwy iw croe­sawu hwy.
65Wedi hynny Iudas ai frodyr a aethant allan, ac a ryfelasant yn y wlâd sy yn gorwedd tu âr dehau yn erbyn meibion Esau, ac yno efe a orescynnodd y ddinas ai phentrefydd, ac a lloscodd y caerau a’r tyrau oi hamgylch hi.
66Yna efe a ymadawodd i fyned i wlâd y di­eithriaid, ac a aeth trwy Samaria.
67Ar yr vn amser y lladdwyd [llawer o] offeiriaid y dinasoedd y rhai oeddynt yn ewyllysio gwneuthur gwrolaeth wrth fyned o honynt i ymladd heb gyngor.
68A phan ddaeth Iuda i Azotus yng-wlâd y dieithriaid, efe a ddestruwiodd eu hallorau hwy, ac a loscodd luniau eu duwiau hwy, ac a gymmerodd yspail y dinasoedd, ac a ddychwelodd i wlâd Iuda.

Currently Selected:

1.Machabæaid 5: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in