YouVersion Logo
Search Icon

Marc 1

1
A.D. 26. yn diweddu. —
2 Swydd Ioan Fedyddiwr. 9 Bedyddio Iesu, 12 a’i demtio. 14 Efe yn pregethu; 16 yn galw Pedr, Andreas, Iago, ac Ioan: 23 yn iacháu dyn ag ysbryd aflan ynddo, 29 a mam gwraig Pedr, 32 a llawer o gleifion: 41 ac yn glanhau y gwahanglwyfus.
1Dechrau efengyl Iesu Grist, Fab Duw; 2Fel yr ysgrifennwyd yn y proffwydi, #Mal 3:1; Mat 11:10; Luc 7:27Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 3#Esa 40:3; Mat 3:3; Luc 3:4; Ioan 1:15, 23Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn union ei lwybrau ef. 4#Mat 3:1; Luc 3:3; Ioan 3:23Yr oedd Ioan yn bedyddio yn y diffeithwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau. 5#Mat 3:5Ac aeth allan ato ef holl wlad Jwdea, a’r Hierosolymitiaid, ac a’u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau. 6Ac Ioan oedd #Mat 3:4wedi ei wisgo â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwyta #Lef 11:22locustiaid a mêl gwyllt. 7Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, #Mat 3:11Y mae yn dyfod ar fy ôl i un cryfach na myfi, carrai esgidiau yr hwn nid wyf fi deilwng i ymostwng ac i’w datod. 8#Act 1:5; 11:16; 19:4Myfi yn wir a’ch bedyddiais chwi â dwfr: eithr efe a’ch bedyddia chwi #Esa 44:3; Joel 2:28; Act 2:4; 11:15â’r Ysbryd Glân. 9#Mat 3:13; Luc 3:21A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o’r Iesu o Nasareth yng Ngalilea; ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen. 10Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fyny o’r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, a’r Ysbryd yn disgyn arno megis colomen. 11A llef a ddaeth o’r nefoedd, #Salm 2:7; Esa 42:1; Mat 3:17; Pen 9:7Tydi yw fy annwyl Fab, yn yr hwn y’m bodlonwyd. 12Ac #Mat 4:1; Luc 4:1yn ebrwydd y gyrrodd yr Ysbryd ef i’r diffeithwch. 13Ac efe a fu yno yn y diffeithwch ddeugain niwrnod yn ei demtio gan Satan: ac yr oedd efe gyda’r gwylltfilod: a’r angylion a weiniasant iddo. 14Ac #Mat 4:12ar ôl traddodi Ioan, yr Iesu a ddaeth i Galilea, #Mat 4:23gan bregethu efengyl teyrnas Dduw; 15A dywedyd, #Gal 4:4; Eff 1:10Yr amser a gyflawnwyd, a #Mat 3:2theyrnas Dduw a nesaodd: edifarhewch, a chredwch yr efengyl. 16Ac #Mat 4:18; Luc 5:4fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilea, efe a ganfu Simon, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pysgodwyr oeddynt.) 17A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i chwi fod yn bysgodwyr dynion. 18Ac yn ebrwydd, #Mat 19:27; Luc 5:11gan adael eu rhwydau, y canlynasant ef. 19Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio’r rhwydau. 20Ac yn y man efe a’u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tad Sebedeus yn y llong gyda’r cyflogddynion, ac a aethant ar ei ôl ef. 21#Mat 4:13; Luc 4:31A hwy a aethant i mewn i Gapernaum; ac yn ebrwydd ar y dydd Saboth, wedi iddo fyned i mewn i’r synagog, efe a athrawiaethodd. 22A #Mat 7:28synasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dysgu hwy megis un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion. 23#Luc 4:33Ac yr oedd yn eu synagog hwy ddyn ag ynddo ysbryd aflan: ac efe a lefodd, 24Gan ddywedyd, #1:24 Paid.Och, #Mat 8:29beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? mi a’th adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw. 25A’r Iesu #Ad. 34a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dos allan ohono. 26Yna wedi i’r ysbryd aflan #Pen 9:20ei rwygo ef, a gweiddi â llef uchel, efe a ddaeth allan ohono. 27Ac fe a aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon? canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymyn, ie, yr ysbrydion aflan, a hwy yn ufuddhau iddo. 28Ac yn ebrwydd yr aeth sôn amdano dros yr holl wlad o amgylch Galilea. 29Ac #Mat 8:14; Luc 4:38yn y man wedi iddynt fyned allan o’r synagog, hwy a aethant i dŷ Simon ac Andreas, gydag Iago ac Ioan. 30Ac yr oedd #1:30 mam gwraig Simon.chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o’r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi. 31Ac efe a ddaeth, ac a’i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a’r cryd a’i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy. 32#Mat 8:16Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a’r rhai cythreulig. 33A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws. 34Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac #Luc 4:41; Act 16:17, 18ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef. 35A’r #Luc 4:42bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd. 36A Simon, a’r rhai oedd gydag ef, a’i dilynasant ef. 37Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di. 38Ac efe a ddywedodd wrthynt, #Luc 4:43Awn i’r trefydd nesaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys #Esa 61:1i hynny y deuthum allan. 39Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid. 40#Mat 8:2; Luc 5:12A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau. 41A’r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân. 42Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef. 43Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a’i hanfonodd ef ymaith yn y man; 44Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau #Lef 14:4a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy. 45#Luc 5:15Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu’r gair ar led, fel na allai’r Iesu fyned mwy yn amlwg i’r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.

Currently Selected:

Marc 1: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in