Numeri 20
20
1 Plant Israel yn dyfod i Sin; lle y bu farw Miriam. 2 Hwynt‐hwy yn tuchan o eisiau dwfr. 7 Moses yn taro y graig, ac yn dwyn allan ddwfr ym Meriba. 12 Cosbedigaeth Moses ac Aaron, am eu petruster. 14 Moses yn Cades yn deisyfu ffordd i dramwy trwy Edom; ac yn cael ei nacau. 22 Aaron yn rhoddi i fyny ei le i Eleasar, ac yn marw.
1A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. 2Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. 3Ac #Exod 17:2ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw #Pen 11:1, 33; Pen 14:37; Pen 16:32, 35, 46pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd! 4#Exod 17:3Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? 5A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? 6A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac #Pen 14:5; 16:4a syrthiasant ar eu hwynebau: #Pen 14:10a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 8#Exod 17:5Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: #Neh 9:15; Salm 78:15, 16; 105:41; 114:8; Esa 43:20; 48:21a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. 9A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo. 10A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac #Salm 106:33efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? 11A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a #Exod 17:6; 1 Cor 10:4daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.
12A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am #Pen 27:14; Deut 1:37; 3:26; 32:51na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. 13#Deut 33:8; Salm 95:8; 106:32 &cDyma ddyfroedd #20:13 Hynny yw, Cynnen.Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
14A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel #Deut 23:7; Obad ad. 10, 12dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni: 15Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a’n tadau. 16A #Exod 2:23; 3:7ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac #Exod 14:19; 23:20a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di. 17Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di. 18A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod. 19A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, #Deut 2:6, 28rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed. 20Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref. 21Felly Edom #Edrych Deut 2:29a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny #Deut 2:4, 5; Barn 11:18Israel a drodd oddi wrtho ef.
22A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, #Pen 33:37a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor. 23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd, 24Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i’m #20:24 Heb. genau.gair, wrth ddwfr #20:24 Hynny yw, Cynnen.Meriba. 25#Pen 33:38; Deut 32:50Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor; 26A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno. 27A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa. 28A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a #Deut 10:6; 32:50bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd. 29A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron #Felly Deut 34:8ddeng niwrnod ar hugain.
Currently Selected:
Numeri 20: BWM1955C
Highlight
Share
Copy
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society