YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 12

12
A.D. 31. —
1 Crist yn ceryddu dallineb y Phariseaid, o ran torri y Saboth; 3 trwy ysgrythyrau, 10 trwy reswm, 13 a thrwy ryfeddod; 22 yn iacháu y dyn cythreulig, mud a dall. 31 Ni faddeuir byth gabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân. 36 Y rhoddir cyfrif am eiriau segur. 38 Y mae yn ceryddu yr anffyddloniaid a geisient arwydd; 49 ac yn dangos pwy yw ei frawd, a’i chwaer, a’i fam.
1Yr amser hwnnw #Deut 23:25; Marc 2:23; Luc 6:1yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. 2A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw #12:2 gyfreithlon.rydd ei wneuthur ar y Saboth. 3Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch #1 Sam 21:6pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef? 4Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd #12:4 torthau dangos, y rhai nid oedd gyfreithlon.#Exod 25:30; Lef 24:5y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, #Exod 29:32, 33; Lef 8:31; 24:9ond yn unig i’r offeiriaid? 5Neu oni ddarllenasoch yn y #Num 28:9; Ioan 7:22gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? 6Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma #2 Cron 6:18 un mwy na’r deml. 7Ond pe gwybuasech beth yw hyn, #Hos 6:6; Pen 9:13Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. 8Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn. 9#Marc 3:1; Luc 6:6Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt.
10Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, #Luc 13:14; 14:3; Ioan 9:16Ai #12:10 cyfreithlon.rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. 11Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac #Exod 23:4; Deut 22:4o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly #12:12 cyfreithlon.rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. 13Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.
14Yna yr aeth #Marc 3:6; Ioan 5:18; 10:39; 11:53y Phariseaid allan, ac a #12:14 Neu, gymerasant gyngor.ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 15A’r Iesu gan wybod, #Edrych Pen 10:23a giliodd oddi yno; #Pen 19:2a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; 16Ac #Pen 9:30a orchmynnodd iddynt, na #12:16 chyhoeddent ef.wnaent ef yn gyhoedd: 17Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 18#Esa 42:1Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, #Pen 3:17; 17:5yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. 19Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. 20Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd.
22 # Pen 9:32 ; Marc 3:11; Luc 11:14Yna y ducpwyd ato un cythreulig, dall, a mud: ac efe a’i hiachaodd ef, fel y llefarodd ac y gwelodd y dall a mud. 23A’r holl dorfeydd a synasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mab Dafydd? 24#Pen 9:34; Marc 3:22; Luc 11:15Eithr pan glybu’r Phariseaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, ond trwy #12:24 Gr. Beelsebwl: felly ad. 27.Beelsebub pennaeth y cythreuliaid. 25A’r Iesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a phob dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif. 26Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef? 27Ac os trwy Beelsebub yr ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. 28Eithr os ydwyf fi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Ysbryd Duw, yna y daeth teyrnas Dduw atoch. 29Neu, #Esa 49:24; Luc 11:22pa fodd y dichon neb fyned i mewn i dŷ un cadarn, a llwyr ysbeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn? ac yna yr ysbeilia efe ei dŷ ef. 30Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru.
31Am hynny y dywedaf wrthych chwi, #Marc 3:28; Luc 12:10; Heb 6:4; 10:26, 29; 1 Ioan 5:16Pob pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: ond cabledd yn erbyn yr Ysbryd Glân ni faddeuir i ddynion. 32A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, #1 Tim 1:13fe a faddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Ysbryd Glân, nis maddeuir iddo, nac yn y byd hwn, nac yn y byd a ddaw. 33Naill ai gwnewch y pren yn dda, #Pen 7:17; Luc 6:43, 44a’i ffrwyth yn dda; ai gwnewch y pren yn ddrwg, a’i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth. 34#Pen 3:7; 23:33O epil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? #Luc 6:45canys o helaethrwydd y galon y llefara’r genau. 35Y dyn da, o drysor da’r galon, a ddwg allan bethau da: a’r dyn drwg, o’r trysor drwg, a ddwg allan bethau drwg. 36Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, Mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn nydd y farn. 37Canys wrth dy eiriau y’th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y’th gondemnir.
38 # Pen 16:1 ; Marc 8:11; Luc 11:16, 29; 1 Cor 1:22Yna yr atebodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwenychem weled arwydd gennyt. 39Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a #Esa 57:3godinebus sydd yn ceisio arwydd; ac arwydd nis rhoddir iddi, ond arwydd y proffwyd Jonas: 40#Jona 1:17Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nos ym mol y morfil, felly y bydd Mab y dyn dridiau a thair nos yng nghalon y ddaear. 41#Luc 11:32Gwŷr Ninefe a gyfodant yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i #Jer 3:11; Esec 16:51; Rhuf 2:27condemniant hi; am iddynt hwy #Jona 3:5edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy na Jonas yma. 42#1 Bren 10:1; 2 Cron 9:1; Luc 11:31Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia hi; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy na Solomon yma. 43#Luc 11:24A phan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, #Job 1:7; 1 Pedr 5:8efe a rodia ar hyd lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra, ac nid yw yn ei gael. 44Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wag, wedi ei ysgubo a’i drwsio. 45Yna y mae efe yn myned, ac yn cymryd gydag ef ei hun saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanheddant yno: #Heb 6:4; 10:26; 2 Pedr 2:20ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.
46Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, #Marc 3:31; Luc 8:19, 20wele, ei fam a’i #Pen 13:55; Marc 6:3; Ioan 2:12; 7:3; Act 1:14; 1 Cor 9:5; Gal 1:19frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef. 47A dywedodd un wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi. 48Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasai wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i? 49Ac efe a estynnodd ei law tuag at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i: 50Canys #Edrych Ioan 15:14; Gal 5:6; 6:15; Col 3:11pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam.

Currently Selected:

Mathew 12: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Free Reading Plans and Devotionals related to Mathew 12

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy