YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 13

13
A.D. 31. —
3 Dameg yr heuwr a’r had; 18 a’i dehongliad. 24 Dameg yr efrau, 31 yr hedyn mwstard, 33 y surdoes, 44 y trysor cuddiedig, 45 y perl, 47 a’r rhwyd. 53 Y modd y dirmygir Crist gan ei wladwyr ei hun.
1Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, #Marc 4:1ac yr eisteddodd wrth lan y môr. 2A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel #Luc 5:3yr aeth efe #13:2 i long.i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. 3Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, #Luc 8:5Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. 4Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. 5Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: 6Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. 7A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. 8Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. 9#Pen 11:15Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? 11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am #Pen 16:17; Marc 4:11; 1 Cor 2:10; 1 Ioan 2:27roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. 12#Pen 25:29; Marc 4:25; Luc 8:18; 19:26Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. 13Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 14Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, #Esa 6:9; Esec 12:2; Marc 4:12; Luc 8:10; Ioan 12:40; Act 28:26; Rhuf 11:8Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; 15Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u #Heb 5:11clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. 16Eithr #Pen 16:17; Luc 10:23, 24; Ioan 20:29dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: 17Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, #1 Pedr 1:10chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.
18 # Marc 4:14; Luc 8:11 Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. 19Pan glywo neb air #Pen 4:23y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. 20A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd #Esa 58:2; Ioan 5:35trwy lawenydd yn ei dderbyn; 21Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan #Pen 11:6efe a rwystrir. 22#Pen 19:23; Marc 10:23; Luc 18:24; 1 Tim 6:9A’r hwn a heuwyd #Jer 4:3ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 23Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.
24Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: 25A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. 27A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? 28Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? 29Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. 30Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond #Pen 3:12cesglwch y gwenith i’m hysgubor.
31Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, #Marc 4:30; Luc 13:19Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: 32Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.
33 # Luc 13:21 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl. 34#Marc 4:33, 34Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt; 35Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, #Salm 78:2Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.
36Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau’r maes. 37Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn; 38A’r maes yw’r byd; a’r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a’r efrau yw #Gen 3:13; Ioan 8:44; Act 13:10; 1 Ioan 3:8plant y drwg; 39A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; #Joel 3:13; Dat 14:15a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion. 40Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn. 41#Pen 24:31Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnânt anwiredd; 42Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: #Pen 8:12yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 43#Dan 12:3; 1 Cor 15:42Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. #Ad. 8Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
44Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, #Phil 3:7, 8ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac #Esa 55:1; Dat 3:18yn prynu’r maes hwnnw.
45Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: 46Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.
47Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac #Pen 22:10a gasglodd o bob rhyw beth: 48Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac #Pen 25:32a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: #Ad. 42yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 51Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. 52A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor #Can 7:13 bethau newydd a hen.
53A bu, wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno. 54#Pen 2:23; Marc 6:1; Luc 4:16, 23Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn? 55#Marc 6:3; Ioan 6:42Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, #Pen 12:46ei frodyr ef? 56Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll? 57A hwy #Pen 11:6a rwystrwyd ynddo ef. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, #Marc 6:4; Luc 4:24; Ioan 4:44Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 58Ac #Marc 6:5, 6ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

Currently Selected:

Mathew 13: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in