YouVersion Logo
Search Icon

Numeri 21

21
1 Israel trwy beth colled yn difetha y Canaaneaid yn Horma. 4 Y bobl yn tuchan, ac yn cael eu brathu gan seirff tanllyd; 7 ac ar eu hedifeirwch yn cael eu hiacháu gan y sarff bres. 10 Amryw deithiau yr Israeliaid. 21 Gorchfygu Sehon, 33 ac Og.
1A’r #Pen 33:40; Edrych Barn 1:16brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion. 2Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt. 3A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a’u difrododd hwynt, a’u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw #21:3 Hynny yw, Difrod.Horma.
4A #Pen 33:41hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd. 5A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o’r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; #Pen 11:6a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn. 6#1 Cor 10:9A’r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl #Deut 8:15seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
7A daeth y bobl at Moses, a dywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: #Exod 8:8, 28; 1 Bren 13:6; Act 8:24gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl. 8A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw. 9A #2 Bren 18:4; Ioan 3:14gwnaeth Moses sarff bres, ac a’i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.
10A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac #Pen 33:43a wersyllasant yn Oboth. 11A hwy a aethant o Oboth, ac #Pen 33:44a wersyllasant #21:11 Heb. yn Ije‐Abarim.yng ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.
12 # Deut 2:13 Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth afon Sared. 13Cychwynasant oddi yno, a gwersyllasant wrth ryd Arnon, yr hon sydd yn yr anialwch, yn dyfod allan o ardal yr Amoriaid: canys #Barn 11:18Arnon oedd derfyn Moab, rhwng Moab a’r Amoriaid. 14Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, #21:14 Neu, Faheb yn Suffa.Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon, 15Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a #21:15 orwedd ar.bwysa at derfyn Moab. 16Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
17Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; #21:17 Neu, atebwch.cenwch iddi. 18Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â’r deddfwr, â’u ffyn. Ac o’r anialwch yr aethant i Mattana: 19Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth: 20Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd #21:20 Heb. ym maes.yng ngwlad Moab, i ben #21:20 Pisga.y bryn sydd yn edrych #21:20 Jesimon.tua’r diffeithwch.
21Yna #Deut 2:26, 27; Barn 11:19yr anfonodd Israel genhadau at Sehon brenin yr Amoriaid, gan ddywedyd, 22#Pen 20:17Gad i mi fyned trwy dy dir: ni thrown i faes, na gwinllan; nid yfwn ddwfr un ffynnon: ar hyd ffordd y brenin y cerddwn, hyd onid elom allan o’th derfynau di. 23#Deut 29:7Ac ni roddodd Sehon i Israel ffordd trwy ei wlad: ond casglodd Sehon ei holl bobl, ac a aeth allan yn erbyn Israel i’r anialwch: ac efe a ddaeth i Jahas, ac a ymladdodd yn erbyn Israel. 24Ac #Deut 2:33; 29:7; Jos 12:2; 24:8; Neh 9:22; Salm 135:10, 11; 136:19; Amos 2:9Israel a’i trawodd ef â min y cleddyf; ac a oresgynnodd ei dir ef, o Arnon hyd Jabboc, hyd at feibion Ammon: canys cadarn oedd terfyn meibion Ammon. 25A chymerodd Israel yr holl ddinasoedd hynny: a thrigodd Israel yn holl ddinasoedd yr Amoriaid, yn Hesbon, ac yn ei holl #21:25 Heb. ferched.bentrefydd. 26Canys dinas Sehon, brenin yr Amoriaid, ydoedd Hesbon, ac yntau a ryfelasai yn erbyn brenin Moab, yr hwn a fuasai o’r blaen, ac a ddug ei dir ef oddi arno, hyd Arnon. 27Am hynny y dywed y diarhebwyr, Deuwch i Hesbon; adeilader a chadarnhaer dinas Sehon. 28Canys #Jer 48:45tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion #21:28 Uchelfeydd Arnon.Bamoth Arnon. 29Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl #1 Bren 11:7, 33; 2 Bren 23:13Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a’i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid. 30Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.
31A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid. 32A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33 # Deut 3:1; 29:7 Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a’i holl bobl. 34A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a’i holl bobl, a’i dir; #Salm 135:10, 11; 136:20a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon. 35Am hynny y trawsant ef, a’i feibion, a’i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.

Currently Selected:

Numeri 21: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in