YouVersion Logo
Search Icon

1.Machabæaid 4

4
PEN. IIII.
1 Iudas yn myned yn erbyn Gorgias, yr hwn oedd yn ei gynllwyn ef, 14 efe yn gwneuthur i Gorgias, ac iw lu ffoi, 28 Lysias yn dyfod â llu o wyr i Iuda, 29 Iudas yn ei yrru ef allan, 43 Iudas yn glanhau’r Deml, ac yn cyssegru ’r allor.
1Yna Gorgias a gymmerod bum-mil o wŷr [traed,] a mil o wŷr meirch detholedig, ai lu ef a osododd allan liw nôs,
2Fel y galle efe ruthro i werssyll yr Iddewon ai taro hwy yn ddisymmwth, a milwŷr y castell oeddynt yn ei dywys ef ar byd y ffordd.
3Pan glybu Iudas, efe a osododd allan ei hun a’r gwŷr galluog gyd ag ef i daro llu y brenin yr hwn oedd yn Emmaus.
4Ac yr oedd lluoedd etto wedi ymdanu oddi wrth y gwerssyll.
5A Gorgias a ddaeth i werssyll Iudas liw nos, ac ni chafodd efe neb, ond efe ai ceisiodd hwy yn y mynyddoedd, ac a ddywedodd, y maent hwy yn ffoi oddi wrthym ni.
6Ond gyd ai dyddhau hi, Iudas a ymddangosodd yn y maes, a thair mîl o wŷr, ond nid oedd genddynt hwy na llurigau na chleddyfau fel yr ewyllysient.
7Pan welsont hwy werssyll y cenhedloedd yn gryf wedi ei wisco mewn llurigau, a’r gwŷr meirch yn ei amgylchu, a’r rhai hynny wedi eu dyscu i ryfela,
8Yna Iudas a ddywedodd wrth y gwŷr y rhai oeddynt gyd ag ef, nac ofnwch eu lluosogr­wydd hwy, ac nac ofnwch eu rhuthr hwy.
9Cofiwch fel yr achubwyd ein henafiaid ni yn y môr côch, pan erlidiodd Pharao hwy â llu [mawr.]
10Felly yr awran gadewch i ni lefain tu â’r nef [i edrych] a drugarhâo efe wrthym ni, ac a gofia efe ammod [ein] henafiaid, ar a ddryllia efe y gwerssyll hwn yn ein gŵydd ni heddyw.
11Fel y gwypo ’r holl genhedloedd fod a waredo, ac a achubo Israel.
12Yna y dieithraid a godasant eu golwg i fynu, ac ai canfuant hwy yn dyfod yn eu herbyn hwy.
13Ac a ddaethant allan o’r gwerssyll i ryfela: â’r rhai oeddynt gyd ag Iuda a ganâsant vdcyrn.
14Ac hwy a darawsant yng-hyd, â’r cenhedloedd a orchfyged, ac a ffoasant i’r maes gwastad.
15A’r holl rai diwethaf a laddwyd â’r cleddyf, ac hwy ai herlidiasant hwy hyd at Assare­meth, ac hyd at feusydd Idumaea, ac Azot, ac Iamnia, ac yng-hylch teir-mil o wŷr o honynt hwy a laddwyd.
16Ac Iudas a’r llu a ddychwelodd oi herlyd hwy.
17Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, na chwennychwch yspeilio, o blegit y mae rhyfel yn ein herbyn ni.
18O blegit y mae Gorgias ai lu yn y mynydd yn agos attom ni, ond sefwch yn awr yn erbyn ein gelynnion a gorchfygwch hwy, ac wedi hynny cymmerwch yr yspail yn ddiorafun.
19Pan oedd Iudas etto yn dywedyd hyn, vn rhan [o honynt hwy] a welid yn edrych allan o’r mynydd.
20Pan welodd [Gorgias] ffoi oi [blaid ef,] a’r rhai oeddynt gyd ag Iudas wedi llosci y gwerssyll (canys y mŵg yr hwn a welid a ddangosodd yr hyn a wnaethid) a’r rhai a welsant hyn a ofnasant yn ddirfawr.
21A phan welsant hwy lu Iuda yn y maes yn barod i ymladd,
22Hwy a ffoasant oll i wlâd y dieithraid.
23Ac Iudas a ddychwelodd i gymmeryd yspail y gwerssyll, ac a gymmerodd lawer o aur ac arian, a dillad o sidan glâs, a phorphor y môr a chyfoeth mawr.
24Felly hwy a aethant adref, ac a glodforasant, ac a fendithiasant Dduw nef, am ei fod efe yn ddaionus, ai drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.
25Ac felly Israel a gafodd fuddugoliaeth fawr y diwrnod hwnnw.
26A’r cenhedloedd a ddiangasent a ddaethant, ac a ddywedasant i Lysias bob peth a’r a ddigwyddase.
27A Lysias a ofnodd yn ddirfawr ac a ddigalonnodd am na ddigwyddase y cyfryw drychineb i Israel ac a fynnase efe, ac am na wneuthid iddo ef y cyfryw bethau ac a orchymynnase ’r brenin.
28A’r flwyddyn yr hon oedd yn canlyn, Lysias a gasclodd dri vgain mil o wŷr traed detho­ledic, a phum-mil o wŷr meirch i ryfela yn eu herbyn hwynt.
29Ac hwy a ddaethāt i Idumaea, ac a werssyllasant yn Beth-sura lle y daeth Iudas yn eu herbyn hwy â deng-mil o wŷr.
30A phan welodd efe werssyll cyn gryfed, efe a wnaeth ei weddi, #1.Sam.17.50.ac a ddywedodd, bendigedic wyt ti ô Achubwr Israel yr hwn a ddestruwiaist ruthr y cawr trwy law Dafydd dŷ wâs, #1.Sam.14.13.ac a roddaist werssyll y dieithraid yn llaw Ionathan fab Saul, ac arwainydd ei arfau ef.
31Cloa ’r gwerssyll hwn yn llaw dy bobl Israel, a chywilyddier hwy yn eu lliawsogrw­ydd ai gwŷr meirch.
32Gwna iddynt hwy ofni, a thawdd eu hyfder hwy ai cadernid, fel y cynhyrfant hwy trwy eu destruw.
33Tafl hwy i lawr â chleddyf y rhai sy ’n dy garu di: yna pawb a’r a adwaenant dy enw a’th glodfarant â hymnau.
34Yna hwy a darawsant yng-hyd, a phum­mil o wŷr o werssyll Lysias a laddwyd.
35Pan welodd Lysias orchfygu ei wŷr, a gwrolaeth yr Iddewon, fel yr oeddynt hwy ’n barod pa vn bynnag ai i fyw, ai i farw fel gwŷr, efe a aeth i Anthioch, ac a ddetholodd ryfelwŷr, ac a feddylioddd eu casclu hwy yng-hyd i ddyfod trachefn i Iudaea.
36Yna Iudas a ddywedodd ai frodyr, wele, gorchfygwyd ein gelynnion, awn i fynu i lanhau, ac i adnewyddu y cyssegr.
37Wrth hyn yr holl lu a ymgasclodd, ac hwy a aethant i fynu i fynydd Sion.
38A phan welsant hwy y cyssegr wedi ei anrheithio, yr allor wedi ei halogi, y dorau wedi eu llosci, a’r manwydd yn tyfu yn y neuaddau fel mewn coed, neu ar y mynyddoedd, ac stafelloedd yr offeiriaid wedi eu destruwio:
39Hwy a rwygasant eu dillad, ac a alarasant â galar mawr, ac a fwriasant ludw ar eu pennau,
40Ac a syrthiasant i lawr ar eu hwynebau, ac a wnaethant sŵn mawr ag vdcyrn, ac a weddiasant tu a’r nef.
41Yna Iudas a orchymynnodd ei wŷr i ryfela yn erbyn y rhai oedd yn y castell, hyd oni ddarfydde iddo ef lanhau ’r cyssegr.
42Ac efe a ddewisodd offeiriaid diargyoedd y rhai oeddynt ewyllyscar i’r gyfraith.
43Ac hwy a lanhâsant y cyssegr, ac a ddu­gasant allan y cerric halogedic i le aflan.
44A chan fod allor y poeth offrymmau wedi ei halogi, efe a ymgynghorodd beth a wnae efe iddi hi.
45Felly efe a feddyliodd mai goref oedd ei destruwio hi rhag digwyddo iddi hi wneuthur cywilydd iddynt hwy, canys y cenhedloedd ai halogasent hi: am hynny hwy a ddestruwiasant yr allor.
46Ac hwy a osodasant y cerric ar fynydd y tŷ mewn lle cyfaddas, hyd oni ddele prophwyd i fynegu pa beth a wneid â hwynt.
47Ac hwy a gymmerasant gerrig cyfan yn ôl y gyfraith, ac a adeiladasant allor newydd fel yr oedd y gyntaf.
48Ac a wnaethant y cyssegr i fynu, a thu mewn y tŷ, ac a sancteiddiasant y cynteddau.
49Ac a wnaethant lestri sanctaidd newydd, ac a ddygasant y canhwyllbren, ac allor y poeth­offrymmau, yr arogl-aberthau a’r bwrdd i mewn i’r Deml.
50Ac hwy a loscasant aroglau ar yr allor, ac a oleuasant y canhwyllau y rhai oeddynt yn y canhwyllbren i losci yn y Deml.
51Ac hwy a osodasant y bara ar y bwrdd, ac a estynnasant y llenni, ac a orphennasant yr holl waith a wnaethent.
52Ac ar y pummed dydd ar hugain o’r naw­fed mîs (yr hwn a elwir mis Casseu) yn yr ŵythfed flwyddyn a deugain a chant,
53Hwy a godasant yn foreu i fynu i abethu yn ôl y gyfraith ar allor newydd y poeth offrymmau yr hon a wnaethent hwy.
54Ar gyfer yr amser ar diwrnod ac yr halogase y cenhedloedd hi, yn vniawn y gosoded hi i fynu o newydd, â chaniadau, â thelynau, â phibau ac â symbalau.
55A’r holl bobl a syrthiasant ar eu hwynebau, gan addoli a diolch i [Dduw] y nef ai llwyddase hwy.
56Ac felly hwy a gadwasant gyssegriad yr allor ŵyth niwrnod gan offrymmu poeth-offrymmau a diolchoffrymmau mewn llawenydd.
57Ac a harddasant dalcen y Deml â choronau, ac â thariannau o aur, ac a saneteiddiasant y pyrth a’r stafelloedd, ac a osodasant ddrysau arnynt hwy.
58Ac yr oedd llawenydd mawr ym-mhlith y bobl am droi gwradwydd y cenhedloedd ymmaith.
59Felly Iudas ai frodyr, a holl gynnulleidfa Israel a ordeiniodd gadw dyddiau cyssegriad yr allor yn eu hamserau yn vchel-wyl bob blwyddyn tros ŵyth niwrnod, gan ddechreu y pummed dydd ar hugain o’r mi’s Casseu trwy orfoledd a llawenydd.
60Ac ar yr vn amser hwy a adeiladasant fy­nydd Sion i fynu â chaerau vchel, ac â thyrau cedyrn oddi amgylch rhag dyfod o’r cenhedloedd ai sathru ef i lawr, fel y gwnaethent hwy o’r blaen. Am hynny [Iudas] a osododd ryfelwŷr ynddo ef iw gadw ef, ac ai gwnaeth ef yn gadarn i gadw Beth-sura, fel y cae yr bobl amddeffynfa yn erbyn yr Edomiaid.

Currently Selected:

1.Machabæaid 4: BWMG1588

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in