YouVersion Logo
Search Icon

Malachi 2

2
1 Y mae yn ceryddu yr offeiriaid yn dost, am esgeuluso eu cyfamod; 11 a’r bobl, am eu gau‐dduwiaeth, 14 a’u godineb, 17 a’u hanffyddlondeb.
1Ac yr awr hon, chwi offeiriaid, i chwi y mae y gorchymyn hwn. 2#Lef 26:14, &c; Deut 28:15, &cOni wrandewch, ac oni ystyriwch, i roddi anrhydedd i’m henw i, medd Arglwydd y lluoedd; yna mi a anfonaf felltith arnoch chwi, ac a felltithiaf eich bendithion chwi: ie, myfi a’u melltithiais eisoes, am nad ydych yn ystyried. 3Wele fi yn #2:3 Neu, argyhoeddi.llygru eich had chwi, a #2:3 Heb. gwasgaraf.thaenaf dom ar eich wynebau, sef tom eich uchel wyliau; ac #2:3 Neu, efe. un a’ch cymer chwi #2:3 Neu, gydag ef.ato ef. 4Hefyd cewch wybod mai myfi a anfonais atoch y gorchymyn hwn, fel y byddai fy nghyfamod â Lefi, medd Arglwydd y lluoedd. 5#Num 25:12Fy nghyfamod ag ef oedd am fywyd a heddwch; a mi a’u rhoddais hwynt iddo #Deut 33:8, 9 am yr ofn â’r hwn y’m hofnodd, ac yr arswydodd o flaen fy enw. 6Cyfraith gwirionedd oedd yn ei enau ef, ac anwiredd ni chafwyd yn ei wefusau: mewn hedd ac uniondeb y rhodiodd gyda mi, a llaweroedd a drodd efe oddi wrth anwiredd. 7Canys #Deut 17:9, 10; Jer 18:18gwefusau yr offeiriad a gadwant wybodaeth, a’r gyfraith a geisiant o’i enau ef: oherwydd cennad Arglwydd y lluoedd yw efe. 8Ond chwi a giliasoch allan o’r ffordd, ac #1 Sam 2:17; Jer 18:15a barasoch i laweroedd #2:8 Heb. gwympo yn.dramgwyddo wrth y gyfraith: #Neh 13:29llygrasoch gyfamod Lefi, medd Arglwydd y lluoedd. 9Am hynny #1 Sam 2:30minnau hefyd a’ch gwneuthum chwi yn ddirmygus ac yn ddiystyr gan yr holl bobl; megis na chadwasoch fy ffyrdd i, ond bod yn #2:9 Neu, dueddol yn y gyfraith, neu, dyrchafu wynebau.derbyn wynebau yn y gyfraith. 10#Eff 4:6Onid un Tad sydd i ni oll? #Job 31:15onid un Duw a’n creodd ni? paham y gwnawn yn anffyddlon bob un yn erbyn ei frawd, gan halogi cyfamod ein tadau?
11Jwda a wnaeth yn anffyddlon, a ffieidd‐dra a wnaethpwyd yn Israel ac yn Jerwsalem: canys Jwda a halogodd sancteiddrwydd yr Arglwydd, yr hwn #2:11 Neu, a ddylasai ei hoffi.a hoffasai, ac #Esra 9:1; 10:2; Neh 13:23a briododd ferch duw dieithr. 12Yr Arglwydd a dyr ymaith y gŵr a wnêl hyn; #2:12 Neu, y gwyliwr a’r atebwr.yr athro a’r disgybl o bebyll Jacob, ac offrymydd offrwm i Arglwydd y lluoedd. 13Hyn hefyd eilwaith a wnaethoch, gan orchuddio â dagrau allor yr Arglwydd trwy wylofain a gweiddi; fel nad edrych efe mwyach ar yr offrwm, ac na chymer ef yn fodlon o’ch llaw chwi.
14Er hynny chwi a ddywedwch, Pa herwydd? Oherwydd mai yr Arglwydd a fu dyst rhyngot ti a rhwng #Diar 5:18gwraig dy ieuenctid, yr hon y buost #2:14 Neu, fradwraidd.anffyddlon iddi; er ei bod yn gymar i ti, ac yn wraig #Diar 2:17dy gyfamod. 15#Mat 19:5Onid un a wnaeth efe? a’r ysbryd #2:15 Neu, yn odidog.yng ngweddill ganddo. A phaham un? I geisio #2:15 Heb. had Duw.had duwiol. Am hynny gwyliwch ar eich ysbryd, ac na fydded neb anffyddlon yn erbyn gwraig ei ieuenctid. 16#Deut 24:1; Mat 5:32; 19:8#2:16 Neu, Canys dywed yr Arglwydd, Duw Israel, mai cas ganddo ollwng ymaith.Pan gasaech di hi, gollwng hi ymaith, medd yr Arglwydd, Duw Israel: canys gorchuddio y mae efe drais â’i wisg, medd Arglwydd y lluoedd: gan hynny gwyliwch ar eich ysbryd, na fyddoch anffyddlon.
17 # Esa 43:24 Blinasoch yr Arglwydd â’ch geiriau: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y blinasom ef? #Pen 3:15Am i chwi ddywedyd, Pob gwneuthurwr drwg sydd dda yng ngolwg yr Arglwydd, ac iddynt y mae efe yn fodlon; neu, Pa le y mae Duw y farn?

Currently Selected:

Malachi 2: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in